Neidio i'r prif gynnwy

I nodi dechrau'r gwaith ymunodd Ken Skates Ysgrifennydd yr Economi â Rebecca Lloyd, Rheolwr-gyfarwyddwr dynodedig Charlies Stores ar y safle saith erw i dorri'r dywarchen gyntaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

I nodi dechrau'r gwaith ymunodd Ken Skates Ysgrifennydd yr Economi â Rebecca Lloyd, Rheolwr-gyfarwyddwr dynodedig Charlies Stores ar y safle saith erw i dorri'r dywarchen gyntaf. 

Cyfarfu hwy â chynrychiolwyr contractwyr peirianneg sifil ac adeiladu Alun Griffiths Ltd sydd wrthi'n gwneud gwaith gwerth £676,000 i baratoi'r safle ar gyfer y cyfleuster 108,000 tr sg.

Mae gorchmynion ar wahân gwerth £76,000 hefyd wedi eu cyflwyno i Scottish Power, Severn Trent Water a Wales & West Utilities i symud y prif gyflenwad trydan, dŵr a nwy ar y safle.

Meddai Ken Skates: 

"Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio'n agos â Charlies Stores i gefnogi eu cynlluniau i ehangu a datblygu yn y canolbarth ac rwy'n falch bod y gwaith o baratoi'r safle i'w ddatblygu bellach wedi dechrau.

"Mae Charlies yn gyflogwr pwysig iawn a bydd eu buddsoddiad yn sicrhau ei fod yn datblygu yn y canolbarth mewn ffordd gynaliadwy i'r dyfodol, gan gefnogi a chreu swyddi yn lleol a helpu i ddatblygu'r gystadleuaeth yn yr ardal benodol hon o Gymru."

Meddai Rebecca Lloyd: 

"Rydym yn falch iawn o weld y gwaith o baratoi'r pridd yn dechrau ar ein pencadlys a'n canolfan ddosbarthu newydd. Rydym  yn falch o gael ein pencadlys yn y canolbarth ac rydym yn falch o allu parhau i wneud hynny gyda'r cyfleuster modern hwn. Fel busnes sy'n datblygu, mae hyn yn amser cyffrous iawn inni a bydd yn rhoi'r opsiwn inni ehangu hyd yn oed mwy yn y dyfodol." 

Mae'r cwmni'n cyflogi dros 400 o staff mewn wyth o siopau, yn gwerthu nwyddau sy'n amrywio o esgidiau ac offer coginio i lifau cadwyn ac offer gwersylla. Mae gwerthiant ar-lein wedi gweld cynnydd o 80% o un flwyddyn i'r llall gydag uchelgais o werthiant ar y rhyngrwyd yn sbarduno twf yn y dyfodol. 

Mae'n gweithredu ar hyn o bryd ar draws sawl safle yn y Drenewydd a'r Trallwng, nifer ohonynt wedi cyrraedd eu capasiti llawn - mae  cyfuno'r gwaith o dan un to yn y ganolfan e-fasnach newydd yn golygu y bydd modd i'r cwmni fod yn fwy effeithiol, gwasanaethu mwy o siopau a datblygu ei fusnesau ar y we. 

Mae ganddo ganolfannau yn y Drenewydd, Aberystwyth, Caerfyrddin, Glannau Dyfrdwy a'r Amwythig. Agorodd ail siop yn Aberystwyth y llynedd.

Mae'r gwaith yn cynnwys lefelu'r safle, symud llwybr cyhoeddus, dymchwel seilwaith gan gynnwys rhan o ffordd ac is-orsaf drydan. Bydd cwblhau'r gwaith yn ystod mis Awst 2017 yn golygu y bydd y safle'n cael ei drosglwyddo i Charlies Stores.