Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, yn amlinellu gwaith Llywodraeth Cymru ar hyrwyddo cydraddoldeb LHDT yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, wedi amlinellu'r camau nesaf y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas â gwahardd yr arfer o therapi trosi ledled Cymru. Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog hefyd fod GIG Cymru wedi ymrwymo i Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth i wahardd therapi trosi yng Nghymru, er mwyn  gweithio tuag at gyflawni ein huchelgais i fod y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop.

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol:

Fel llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i gyflawni ein huchelgais i fod y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop, fel nad oes neb yn cael ei adael allan na'i adael ar ôl.

Heddiw, rwy'n cyhoeddi sawl cam pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod therapi trosi yn arferiad sy’n perthyn i’r oes o’r blaen.

Yn ogystal â cheisio cyngor cyfreithiol ar y camau y gallwn ni eu cymryd yng Nghymru i roi terfyn ar yr arfer o therapi trosi yn unochrog; byddwn yn addysgu ac yn codi ymwybyddiaeth o erchyllterau ac aneffeithiolrwydd arferion therapi trosi drwy sefydlu ymgyrch bwrpasol yng Nghymru.

Ochr yn ochr â hyn, bydd gwaith yn cael ei wneud i ddeall yn well yr effaith y mae 'therapi' trosi wedi’i chael ar oroeswyr, er mwyn gallu gwella gwasanaethau cymorth. Byddwn ni hefyd yn sefydlu gweithgor o arbenigwyr, a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o gymunedau ffydd, y sector iechyd a gofal cymdeithasol, a chynrychiolwyr sy’n blant ac yn bobl ifanc, ar y cyd â phobl LHDTC+ i helpu gyda'r gwaith hwn. A bydd y gweithgor hwnnw’n cynghori ar elfennau allweddol wrth i’r gwaith ar wahardd yr arfer fynd rhagddo.

Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd fod Llywodraeth Cymru a GIG Cymru wedi ymrwymo i 'Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth' gyda'r Glymblaid yn erbyn Therapi Trosi. Bydd y sefydliadau hynny sy'n llofnodi'r Memorandwm ac yn gweithio i ddarparu neu gomisiynu iechyd meddwl neu seicolegol, megis y GIG, yn ymrwymo i sicrhau nad ydynt yn comisiynu nac yn darparu therapi trosi yng Nghymru.

Dywedodd Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru a Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru:

Mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn llwyr gefnogi gwahardd therapi trosi LHDTC+ – a dangoswyd hynny drwy’r ffaith ein bod ni wedi llofnodi'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda'r Glymblaid yn erbyn Therapi Trosi.

Rydyn ni’n sefyll yn unedig yn ein hymrwymiad i wneud yr arfer erchyll hwn yn anghyfreithlon. Rydyn ni o’r farn y bydd y gwaith hwn yn cynnig cyfle pwysig i gefnogi'r rhai sydd mewn perygl o gael therapi trosi, yn ogystal â’r rhai sydd wedi’i ddioddef a’i oroesi.

Yn olaf, dywedodd y Dirprwy Weinidog:

Drwy'r mesurau rwy wedi'u cyhoeddi, a thrwy meithrin cysylltiadau â phartneriaid ar draws sectorau hanfodol, rwy'n hyderus y gallwn ni, gyda'n gilydd, ymateb i'r her o wneud Cymru'r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop – lle mae pob cwr o'n gwlad yn rywle diogel i bobl LHDTC+ fyw'n agored ac yn driw i’w hunain.