Bydd prosiectau’n cael eu cwblhau neu’n cael eu hatal dros dro ar hyd yr A55, yr M4 a phob cefnffordd fawr yn ystod y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig, ac eithrio sefyllfaoedd brys nad ydynt wedi cael eu trefnu ymlaen llaw.
Os yw’n ddiogel gwneud hynny, mae Llywodraeth Cymru naill ai’n cwblhau neu’n atal dros dro unrhyw brosiectau a allai peri problemau ar ein rhwydweithiau yn ystod adeg sydd fel arfer gyda’r prysuraf yn y flwyddyn.
Gofynnir i bobl fod yn gall ac aros mor agos i'w cartref â phosibl eleni yn unol â chanllawiau a rheoliadau. Cyn teithiau hanfodol, anogir pobl i wirio amodau traffig a sicrhau bod cerbydau'n addas ar gyfer y ffordd.
Mae gwaith ymchwil yn dangos bod bron hanner yr holl achosion o gerbydau’n torri i lawr wedi’u hachosi gan broblemau mecanyddol y gellid eu hosgoi drwy wneud gwiriadau syml. Mae bron chwarter o’r achosion yn ymwneud â phroblemau gyda theiars.
Ychwanegodd Ken Skates:
Ar ôl y seibiant byr hwn, byddwn yn gofyn i fodurwyr yng Ngogledd Cymru fod yn amyneddgar gan fod yn rhaid inni wneud gwaith hanfodol ar Bont Glan Conwy ger cyffordd 19 o’r A55. Dylai’r gwaith ddechrau ar 15 Ionawr, gan barhau am hyd at bythefnos. Gan fod oedi’n bosibl, rwy’n eich annog i gynllunio unrhyw deithiau hanfodol yn ofalus ac edrych ar wefan Traffig Cymru am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mae’r cymalau ehangu mawr ym mhen dwyreiniol y bont wedi cyrraedd diwedd eu hoes ac mae’n rhaid gosod rhai newydd ar frys i sicrhau diogelwch modurwyr ac osgoi’r angen am gau’r bont ar frys.
Nid ydym yn cynllunio i gau cerbytffyrdd yn gyfan gwbl oni bai ei fod yn hollol angenrheidiol. Diogelwch y cyhoedd sy’n teithio yw’r brif ystyriaeth ac mae angen i’r gwaith hwn fynd rhagddo i sicrhau hynny.
Bydd y tîm pwrpasol yn gweithio sifftiau 24 awr y dydd ac rydym yn annog modurwyr i fod yn amyneddgar. Arhoswch ar yr A55 ac osgoi ffyrdd lleol i sicrhau fod y traffig yn gallu lifo mor llyfn â phosib.