Neidio i'r prif gynnwy

Mae tystiolaeth o Wyfyn Ymdeithiwr y Derw (GYD) wedi’i ganfod ar goeden dderwen yng Ngerddi Parc y Rhath yng Nghaerdydd o ganlyniad i archwiliad gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar saith coeden dderwen sydd wedi’u plannu o’r newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddwyd Hysbysiad Planhigion Statudol ar y coed heddiw (24 Gorffennaf) yn galw am drin a symud y coed. 

Cafodd y goeden wedi’i heintio yng Ngerddi Parc y Rhath ei chwistrellu gan ddefnyddio pryfladdwr neithiwr a bydd yn cael ei symud, ynghyd â chwe choeden arall (25 Gorffennaf).

Y flaenoriaeth gyntaf yw cyfyngu a chlirio’r pla. Byddwn yn gweithio yn awr gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Caerdydd i sicrhau bod coed newydd yn cael eu plannu yn eu lle. 

I atal y risg o ledaenu’r haint ymhellach, bydd rhaglen fonitro yn cael ei chynnal yn yr ardal gan CNC a chydweithwyr yn yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion gyda mewnbwn gan Forest Research a Swyddogion Llywodraeth Cymru.

Ar 19 Gorffennaf 2019, cyflwynwyd cyfyngiadau llymach gennym ar fewnforio coed derw i warchod coed brodorol rhag bygythiad GYD. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Defra, y Comisiwn Coedwigaeth a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill i sicrhau gwarchodaeth ledled y DU rhag y pla hwn. 

Dim ond rhai coed derw penodol y caniateir eu mewnforio o dan y mesurau gwell, gan gynnwys:

  • y rhai o wledydd heb GYD 
  • y rhai o ardaloedd rhydd o bla dynodedig, gan gynnwys Ardaloedd Gwarchod - ardaloedd o’r Undeb Ewropeaidd sydd wedi’u datgan yn rhydd o GYD