Neidio i'r prif gynnwy

Mae aelodau blaenllaw o’r Bartneriaeth Darparu Metro wedi ymweld â safle newydd Canolfan Drafnidiaeth Integredig Caerdydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ymunodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr (Dros Dro) Llwybrau Cymru Network Rail, Bill Kelly, a Phrif Weithredwr Rightacres Property Company, Paul McCarthy gydag Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates ar ymweliad â’r safle.

Mae Partneriaeth Darparu Metro wedi cael ei sefydlu i hybu’n gwaith o ddatblygu Canolfan Drafnidiaeth Integredig Caerdydd, sy’n cynnwys yr Orsaf Fysiau, uwchraddio'r Orsaf Ganolog a gwella mynediad i feiciau, cerddwyr a cheir etc.

Mae’r gwaith wedi’i atgyfnerthu ymhellach gan gytundeb gwaith cydweithredol, a lofnodwyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd, Network Rail a’r datblygwr, Rightacres, er mwyn cynorthwyo i sicrhau dull cydweithredol a arweinir gan bartneriaeth  i gyflenwi system fetro integredig modern i Dde Cymru.

Prynodd Llywodraeth Cymru y safle yn ddiweddar oddi wrth Gyngor Caerdydd am £15m, gan gynnwys hawliau’r dyluniad gwreiddiol, dadansoddiad trafnidiaeth, cyflwr y tir, gwybodaeth am gyfleustodau ac egwyddorion pensaernïol.

Bydd y Gyfnewidfa Trafnidiaeth newydd lawer mwy na gorsaf fysiau yn unig a bydd yn cynnwys 300 o randai wedi’u cynllunio yn arbennig ar gyfer y farchnad rhentu, 80,000 o droedfeddi sgwâr o wagle swyddfa Gradd A a maes parcio cysylltiedig. Bydd yr orsaf fysiau yn cynnwys 14 o standiau ar gyfer bysiau a choetsys. Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau erbyn canol 2021.

Dim ond un elfen o ganolfan ehangach yw’r orsaf fysiau a’r gyfnewidfa. Mae datblygiadau eraill yn cynnwys:

  • Swyddfeydd newydd, llety preswyl a chyfleusterau hamdden yn ardal y Cei Canolog
  • Gwelliannau i Orsaf Caerdydd Canolog a’r ardal gyfagos er mwyn gwella mynediad ar gyfer cerddwyr, teithwyr trên a Metro;
  • Mwy o le ar gyfer llinellau Metro
    Ailgyflwyno gwasanaethau coets yng nghanol dinas Caerdydd;
  • Mwy o le i goetsys, parcio ceir a chanolfan newydd i feiciau yn y Cei Canolog a 1000 o fannau parcio beicio i’r de a’r gogledd o’r rheilffordd
  • Cynyddu uchafswm y teithwyr yng Ngorsaf Caerdydd Canolog i’w gwneud yn borth addas i brifddinas Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

“Rwy’n falch ein bod ni wedi gallu symud yn gyflym i ddechrau adeiladu’r prosiect hanfodol hwn yn dilyn caffael Safle’r Gyfnewidfa gan Lywodraeth Cymru.

“Mae Llywodraeth Cymru  wedi’i hymrwymo i greu rhwydweithiau metro integredig sy’n rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf. Gan weithio gyda’n partneriaid rydym am ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch o safon fyd-eang sy’n annog newid mewn dulliau teithio sydd ei hangen arnom ac sy’n sbarduno twf economaidd cynhwysol ar draws ardaloedd ehangach.

“Mae Cyfnewidfa Canol Caerdydd yn agwedd allweddol ar ein gweledigaeth ehangach ar gyfer Metro De Cymru ac rydym yn falch i fod yn cydweithio gyda Chyngor Caerdydd, Network Raila Rightacres, o dan delerau ein cytundeb cydweithredol y cytunwyd arno yn ddiweddar, i’wgyflawni.

“Does dim dwywaith fod ymyrraeth Llywodraeth Cymru wedi cyflymu hynt y prosiect hwn ac rwy’n hyderus y bydd yn gymorth i ddenu buddsoddiad ehangach.  Mae’n fodel rwy’n awyddus i’w ystyried mewn rhannau eraill o Gymru hefyd.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cyng Huw Thomas:

“Trwy weithio gyda’n gilydd, mae’r holl bartneriaid nawr yn barod i fynd â’r prosiect hwn yn ei flaen.  Mae llawer iawn o waith eisoes wedi’i wneud ers mis Mai diwethaf er mwyn sicrhau bod y datblygiad yn cael ei adeiladu ar sail cwbl fasnachol, a diolch i gyfraniad Llywodraeth Cymru, gallwn nawr sicrhau bod swyddfeydd Gradd A yn rhan o’r cynllun terfynol cymysg ei ddefnydd.  Dyma gyfle ardderchog i sicrhau’r prosiect mewnfuddsoddi mawr rydyn ni i gyd wedi bod yn gweithio at ei gael ers cryn amser.”

Dywedodd Bill Kelly, rheolwr gyfarwyddwr gweithredol y llwybr ar gyfer Cymru a’r Gororau:

“Roeddwn yn falch o gael llofnodi cytundeb Partneriaeth Cyflenwi’r Metro.  Mae’r rheilffordd yn helpu i gysylltu pobl, busnesau a chymunedau â’i gilydd, yn ogystal â helpu’r economi i dyfu.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r partneriaid eraill i gyflawni dros deithwyr a thros bobl Cymru.”