Mae'r Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies, wedi ymweld ag Aberaeron i weld cynnydd cynllun atal llifogydd gwerth £31.5m.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu 85 y cant o'r cyllid ar gyfer y cynllun uchelgeisiol a fydd yn lleihau'r perygl o lifogydd arfordirol i fwy na 124 eiddo preswyl a 42 eiddo amhreswyl yn Aberaeron.
Wrth siarad o Aberaeron, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:
"Mae maint y gwaith yma yn Aberaeron yn agoriad llygad go iawn - ac mae'n hanfodol i Aberaeron a'i chymuned gael ei gwarchod am genedlaethau i ddod.
"Rwy'n hynod ddiolchgar i'r gymuned am eu hamynedd wrth adeiladu'r cynllun hwn. Mae hwn yn brosiect peirianneg sifil enfawr sy'n digwydd o fewn tref hanesyddol.
"Mae'r cynllun yn cael ei gyflawni'n gyflym, ac rydym yn edrych ymlaen at y gwaith fydd yn cael ei gwblhau'r flwyddyn nesaf."
Mae'r gwaith adeiladu yn cynnwys adeiladu morglawdd newydd ym Mhier y Gogledd, adnewyddu ac ailadeiladu morglawdd Pier y De, adeiladu waliau llifogydd gan gynnwys wal llifogydd cerrig a gwydr newydd, atgyweirio growtio a giât llifogydd yn harbwr mewnol Pwll Cam a gwelliannau i amddiffynfeydd presennol ar Draeth y De.
Roedd y dyluniad yn cynnwys yr ystyriaethau cynllunio lleol oherwydd nifer yr adeiladau rhestredig o fewn yr harbwr hanesyddol. Mae'r dyluniad hefyd yn ymgorffori waliau gwydr a cherrig i ganiatáu gwylio o fewn y wal llifogydd.
Mae’r prosiect hefyd yn dangos sut y gall gynlluniau amddiffyn rhag llifogydd gefnogi creu swyddi gwyrdd.
Mae'r cwmni adeiladu, BAM hefyd wedi sgwrsio gyda disgyblion ysgolion lleol i helpu disgyblion i ddeall a gwireddu eu potensial i ddod yn beirianwyr sifil y dyfodol a dysgu sut y gall peirianwyr sifil weithio gyda chymunedau i ddylunio datrysiadau peirianneg.
Wrth ddiweddaru'r Senedd yn ddiweddar ar y gwaith sydd ar y gweill i baratoi ar gyfer y gaeaf, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:
“Rwy'n dal i fod yn ymwybodol o effaith ddinistriol posibl llifogydd, ar gartrefi, bywoliaeth a bywydau pobl.
"Rwy'n deall pa mor bryderus yw rhai pobl am ddiogelwch eu cartrefi a'u busnesau wrth i'r gaeaf agosáu.
"Dyna pam mae diogelu ein cymunedau rhag canlyniadau trychinebus llifogydd ac erydu arfordirol o'r pwys mwyaf i mi yn y swydd hon, ac i'r Llywodraeth.
"Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth effeithiol ar lawr gwlad, a fydd yn amddiffyn ein cymunedau rhag bygythiadau newid hinsawdd."
Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r awdurdod arweiniol ar reoli perygl llifogydd o'r prif afonydd a'r môr yng Nghymru ac yn ddiweddar mae wedi lansio'r ymgyrch ymwybyddiaeth Bod yn Barod am Lifogydd, gyda'r nod o ddarparu cyngor hanfodol am yr hyn y dylai pobl ei wneud os ydynt yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd.
Meddai'r Dirprwy Brif Weinidog:
"Mae'n rhaid i ni i gyd fod yn wyliadwrus o beryglon llifogydd drwy gydol y flwyddyn ac mae'r cyhoedd yn chwarae rhan hanfodol wrth gadw cymunedau yn ddiogel. Trwy rannu gwybodaeth a phrofiadau gyda'n cymdogion, gallwn gryfhau ein rhwydweithiau cymorth a helpu ein gilydd i fod yn barod.
"Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu cymunedau mwy gwydn ledled Cymru, sy'n gallu gwrthsefyll yr heriau a ddaw yn sgil llifogydd, tywydd garw a newid yn yr hinsawdd."