Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, y bydd y gwaith o adeiladu Pont Dyfi newydd gwerth £46 miliwn ger Machynlleth yn dechrau ym mis Mawrth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cynllun yn gwella diogelwch ar y ffyrdd, yn cryfhau'r cysylltiadau rhwng cymunedau, yn darparu cyfleoedd teithio llesol ac yn meithrin gwytnwch yn erbyn llifogydd, yn ogystal â gwella cysylltedd trafnidiaeth er mwyn helpu i ysgogi datblygiad economaidd pellach yn y rhan hon o Gymru.

Bydd y datblygiad newydd yn draphont ar draws y gorlifdir a phont afon ar draws Afon Dyfi tua 480m i fyny'r afon o'r bont bresennol.

Mae'r bont bresennol o'r 19eg ganrif ar gau yn aml oherwydd llifogydd, digwyddiad sy'n debygol o gynyddu gydag effaith y newid yn yr hinsawdd. 

Gall cau'r bont effeithio ar allu'r gymuned i gael mynediad at wasanaethau allweddol fel gofal iechyd, addysg a thrafnidiaeth gyhoeddus ym Machynlleth a thu hwnt. Bydd y bont newydd yn darparu llwybr diogel a dibynadwy rhwng cymunedau.

Bydd symud traffig ar raddfa fawr o’r bont o’r 19eg ganrif a darparu llwybr cerdded a beicio yn gwella cyfleoedd teithio llesol gan gynyddu atyniad Machynlleth a'r ardal gyfagos fel cyrchfan i dwristiaid.

Bydd y cynllun yn cynnwys tawelu traffig a gwell draeniad ar yr A493 yn union i'r gogledd o'r bont i ddiogelu'r bythynnod presennol, a bydd bwnd llifogydd yn cael ei adeiladu i ddiogelu Parc Eco Dyfi rhag llifogydd afonydd.

Dywedodd Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth:

"Dwi’n falch o allu cyhoeddi y bydd y gwaith adeiladu ar y cynllun hwn yn dechrau y mis nesaf ac mae angen mawr amdano.  Yn ogystal â bod yn llwybr allweddol rhwng y gogledd a'r de, mae'r A487 yn gyswllt pwysig rhwng cymunedau yn lleol.  Yn rhy aml o lawer, gall y cymunedau hyn gael eu hynysu oherwydd llifogydd ym Mhont Dyfi a rhaid mynd i'r afael â hyn.

"Bydd y bont newydd hefyd yn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy dibynadwy, gan alluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau pwysig ym Machynlleth a thu hwnt. Bydd pont gerrig rhestredig bresennol o’r 19eg ganrif yn parhau i fod yn nodwedd bwysig i'r ardal fel llwybr teithio llesol yn nyffryn hardd Dyfi sydd o fudd i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

"Bydd y seilwaith hanfodol hwn hefyd yn ategu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi Bargen Twf Canolbarth Cymru i ddatblygu cyfleoedd economaidd newydd yn y rhan bwysig hon o Gymru.

Fel rhan o'r manteision i'r gymuned leol, mae contractwyr Alun Griffiths yn bwriadu penodi peiriannydd graddedig a dau brentis lleol i weithio ar y cynllun.  Bydd ffeiriau swyddi rhithwir a digwyddiadau cwrdd â'r prynwr hefyd yn cael eu trefnu, a bydd cysylltiadau'n cael eu sefydlu gydag Ysgol Bro Hyddgen.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Griffiths, Martyn Evans:

“Mae’n bleser gennym gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni’r gwelliannau pwysig hyn i’r A487. Y nod yw sicrhau bod y llwybr yn fwy cydnerth a dibynadwy os bydd llifogydd. Bydd y draphont newydd ar draws Dyffryn Dyfi hefyd yn helpu i warchod hygrededd hirdymor y bont bresennol dros yr Afon Dyfi. Mae’r bont hon yn heneb rhestredig Gradd II.

“Cyn i’r gwaith ddechrau ym mis Mawrth byddwn yn ymgysylltu’n eang â’r gymuned, gan esbonio ein cynlluniau a disgrifio sut y byddwn yn sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar y gymuned leol. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at sefydlu saith Nod Llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn ein gwaith – gan sicrhau bod pobl leol, yn awr ac yn y dyfodol, yn elwa ar y prosiect.

Rhoddwyd sêl bendith i Bont Dyfi ym mis Ionawr y llynedd. Mae gwaith wedi'i wneud i sicrhau y gall y gwaith adeiladu ddechrau tra'n cydymffurfio â rheoliadau COVID-19. Disgwylir i Bont dyfi newydd gael ei chwblhau erbyn Gwanwyn 2023.