Canllawiau ar ddefnyddio cynlluniau person cymwys i ymgymryd â gwaith adeiladu penodol ar eich eiddo.
Cynnwys
Trosolwg
Mae angen i nifer o dasgau yn y cartref fod yn hysbys i a chael eu cymeradwyo fel rhai sy'n cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu gan Gorff Rheoli Adeiladu, naill ai eich Rheoliadau Adeiladu Awdurdodau Lleol neu Arolygwr Cymeradwy y sector preifat. Mae Cynlluniau Person Cymwys yn caniatáu i unigolion a mentrau hunan-ardystio bod eu gwaith yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu fel dewis arall yn lle'r llwybrau hyn.
Mae gosodwr sydd wedi'i gofrestru gyda Chynllun Person Cymwys wedi'i gymhwyso i wneud mathau penodol o waith yn unol â Rheoliadau Adeiladu a dylai hysbysu'r awdurdod lleol am y gwaith a rhoi tystysgrif cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu naill ai'n uniongyrchol neu drwy weithredwr eu cynllun.
Cynlluniau presennol
Os ydych chi'n mynd i ddefnyddio llwybr y Cynllun Person Cymwys, mae angen i chi sicrhau eich bod yn defnyddio person cymwys sy'n berthnasol i'r gwaith rydych yn ei gyflawni. Mae'r canlynol yn rhestru'r cynlluniau presennol. Cofiwch y gall y rhestr newid o bryd i'w gilydd i gynnwys cynlluniau newydd wrth iddyn nhw gael eu cymeradwyo, neu i ddileu cynlluniau fel y bo'n briodol.
Insiwleiddio waliau dwbl a solet mewn adeilad presennol
Math o insiwleiddio a chynllun(iau)
Waliau dwbl mewn adeilad presennol: Tystysgrif Blue Flame, CERTASS, Certsure, CIGA, NAPIT, Stroma
Waliau mewnol adeilad: Tystysgrif BBA, Blue Flame, CERTASS, Certsure, NAPIT, Stroma
Waliau allanol adeilad (heb gynnwys insiwleiddio adeiladau â chladin dros dro): BBA, Tystysgrif Blue Flame, CERTASS, Certsure, NAPIT, Stroma
Waliau allanol a mewnol adeilad (‘inswleiddio hybrid’ – heb gynnwys inswleiddio adeiladau â chladin dros dro): BBA, Tystysgrif Blue Flame, CERTASS, Certsure, NAPIT, Stroma
Offer llosgi
Math o insiwleiddio a chynllun(iau)
Nwy: Cofrestr Diogelwch Nwy*
Olew (gan gynnwys biodanwyddau hylifol): APHC, BESCA, Tystysgrif Blue Flame, Certsure, NAPIT, OFTEC, Stroma
Tanwydd solet (gan gynnwys biomas): APHC, BESCA, Certsure, HETAS, NAPIT, OFTEC, Stroma
*Nid yw'r GSR yn gynllun person cymwys yn dechnegol, ond yn ymarferol mae gan ei osodwyr yr un cyfrifoldebau dros gydymffurfio â rheoliadau adeiladu.
Gosodiadau trydanol
Math o osodiad a chynlluniau
Mewn anheddau - gosod gosodiadau trydanol foltedd isel neu isel iawn: BESCA, Tystysgrif Blue Flame, Certsure, NAPIT, OFTEC, Stroma
Mewn anheddau - gosodiadau trydanol foltedd isel sefydlog neu isel iawn fel rhan o waith arall sy'n cael ei wneud gan y person cofrestredig: APHC, BESCA, Tystysgrif Blue Flame, Certsure, NAPIT, Stroma
Adeiladau ar wahân i anheddau - gosod goleuadau neu systemau gwresogi trydanol: BESCA, Tystysgrif Blue Flame, Certsure, NAPIT, Stroma
Gwresogi a systemau dŵr poeth
Math o osodiad a chynlluniau
System wresogi neu ddŵr poeth, neu ei reolaeth cysylltiedig: APHC, BESCA, Tystysgrif Blue Flame, Cofrestr Nwy Diogl, Certsure, HETAS, NAPIT, OFTEC, Stroma.
Systemau awyr ac aerdymheru mecanyddol
Math o adeilad a chynlluniau
Anheddau (heb gynnwys gwaith ar systemau sy’n cael eu rhannu gydag aeiladau eraill): BESCA, Tystysgrif Blue Flame, Certsure, NAPIT, Stroma
Adeiladau eraill (heb gynnwys gwaith ar rannau eraill adeilad sy’n cael eu meddiannu ar wahan): BESCA, Tystysgrif Blue Flame, Certsure, NAPIT, Stroma
Plymio a systemau cyflenwad dŵr Math o system
Type of system and schemes
Cyflenwad dŵr iachusol a meddal: APHC, BESCA, Certsure, HETAS, NAPIT, Stroma
Cyflenwad dŵr nad yw'n iachus i fflysio toiled (heb gynnwys gwaith ar ddraenio a rennir neu danddaearol): APHC, BESCA, Certsure, HETAS, NAPIT, Stroma
Toiledau, sinciau, basnau ymolchi, baddonau sefydlog, cawodydd neu ystafelloedd ymolchi mewn anheddau (heb gynnwys gwaith ar ddraenio a rennir neu danddaearol): APHC, BESCA, Certsure, HETAS, NAPIT, Stroma
Ffenestri, drysau neu ffenestri to
Math o adeilad a chynlluniau
Anheddau presennol: Tystysgrif Blue Flame, CERTASS, Certsure, Fensa, NAPIT, ASSURE, Stroma
Adeiladau presennol ar wahân i anheddau (heb gynnwys ailosod gwydr strwythurol sy'n dal pwysau, waliau llenni gwydr neu ddrysau troi): Tystysgrif Blue Flame, CERTASS, Certsure, Fensa, NAPIT, ASSURE, Stroma
Ailosod gorchuddion to ar doeau ar oleddf a fflat
Mae hyn yn cynnwys unrhyw waith cysylltiedig angenrheidiol (ond nid gosod panel solar). Y cynlluniau awdurdodedig yw:
- NAPIT
- CompetentRoofer
Profi pwysau aer adeiladau
Y cynlluniau awdurdodedig yw:
- Cymdeithas Profi a Mesur Tynder Awyr (ATTMA)
- Elmhurst Energy Systems Limited.
Microgynhyrchu a thechnolegau adnewyddadwy
Y cynlluniau awdurdodedig yw:
- APHC
- BESCA
- Certsure
- HETAS
- NAPIT
- OFTEC
- Stroma
Cynlluniau newydd ac Ymuno â chynllun
Mae cynlluniau newydd a gwelliannau i gynlluniau presennol yn cael eu hawdurdodi gan Lywodraeth Cymru. Gwahoddir cynlluniau i gysylltu â ni ynghylch awdurdodiadau newydd a fydd yn cael eu hystyried o bryd i'w gilydd. Os hoffech ymuno â chynllun cysylltwch â'r cynllun perthnasol i gael manylion am ymuno.