Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan wedi gwahodd unigolion sydd â dyhead i weithio yn y sector gofal plant yng Nghymru i wneud cais ar gyfer rhaglen newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Nod y rhaglen yw ceisio annog mwy o bobl i ystyried a rhoi cynnig ar yrfa yn y sector.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd ail gam y prosiect Childcare Works yn cael ei gyflenwi gan Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA) Cymru a bydd yn hyfforddi hyd at 84 o bobl 25 oed a hŷn, gan gynnig lleoliadau gwaith â chefnogaeth iddynt mewn meithrinfa am 16 wythnos. Cynhelir y prosiect tan fis Rhagfyr 2020, gyda lleoliadau gwaith mewn meithrinfeydd mewn deg ardal awdurdod lleol, sef Conwy, Wrecsam, Gwynedd, Ynys Môn, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Torfaen, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.  Mae NDNA Cymru yn awr yn chwilio am unigolion nad ydynt mewn gwaith nac addysg ar hyn o bryd, ond sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect, ac yn eu hannog i wneud cais. 

Mae’n dilyn llwyddiant cam cyntaf Childcare Works yn siroedd y Fflint a Wrecsam, a roddodd hyfforddiant i 16 o unigolion dros 50 oed. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain bellach wedi cael gwaith parhaol yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant. 

Yn siarad mewn lansiad ym Meithrinfa Lullabyz yng Nghasnewydd, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan

“Fel llywodraeth, rydym wedi gwneud buddsoddiad sylweddol i ddarparu gofal plant wedi’i ariannu i rieni cymwys yng Nghymru sy’n gweithio ac sydd â phlant tair a phedair oed. Mae’r sector gofal plant yn hanfodol i sicrhau’r ddarpariaeth hon ac mae cyflogi gweithlu proffesiynol cymwys a medrus yn hanfodol bwysig, i gynorthwyo rhieni a gofalwyr wrth iddynt fynd i weithio, a hefyd i gefnogi dysg a datblygiad ein plant ieuengaf.  Rwyf wrth fy modd y gallaf i, gyda Gweinidog yr Economi, roi rhagor o gyllid i ddarparu hyfforddiant rhagarweiniol allweddol i annog mwy o bobl i ddod i’r sector ac ystyried gyrfa ym maes gofal plant yn y dyfodol. Rydym eisiau annog amrywiaeth yn y sector a denu pobl o amrywiol gefndiroedd.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

“Mae gofal plant yn rhan hanfodol o economi Cymru, ac yn rhoi gwasanaeth hanfodol mewn sector sylfaenol. Mae’n sicrhau y gall ein cymunedau ac economi Cymru ffynnu, ac y gall rhieni a gofalwyr weithio a hyfforddi.   

"Mae'r prosiect hwn yn un o nifer o ffyrdd rydym ni, Llywodraeth Cymru, yn ceisio cefnogi buddsoddiadau yn y sector gofal plant, gan helpu'r sector i dyfu a bod yn gynaliadwy. Rydym am ddenu unigolion sydd â'r sgiliau cywir a'r nodweddion personol ar gyfer gweithio gyda phlant ifanc, i ddilyn gyrfa ym maes gofal plant. Mae llwyddiant cam cyntaf y prosiect yn dangos ei fod yn gallu arwain at ddechrau gyrfa hirdymor a gwerth chweil, os ceir ychydig o help a hyfforddiant cywir. Bydd y prosiect hwn yn cefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer y sector a'r gwaith o gyflwyno’r cymwysterau Gofal Plant newydd yn ddiweddarach eleni. Rwyf wrth fy modd gweld bod yr ail gam bellach ar agor, a byddwn yn annog y rheini sy'n gymwys ac yn awyddus i ddilyn gyrfa ym maes gofal plant i wneud cais, a manteisio i'r eithaf ar yr hyfforddiant a'r lleoliadau gwaith sy'n cael eu cynnig.”

Prosiect Childcare Works yw un o'r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu datblygu o dan ei chynllun 10 mlynedd ar gyfer y Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar. Nod y cynllun yw proffesiynoli'r sector a denu newydd-ddyfodiaid o ansawdd uchel i weithio ynddo. Bydd prosiect Childcare Works yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ddysgu sgiliau galwedigaethol newydd, mewn amgylchedd cefnogol sy'n eu galluogi i ymgymryd â rhagor o hyfforddiant, neu brentisiaeth a dilyn gyrfa ym maes gofal plant a'r blynyddoedd cynnar yn y dyfodol. Mae'r prosiect hefyd yn cefnogi Cynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, a lansiwyd y llynedd i gefnogi pobl i gael gwaith nawr, gan hefyd baratoi'r gweithlu ar gyfer heriau uniongyrchol a heriau hirdymor y dyfodol. 

Dywedodd Purnima Tanuku OBE, Prif Weithredwr NDNA:

"Rydym yn falch dros ben bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r cyfle i ni gyflwyno'r prosiect Childcare Works ar draws y wlad.

"Mae'r prosiect hwn yn annog pobl i ystyried gyrfa ym maes gofal plant a'r blynyddoedd cynnar wrth fanteisio ar gyfleoedd i wneud lleoliadau gwaith ymarferol o fewn y sector. Mae'r cyfranogwyr yn cael cefnogaeth barhaus, sy’n meithrin sgiliau gwerthfawr ymhlith y rheini sy'n dymuno dechrau ar yrfa yn y sector gofal plant.

"Rydym hefyd yn chwilio am feithrinfeydd ar draws y deg ardal awdurdod lleol a all gynnig lleoliadau gwaith ac elwa ar gael pâr ychwanegol o ddwylo. Iddyn nhw, mae hefyd yn gyfle da i recriwtio staff newydd ar ôl eu gweld yn gweithio gyda'r plant a'r staff dros gyfnod o dri mis.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn hyfforddai mewn meithrinfa, a'ch bod yn unrhyw un o'r ardaloedd awdurdodau lleol hyn, ewch i ndna.org.uk/childcareworks neu ffoniwch swyddfa NDNA Cymru ar 01824 707823.