Neidio i'r prif gynnwy

Bydd £4 miliwn ychwanegol y flwyddyn ar gael dros y pedair blynedd nesaf ar gyfer y rhaglen rhwng 2017 a 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Tra bydd y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar gael ledled Cymru, cafodd ei hailwampio eleni er mwyn rhoi blaenoriaeth i brosiectau fel a ganlyn:

  • prosiectau sydd mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf;
  • prosiectau a fydd yn parhau i ddarparu gwasanaethau Cymunedau yn Gyntaf; neu
  • brosiectau sydd fel arall yn rhan o waddol Cymunedau yn Gyntaf. 
Bydd £4 miliwn ychwanegol y flwyddyn ar gael dros y pedair blynedd nesaf ar gyfer y rhaglen rhwng 2017 a 2021. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnig grantiau ar ddwy lefel: mae hyd at £25,000 ar gael ar gyfer prosiectau bach all gael eu cwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol yma ac mae hyd at £250,000 ar gael tuag at brosiectau mwy a fydd yn creu cyfleusterau cymunedol cynaliadwy addas at y dyfodol.

Gan gyhoeddi ailagor y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:

“Rydyn ni wedi gosod pwyslais newydd ar gyfer y Rhaglen er mwyn helpu i ddiogelu cyfleusterau cymunedol gwerthfawr yn hen ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf er mwyn sicrhau y bydd gwaddol y Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn para.

“Mae’r cyfleusterau hynny yn rhan fawr o’r gwasanaethau pwysig i bobl ifanc a phobl hŷn fel ei gilydd ac yn rhoi lle i grwpiau ddod ynghyd. Bydd yr arian yn galluogi i’r prosiectau hyn ehangu eu gwaith ymhellach ac agor eu drysau i hyd yn oed ragor o bobl yn y gymuned leol.”