Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad a throsolwg

Mae'r datganiad hwn yn cwmpasu'r holl waharddiadau parhaol a chyfnod penodol o ysgolion a gynhelir yng Nghymru rhwng Medi 2022 ac Awst 2023. Gwneir cymariaethau â blynyddoedd academaidd cynharach o 2011/12 ymlaen.

Data ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22 yw’r set gyntaf o ddata gwaharddiadau ers 2018/19 nad yw’r pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio’n uniongyrchol arnynt. Cesglir y data yng Ngwanwyn 2023 ac mae’n cynnwys gwaharddiadau yn ystod blwyddyn academaidd 2021/22.

O ganlyniad i’r pandemig COVID-19 bu ysgolion ar gau yn llawn neu’n rannol am gyfnodau penodol rhwng Medi 2020 ac Ebrill 2021. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion ynghylch pryd y caewyd ysgolion yn y amserlen cau ysgolion (Ymchwil y Senedd).

Mae'r cau ysgolion wedi golygu bod llai o waharddiadau rhwng Medi 2020 ac Ebrill 2021. Ceir rhagor o wybodaeth yn y tablau data sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn.

Rhennir gwaharddiadau yn ôl hyd / math y gwaharddiad, yn 3 chategori (gellir gweld mwy o fanylion yn y Diffiniadau):

  • Gwaharddiadau tymor penodol: 5 diwrnod neu lai
  • Gwaharddiadau tymor penodol: dros 5 diwrnod
  • Gwaharddiadau parhaol

Cofnodir gwaharddiadau fel rhan o'r Cyfrifiad Ysgol Blynyddol Lefel Disgyblion (PLASC) ar gyfer y flwyddyn academaidd flaenorol. Felly, eleni, pan gasglwyd y PLASC ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23, mae'r data gwaharddiadau yn cyfeirio at flwyddyn academaidd 2021/22.

Mae’r siartiau isod yn dangos cyfradd y gwaharddiadau dros amser fesul 1,000 o ddisgyblion, mae’r ardaloedd sydd wedi’u tywyllu yn dangos y blynyddoedd y mae pandemig y COVID-19 wedi effeithio arnynt.

Ffigur 1: Cyfradd Gwaharddiadau Cyfnod Penodol 5 Diwrnod neu Lai, 2011/12 i 2022/23

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Graff llinell yn dangos cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol 5 diwrnod neu lai rhwng 2011/12 a 2022/23. Cynyddodd y gyfradd yn araf o 26.7 o waharddiadau fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2013/14 i 41.0 o waharddiadau fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2018/19. Yn ystod y pandemig COVID-19 gostyngodd y gyfradd i lefelau 2013/14. Yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae data ar gael, sef 2021/22, mae’r gyfradd wedi cynyddu i 65.4 fesul 1,000 o ddisgyblion, y cyfradd uchaf erioed.

Ffynhonnell: CYBLD

Ffigur 2: Cyfradd Gwaharddiadau Cyfnod Penodol dros 5 diwrnod, 2011/12 i 2022/23

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Graff llinell yn dangos cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol o fwy na 5 diwrnod rhwng 2011/12 a 2021/22. Mae'r gyfradd yn isel. Dechreuodd ar 2.3 o waharddiadau fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2011/12 a gostyngodd yn raddol i 1.7 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2018/19s, a gostyngodd eto yn ystod pandemig COVID-19. Yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae data ar ei chyfer, sef 2021/22, mae’r gyfradd wedi cynyddu i 2.4 o waharddiadau fesul 1,000 o ddisgyblion, y gyfradd uchaf erioed.

Ffynhonnell: CYBLD

Ffigur 3: Cyfradd Gwaharddiadau Parhaol, 2011/12 i 2022/23

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Graff llinell yn dangos cyfradd y gwaharddiadau parhaol rhwng 2011/12 a 2021/22. Cynyddodd y gyfradd yn raddol o 0.1 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2011/12 i 0.5 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2018/19. Gostyngodd i 0.2 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2020/21 yn ystod y pandemig COVID-19. Yn 2022/23 cynyddodd i 0.9 fesul 1,000 o ddisgyblion.

Ffynhonnell: CYBLD

Prif bwyntiau: ysgolion a gynhelir

Yn 2022/23, mae pob math o waharddiadau wedi cynyddu ers 2021/22 ac wedi cyrraedd y gyfradd uchaf ers 2011/12.

  • Mae cyfradd y gwaharddiadau parhaol wedi gostwng yn 2022/23 i 0.9 fesul 1,000 o ddisgyblion, o’i gymharu â 0.6 fesul 1000 o ddisgyblion yn 2021/22.
  • Mae cyfradd y gwaharddiadau tymor penodol (dros 5 diwrnod) wedi gostwng yn 2022/23 i 2.4 fesul 1,000 o ddisgyblion, o’i gymharu â 2.0 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2021/22.
  • Mae cyfradd y gwaharddiadau tymor penodol (5 diwrnod neu lai) wedi gostwng yn 2022/23 i 65.4 fesul 1,000 o ddisgyblion, o’i gymharu â 50.6 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2021/22.

Math o ysgol 2022/23

Ysgolion uwchradd oedd â'r cyfraddau gwahardd uchaf ar gyfer pob hyd gwaharddiad. Mae hyn yn wahanol i'r patrwm cyn COVID-19 lle roedd y cyfraddau uchaf o waharddiadau ar gyfer gwaharddiadau cyfnod penodol ymysg ysgolion arbennig. Mae cyfradd y gwaharddiadau o ysgolion uwchradd wedi cynyddu ar gyfer pob hyd gwaharddiad rhwng 2018/19 a 2022/23.

Ysgolion cynradd oedd â'r cyfraddau isaf o waharddiadau ar gyfer pob hyd gwahardd. Mae hyn yr un fath ag yn y blynyddoedd blaenorol.

Hawl i brydau ysgol am ddim (PYD)

Mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn cael rhai budd-daliadau prawf modd neu daliadau cymorth penodol.

Mae cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol bron 3.5 gwaith yn uwch ar gyfer y rhai sy’n gymwys i gael PYD na’r rhai nad ydynt yn gymwys i gael PYD yn 2023/23. Ar gyfer gwaharddiadau parhaol, mae'r cyfradd 3.9 gwaith yn uwch. Mae hyn yn ostyngiad o 2021/22 yn y ddau achos.

Anghenion Addysgol Arbennig/ Anghenion Dysgu Ychwanegol (AAA/ADY)

Yn 2022/23 cyfradd y gwaharddiadau tymor penodol (5 diwrnod neu lai) gan ddisgyblion â darpariaeth AAA/ADY oedd 189.1 o bob 1,000 o ddisgyblion o'i gymharu â 45.0 o bob 1,000 heb ddarpariaeth AAA/ADY.

Cyfradd y gwaharddiadau tymor penodol (dros 5 diwrnod) gan ddisgyblion â darpariaeth AAA/ADY oedd 7.4 o bob 1,000 o ddisgyblion o'i gymharu â 1.6 o bob 1,000 heb ddarpariaeth AAA/ADY. 

Cyfradd y gwaharddiadau parhaol gan ddisgyblion â darpariaeth AAA/ADY oedd 2.4 o bob 1,000 o ddisgyblion o'i gymharu â 0.5 o bob 1,000 heb ddarpariaeth AAA/ADY.

Gall fod gan ddisgyblion fwy nag un angen, sy’n golygu wrth gyfrif nifer y disgyblion â phob angen y gall cyfanswm y disgyblion ar draws yr holl anghenion fod yn fwy na’r nifer gwreiddiol o ddisgyblion.

Er enghraifft, os yw disgybl yn cael ei wahardd am gyfnod penodol a bod ganddo’r ddau angen - Dyslecsia a Anawsterau Dysgu Cymedrol - byddai hynny'n cyfrif fel 1 gwaharddiad ym mhob angen ac 1 disgybl ym mhob angen.

Disgyblion ag anghenion Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) neu Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol (BESD) oedd â’r cyfraddau uchaf o waharddiadau yn 2021/22:

  • Cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol ar gyfer disgyblion ag ADHD AAA/ADY oedd 524.7 fesul 1,000 o ddisgyblion.
  • Cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol gydag AAA/ADY oedd 459.3 fesul 1,000 o ddisgyblion.

Disgyblion ag Anghenion Dysgu Dwys a Lluosog ac Anawsterau Dysgu Difrifol sydd â'r gyfradd isaf o waharddiadau cyfnod penodol. Y disgyblion hyn yw'r unig grŵp ag AAA/ADY sydd â chyfradd is o waharddiadau na disgyblion heb AAA/ADY.

Mae cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol wedi cynyddu ar gyfer y rhan fwyaf o anghenion rhwng 2021/22 a 2022/23, ac wedi cynyddu ar gyfer y rhai heb anghenion AAA/ADY.

Cefndir ethnig

Nid oes gennym ddata ar gyfer cefndir ethnig yr holl ddisgyblion. Mae'n well gan rai disgyblion beidio â darparu'r wybodaeth, ac i rai ni chafwyd y wybodaeth. Ar gyfer disgyblion mae gennym wybodaeth ar gyfer:

  • disgyblion sydd â chefndir ethnig Roma sydd â'r cyfraddau gwahardd tymor penodol (5 diwrnod neu lai) uchaf
  • disgyblion sydd â chefndir ethnig Indiaidd sydd â'r cyfraddau gwahardd tymor penodol (5 diwrnod neu lai) isaf
  • disgyblion sydd â chefndir ethnig “Gwyn” sydd â'r cyfraddau gwahardd tymor penodol (dros 5 diwrnod) uchaf
  • disgyblion sydd â chefndir ethnig Tsieineaidd sydd â'r cyfraddau gwahardd tymor penodol (dros 5 diwrnod) isaf
  • disgyblion sydd â chefndir ethnig Cymysg â'r cyfraddau gwahardd parhaol uchaf
  • disgyblion sydd â chefndir ethnig Tsieineaidd sydd â'r cyfraddau gwahardd parhaol isaf

Rhesymau ar gyfer gwaharddiadau

Ffigur 4: Canran yr holl hydoedd gwahardd yn ôl Rheswm Gwahardd, 2022/23

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart bar yn dangos y rhesymau dros waharddiadau fel canran o'r holl waharddiadau. Roedd y ganran uchaf o waharddiadau ar gyfer ymddygiad aflonyddgar parhaus (27.4%) a’r isaf ar gyfer camymddwyn rhywiol (0.5%).

Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).

[Nodyn 1] Mae'r ffigur hwn yn cynnwys pob gwaharddiad, o bob hyd, cyfnod penodol a pharhaol.

Y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd dros bob gwaharddiad yn 2021/22 oedd ‘ymddygiad aflonyddgar parhaus’ gydag ychydig dan chwarter yr holl waharddiadau.

Y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd am bob gwaharddiad yn 2022/23 oedd 'ymddygiad aflonyddgar parhaus' gyda dros chwarter yr holl waharddiadau (27.4%). Yr ail reswm mwyaf cyffredin oedd 'cam-drin geiriol/ymddygiad bygythiol yn erbyn oedolyn' gyda 20.8% o'r holl waharddiadau. Mae'r ffigurau hyn yn debyg iawn i'r ffigurau yn 2018/19 a 2021/22.

Gan edrych ar hyd gwaharddiadau

  • ‘Ymddygiad aflonyddgar parhaus’ oedd y rheswm mwyaf cyffredin dros waharddiadau tymor penodol o 5 diwrnod neu lai gyda 28.0% o’r holl waharddiadau o’r un fath. 
  • ‘Ymosodiad corfforol yn erbyn disgybl’ oedd y rheswm mwyaf cyffredin dros waharddiadau tymor penodol dros 5 diwrnod gyda 25.2% o’r holl waharddiadau o’r un fath. 
  • ‘Ymosodiad corfforol yn erbyn disgybl’ oedd y rheswm mwyaf cyffredin dros waharddiadau parhaol gyda 32.8% o’r holl waharddiadau o’r un fath.

Diffiniadau

Gwaharddiad parhaol

Yn cyfeirio at ddisgybl sy’n cael ei wahardd ac mae ei enw’n cael ei ddileu o gofrestr yr ysgol. Byddai disgybl o’r fath wedyn yn cael ei addysgu mewn ysgol arall neu drwy ddarpariaeth o ryw fath arall.

Gwaharddiad cyfnod

Penodol yn cyfeirio at ddisgybl sy’n cael ei wahardd o ysgol ond sy’n aros ar gofrestr yr ysgol honno oherwydd y disgwylir iddo ddychwelyd ar ôl i gyfnod y gwaharddiad ddod i ben.

Symudiad wedi’i reoli

Yn drefniant lle mae rhieni disgyblion sydd mewn perygl o gael eu gwahardd yn cytuno ag ysgolion ac awdurdodau lleol ei bod er budd pennaf eu plentyn gael ei dynnu o gofrestr yr ysgol bresennol a’i symud i sefydliad addysgol arall.

Anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anghenion addysgol arbennig (AAA)

Mae gan berson ADY/AAA os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (p'un a yw'r anhawster dysgu neu'r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol neu fel arall) sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol neu ddarpariaeth addysgol arbennig. Bydd anghenion dysgwyr ag ADY yn cael eu nodi mewn cynlluniau datblygu unigol (CDU) sy'n gynlluniau statudol a grëwyd o dan y Ddeddf ADY. Efallai y bydd gan ddysgwyr ag AAA Gweithredu gan yr Ysgol, Gweithredu and yr Ysgol a Mwy neu Ddatganiad, a fydd yn dod i ben ym mis Awst 2025 pan fydd y system ADY wedi'i chwblhau.

Newidiadau i ddata anghenion addysgol arbennig yn dilyn Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Daeth Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY) a rheoliadau i rym ar 1 Medi 2021 i sicrhau bod plant a phobl ifanc 0 i 25 oed yn gallu cael mynediad at gymorth i ddiwallu eu hanghenion.

Mae gweithredu'r system ADY ar waith, gyda phlant yn symud o'r system AAA i'r system ADY tan fis Awst 2025. Bydd anghenion dysgwyr ag ADY yn cael eu nodi mewn CDUau a gynhelir gan naill ai ysgol neu awdurdod lleol.

Mae dadansoddiad o'r data, ynghyd ag adborth gan awdurdodau lleol, yn awgrymu bod y gostyngiad mewn dysgwyr ADY/AAA dros y tair blynedd diwethaf oherwydd adolygiad systematig gan ysgolion o'u cofrestrau a'u data ADY/AAA, yn barod ar gyfer ac wrth weithredu'r system ADY. Ni ellir nodi dysgwyr a gefnogir trwy Weithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy (y rhai sydd angen y swm lleiaf o ddarpariaeth addysgol arbennig) fel ADY/AAA yn CYBLD mwyach. Mae hyn naill ai oherwydd bod eu hanghenion yn rhai tymor byr, nid oes angen darpariaeth ychwanegol i, neu yn wahanol i'r hyn a ddarperir ar gyfer dysgwyr eraill, y gellir mynd i'r afael â hwy fel rhan o ddarpariaeth gyfannol.

Gofynnwyd hefyd i ysgolion beidio defnyddio’r categori ‘Anawsterau dysgu cyffredinol’ ac i ailasesu categori priodol o angen ar gyfer disgyblion o’r fath. Roedd y categori hwn wedi dod yn un cyffredinol ar gyfer y rhai yr oedd angen cymorth dal i fyny arnynt, gyda mân anghenion a/neu le'r oedd anghenion lluosog yn bodoli, yn lle ei fwriad gwreiddiol, sef dal dysgwyr a oedd yn aros am asesiad. Mae hyn wedi arwain at dynnu rhai disgyblion oddi ar y gofrestr os canfyddir nad oedd ganddynt ADY/AAA. Mae’r categori ‘Anawsterau dysgu cyffredinol’ wedi cael ei ddileu o gyfrifiad ysgolion 2023 a 2024.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro’r niferoedd drwy gydol gweithredu’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod y data’n adlewyrchiad cywir o niferoedd a chategorïau’r dysgwyr ag ADY yng Nghymru.

Prydau ysgol am ddim (PYD)

Mae disgyblion yn gymwys i gael PYD os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth.

Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru erbyn 2024. Dechreuodd y broses gyflwyno ym mis Medi 2022. Mae 20 awdurdod lleol bellach wedi cwblhau'r broses gyflwyno ac mae'r ddau awdurdod lleol sy'n weddill ar y trywydd iawn i gwblhau'r broses gyflwyno erbyn mis Medi 2024.

Er bod y broses hon o gyflwyno PYD i’r rhai nad oeddent yn gymwys i’w cael o’r blaen wedi dechrau, nid yw’r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn adlewyrchu cyfanswm nifer y disgyblion sy’n cael PYD ym mis Ionawr 2024. Yn hytrach, mae ond yn cynnwys nifer y disgyblion sy’n gymwys i PYD os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau penodol (fel yr adroddwyd mewn blynyddoedd blaenorol). Gweler y canllaw gwybodaeth prydau ysgol am ddim am fanylion llawn y meini prawf cymhwysedd a'r buddion.

Gwarchodaeth drosiannol ar gyfer prydau ysgol am ddim

Ar 1 Ebrill 2019 cyflwynodd Llywodraeth Cymru polisi gwarchodaeth drosiannol newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim. Daethpwyd â hyn i mewn i sicrhau bod prydau ysgol am ddim y disgyblion yn cael eu gwarchod yn ystod y cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol.

Mae'r warchodaeth hon yn berthnasol i ddisgyblion unigol a bydd yn parhau tan ddiwedd eu cyfnod ysgol bresennol, sef diwedd ysgol gynradd neu ddiwedd ysgol uwchradd.

Dylai unrhyw ddisgybl a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno'r polisi ar 1 Ebrill 2019 hefyd gael gwarchodaeth drosiannol. Yn ogystal, dylid gwarchod unrhyw ddisgybl sydd wedi dod yn gymwys ar unrhyw adeg yn ystod y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol o dan y meini prawf cymhwysedd newydd.

Mae'r dadansoddiad FSM yn y datganiad hwn yn cynnwys disgyblion sy'n gymwys drwy'r meini prawf prawf modd yn unig. Nid yw'r rhai sy'n gymwys drwy TP neu UPFSM wedi'u cynnwys.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Gellir gweld rhagor o fnaylion yn yr adroddiad ansawdd ar gyfer y datganiad hwn.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ddibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ceir eu dyfarnu fel statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried os ydy’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o gydymffurfiad â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ychwanegu i benderfyniadau a dadlau cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw i gynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir o Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer.

Gelwir ystadegau swyddogol achrededig yn Ystadegau Gwladol yn Neddf 2007.

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y OSR. OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Hygrededd

Mae'r data yn y datganiad hwn yn ymwneud â'r holl ysgolion a gynhelir a disgyblion EOTAS yng Nghymru, ac fe'i cesglir fel rhan o gasgliadau EOTAS a CYBLD.

Mae data ar gyfer ysgolion a gynhelir yn deillio o'r ffurflenni CYBLD a gyflenwir gan ysgolion sydd ar agor ar ddiwrnod y cyfrifiad, sydd fel arfer ym mis Ionawr bob blwyddyn. Mae'r ffurflenni wedi'u hawdurdodi gan benaethiaid a'u dilysu gan awdurdodau lleol. Mae ysgolion annibynnol yn cwblhau datganiad STATS1 cyfanredol a awdurdodir gan benaethiaid.

Mae data EOTAS yn deillio o ffurflenni a ddarparwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer disgyblion sydd â darpariaeth EOTAS yn ystod wythnos y cyfrifiad, sydd fel arfer ym mis Ionawr bob blwyddyn. Mae'r ffurflenni wedi'u hawdurdodi a'u dilysu gan awdurdodau lleol. 

Mae'r broses o gasglu a dilysu data yn cael eu cynnal rhwng mis Ionawr a mis Mai. 

Cyhoeddir yr ystadegau hyn mewn modd hygyrch, trefnus, a datgan ymlaen llaw ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi.

Mae'r allbwn hwn yn cadw at y Cod Ymarfer trwy ddatgan ymlaen llaw y dyddiad cyhoeddi trwy'r tudalennau gwe calendr sydd i ddod.

Ansawdd

Mae'r ffigurau cyhoeddedig a ddarperir yn cael eu casglu gan ddadansoddwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael a defnyddio dulliau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol a'u set sgiliau dadansoddol. Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn cadw at y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy'n ategu colofn Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegol y DU) (Saesneg yn unig) ac egwyddorion ansawdd y System Ystadegol Ewropeaidd ar gyfer allbynnau ystadegol.

Mae CYBLD ac EOTAS yn gasgliadau data electronig o ddata ar lefel disgybl ac ysgol a ddarperir pob mis Ionawr gan bob ysgol a gynhelir. Mae ysgolion yn cofnodi data ar eu disgyblion a’u hysgol trwy gydol y flwyddyn yn eu meddalwedd System Gwybodaeth Rheoli (MIS). Mae’r data yn cael ei chyfuno i ffeil electronig CYBLD a’i gyrru i Gynulliad Cymru trwy DEWI, system rhannu data diogel ar y we, a ddatblygwyd gan Gynulliad Cymru. Mae DEWi yn dilysu’r data mewn nifer o ffyrdd er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel ar gyfer creu polisi a chyllido.

Oherwydd lefel yr achosion coronafeirws (COVID-19) ym mis Ionawr 2022, gohiriwyd dyddiad y cyfrifiad i 15 Chwefror 2022. Roedd cau ysgolion rhwng Rhagfyr 2020 a Mawrth 2021 oherwydd y pandemig coronafeirws (COVID-19) yn golygu bod dyddiad cyfrifiad 2021 wedi’i ohirio tan 20 Ebrill 2021.

Y llynedd gwnaethom gynnal dilysiad ychwanegol o'r data gydag awdurdodau lleol ar ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Gweler diweddariad ein Prif Ystadegydd ar hyn.

Eleni fe wnaethom ddatblygu rheolau dilysu ychwanegol a helpodd i nodi unrhyw broblemau gyda'r data cymhwysedd PYD yn gynharach. Yna buom yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod dilysu i sicrhau bod y data cywir yn cael ei ddarparu.

Ar gyfer EOTAS, rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod yr holl ddata'n cael ei ddilysu cyn cyhoeddi tablau. Caiff data ei gasglu mewn ffurflen electronig a'i chyflwyno i Lywodraeth Cymru drwy DEWi, system drosglwyddo data ar-lein ddiogel a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae camau amrywiol o ddilysu awtomataidd a gwirio synhwyrol yn cael eu cynnwys yn y broses i sicrhau ansawdd uchel o ddata.

Gwerth

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amryw ffyrdd. Dyma ychydig o enghreifftiau:

  • dyrannu adnoddau yn Setliad Cyllid Llywodraeth Leol Cymru a’r Grant Datblygu Disgyblion
  • cyngor i weinidogion
  • i hysbysu’r broses o wneud penderfyniadau o fewn polisïau addysg yng Nghymru, gan gynnwys ad-drefnu ysgolion
  • i hysbysu Estyn yn ystod arolygiadau ysgolion
  • maes addysg Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 
  • i gynorthwyo ymchwil mewn i gyrhaeddiad addysgol

Mae'r ffigurau wedi'u cyhoeddi mewn fformat "Open Document Spreadsheet"
hygyrch y gellir ei rhannu a'i hailddefnyddio'n eang ac sy'n cydymffurfio â chanllawiau Swyddogaeth Dadansoddi'r Llywodraeth ar Ryddhau ystadegau mewn taenlenni. 

Cafodd yr esboniad a'r nodiadau yn y datganiad eu datblygu fel bod yr wybodaeth mor hygyrch â phosibl i'r ystod ehangaf o ddefnyddwyr. At hynny, cyhoeddir ein holl allbynnau ystadegau ysgolion yn Gymraeg a Saesneg.

Cymharedd

Lloegr

Attendance and Absence (GOV.UK)

Scotland

School Exclusion Statistics (Llywodraeth yr Alban)

Northern Ireland

Pupil Suspensions and Expulsions (Yr Adran Addysg, Gogledd Iwerddon)

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain er mwyn sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau Llesiant, a (b) cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, lle mae Gweinidogion Cymru yn adolygu'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a gyflwynwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r rhai a gyflwynwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Stephen Hughes
Ebost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 102/2024

Image