Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r cyfnod a gwmpesir gan y datganiad hwn yn cynnwys camau cynnar y pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae'r data a gasglwyd yng Ngwanwyn 2020 yn cynnwys gwaharddiadau yn ystod blwyddyn academaidd 2018/19. Oherwydd y pandemig ni chwblhawyd data gwaharddiadau ar gyfer disgyblion a addysgwyd heblaw yn yr ysgol (EOTAS) yn 2018/19 a dim ond 14 awdurdod lleol a ddarparodd eu data yng Ngwanwyn 2020.

O ganlyniad i'r pandemig roedd ysgolion ar gau rhwng Mawrth 2020 a Mehefin 2020. Roedd hyn yn golygu nad oedd bron unrhyw waharddiadau yn ystod y cyfnod hwnnw, sydd wedi effeithio ar y niferoedd gwahardd cyffredinol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn y tablau data sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn

Rhennir gwaharddiadau yn ôl hyd/math y gwaharddiad, yn 3 chategori (gellir gweld mwy o fanylion yn y Diffiniadau).

  1. Gwaharddiadau tymor penodol: 5 diwrnod neu lai
  2. Gwaharddiadau tymor penodol: dros 5 diwrnod
  3. Gwaharddiadau parhaol

Cofnodir gwaharddiadau fel rhan o'r Cyfrifiad Ysgol Blynyddol Lefel Disgyblion (PLASC) ar gyfer y flwyddyn academaidd flaenorol. Felly, eleni, pan gasglwyd y PLASC ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21, mae'r data gwaharddiadau yn cyfeirio at flwyddyn academaidd 2019/20.

Disgyblion sy’n derbyn addysg heblaw yn yr Ysgol (EOTAS)

Mae'r datganiad hwn yn cynnwys data am waharddiadau EOTAS. Mae fersiynau blaenorol o'r datganiad hwn hefyd wedi nodi bod y wybodaeth hon wedi'i chynnwys ym mhob tabl yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, oherwydd gwall, nid yw data EOTAS wedi'i gynnwys mewn nifer o dablau yn unrhyw un o'r datganiadau blaenorol yn y gyfres hon. Mae hyn wedi'i gywiro yn y datganiad hwn.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y newid hwn yn y adran Gwybodaeth ansawdd a methodoleg o'r adroddiad hwn neu yn y tablau data sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn.

Image
Mae cyfradd y gwaharddiadau tymor penodol am 5 diwrnod neu lai wedi cynyddu o’r flwyddyn academaidd 2012/13 i’w uchafbwynt yn 2018/19. Rhwng 2018/19 a 2019/20 mae'r ddau gyfradd o waharddiadau tymor penodol wedi cynyddu, mae hyn o bosibl yn rhannol oherwydd cau ysgolion am ran o'r flwyddyn.

Cyfradd y gwaharddiadau tymor penodol 5 diwrnod neu lai a dros 5 diwrnod (MS Excel)

Image
Mae cyfradd y gwaharddiadau parhaol wedi cynyddu’n fras o’r flwyddyn academaidd 2012/13 i’w uchafbwynt yn 2018/19. Rhwng 2018/19 a 2019/20 mae'r ddau gyfradd o waharddiadau tymor penodol wedi cynyddu, mae hyn o bosibl yn rhannol oherwydd cau ysgolion am ran o'r flwyddyn.

Cyfradd y gwaharddiadau penodol (MS Excel)

Pwyntiau allweddol: ysgolion a gynhelir

  • Mae cyfradd y gwaharddiadau parhaol wedi aros yr un fath (0.5 fesul 1,000 o ddisgyblion) yn 2019/20.
  • Mae cyfradd y gwaharddiadau tymor penodol (dros 5 diwrnod) wedi gostywng yn 2019/20 (1.2 gwaharddiad fesul 1,000 o ddisgyblion).
  • Mae cyfradd y gwaharddiadau tymor penodol (5 diwrnod neu lai) wedi gostwng yn 2019/20 i 27.2 fesul 1,000 o ddisgyblion.

Math o ysgol 2019/20

Ysgolion arbennig oedd â’r gyfradd uchaf o waharddiadau cyfnod penodol o 5 diwrnod neu lai a’r gyfradd uchaf o waharddiadau cyfnod penodol mwy na 5 diwrnod, tra roedd yn isaf yn ysgolion cynradd. Mae hyn yr un peth ag mewn blynyddoedd blaenorol.

Ysgolion uwchradd oedd â’r gyfradd uchaf o waharddiadau parhaol.

Hawl i brydau ysgol am ddim (FSM)

The rate of exclusions is consistently (at least 3 times) higher for those entitled to FSM than not entitled to FSM for fixed term exclusions (5 days or less), fixed term exclusions (over 5 days) and permanent exclusions in the period 2012/13 to 2019/20.

Anghenion addysgol arbennig (AAA)

Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy oedd a’r gyfradd uchaf o waharddiadau allan o ddisgyblion gydag AAA ym mhob blwyddyn a phob math o waharddiad.

Cefndir ethnig

Nid oes gennym ddata ar gyfer cefndir ethnig yr holl ddisgyblion. Mae'n well gan rai disgyblion beidio â darparu'r wybodaeth, ac i rai ni chafwyd y wybodaeth. Ar gyfer disgyblion mae gennym wybodaeth ar gyfer:

  • disgyblion sydd â chefndir ethnig 'Sipsi' sydd â'r cyfraddau gwahardd tymor penodol (5 diwrnod neu lai) uchaf
  • disgyblion sydd â chefndir ethnig Indiaidd sydd â'r cyfraddau gwahardd tymor penodol (5 diwrnod neu lai) isaf
  • disgyblion sydd â chefndir ethnig 'Gwyn' sydd â'r cyfraddau gwahardd tymor penodol (dros 5 diwrnod) uchaf
  • disgyblion sydd â chefndir ethnig Asiaidd sydd â'r cyfraddau gwahardd tymor penodol (dros 5 diwrnod) isaf
  • disgyblion sydd â chefndir ethnig 'Gwyn' sydd â'r cyfraddau gwahardd parhaol uchaf
  • disgyblion sydd â chefndir ethnig 'Du' sydd â'r cyfraddau gwahardd parhaol uchaf
Image
Dros yr holl waharddiadau, disgyblion â datganiadau AAA neu Ddarpariaeth AAA oedd â'r gyfradd waharddiadau uchaf, ac yna disgyblion sy'n gymwys ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim. Roedd gan y ddau grŵp cyfradd uwch o waharddiadau na'r gyfradd ar gyfer pob disgybl.

Cyfradd yr holl waharddiadau fesul nodweddion disgybl (MS Excel)

Rhesymau ar gyfer gwaharddiadau

Image
Y rheswm mwyaf cyffredin dros unrhyw waharddiad yw ymddygiad aflonyddgar parhaus, gyda 25.7% o'r holl waharddiadau. Y rheswm mwyaf cyffredin nesaf yw cam-drin geiriol / ymddygiad bygythiol gyda 19.6% o'r holl waharddiadau.

Canran yr holl hydoedd gwahardd yn ôl rheswm gwahardd (MS Excel)

Y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd dros bob gwaharddiad yn 2019/20 oedd ‘ymddygiad aflonyddgar parhaus’  gyda ychydig dros chwarter yr holl waharddiadau.

Gan edrych ar hyd gwaharddiadau:

  • ‘ymddygiad aflonyddgar parhaus’ oedd y rheswm mwyaf cyffredin dros waharddiadau tymor penodol (5 diwrnod neu lai) gyda 26.4% o’r holl waharddiadau o’r un fath
  • ‘ymosodiad corfforol yn erbyn disgybl’ oedd y rheswm mwyaf cyffredin dros waharddiadau tymor penodol (dros 5 diwrnod) gyda 19.6% o’r holl waharddiadau o’r un fath
  • ‘ymosodiad corfforol yn erbyn disgybl’ oedd y rheswm mwyaf cyffredin dros waharddiadau parhaol gyda 20.1% o’r holl waharddiadau o’r un fath

Diffiniadau

Gwaharddiad parhaol

Yn cyfeirio at ddisgybl sy’n cael ei wahardd ac mae ei enw’n cael ei ddileu o gofrestr yr ysgol. Byddai disgybl o’r fath wedyn yn cael ei addysgu mewn ysgol arall neu drwy ddarpariaeth o ryw fath arall.

Gwaharddiad cyfnod penodol

Yn cyfeirio at ddisgybl sy’n cael ei wahardd o ysgol ond sy’n aros ar gofrestr yr ysgol honno oherwydd y disgwylir iddo ddychwelyd ar ôl i gyfnod y gwaharddiad ddod i ben.

Symudiad wedi’i reoli

Trefniant lle mae rhieni disgyblion sydd mewn perygl o gael eu gwahardd yn cytuno ag ysgolion ac awdurdodau lleol ei bod er budd pennaf eu plentyn gael ei dynnu o gofrestr yr ysgol bresennol a’i symud i sefydliad addysgol arall.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Bu 2 newid i'r gyfres hon yn y datganiad hwn.

Cynnwys data Gwaharddiadau EOTAS yn y tablau sy'n cyfeirio at ddata FSM, AAA ac Ethnigrwydd. Nododd rhifynnau blaenorol o'r datganiad hwn yn anghywir fod y data hwn wedi'i gynnwys. Roedd y newid hwn yn berthnasol i bob blwyddyn yn y tablau hynny (tablau 4, 5 a 6).

Newid yng nghyfanswm y disgyblion oherwydd newid yn y disgyblion EOTAS a gynhwyswyd. Yn flaenorol dim ond disgyblion a gofrestrodd naill ai mewn Uned Cyfeirio Disgyblion yn unig, neu a gofrestrodd mewn Uned Atgyfeirio Disgyblion â chofrestriad atodol mewn ysgol a gynhelir. Nawr mae'r holl ddisgyblion yn EOTAS wedi'u cynnwys yng nghyfanswm y disgyblion ar yr amod nad ydyn nhw yng nghyfrif PLASC. Mae'r newid hwn yn effeithio bob blwyddyn yn yr holl dablau ac eithrio'r tabl o resymau gwahardd (tabl 3).

Gellir gweld rhagor o fnaylion yn yr Adroddiad ansawdd ar gyfer y datganiad hwn.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ddibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ceir eu dyfarnu fel statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried os ydy’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o gydymffurfiad â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ychwanegu i benderfyniadau a dadlau cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw i gynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir o Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y statws parhaus o’r ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol yn Gorffennaf 2010 yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • ychwanegu at, a mireinio gwybodaeth am ddimensiynau ansawdd a disgrifio cysylltiadau â pholisi
  • cynhyrchwyd y datganiad diweddaraf mewn fformat newydd i gynnwys siartiau sy'n rhoi mewnwelediad pellach i rywfaint o'r wybodaeth allweddol
  • darparu mwy o ddata ar StatsCymru

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw i gynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir o Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer.

Mae'r adran hon yn darparu crynodeb o wybodaeth am yr allbwn hwn yn erbyn pum dimensiwn ansawdd: Perthnasedd, Cywirdeb, Prydlondeb a Prydlondeb, Hygyrchedd a Eglurder, a Chymhariaeth. Mae hefyd yn ymdrin â materion penodol sy'n ymwneud ag ansawdd data 2021, ac yn disgrifio'r offeryn rheoli ansawdd a gymhwysir i'r maes gwaith hwn.

Perthnasedd

Mae’r ystadegau’n cael eu defnyddio y tu mewn a’r tu allan i Lywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau addysgol ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddi’r data sylfaenol ymhellach. Dyma rai o’r prif ddefnyddwyr:

  • gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn y Senedd
  • aelodau Senedd Cymru
  • yr Adran Polisi Addysg yn Llywodraeth Cymru
  • adrannau arall yn Llywodraeth Cymru
  • adrannau llywodraethol eraill
  • Estyn
  • y gymuned ymchwil
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol a chwmnïau preifat

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:

  • dyraniad adnoddau yn Setliad Cyllid Llywodraeth Leol Cymru a'r Grant Datblygu Disgyblion
  • cyngor i weinidogion
  • llywio'r broses o wneud penderfyniadau polisi addysg yng Nghymru gan gynnwys ad-drefnu ysgolion
  • Estyn yn ystod arolygiadau ysgol
  • parth addysg ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
  • cynorthwyo gydag ymchwil i mewn i gyrhaeddiad addysgol

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar yr adran Ystadegau o wefan Llywodraeth Cymru. Ynghyd â’r datganiad mae Thaenlen Dogfen Agored a thablau manylach ar StatsCymru, gwasanaeth rhad ac am ddim i'w ddefnyddio sy'n caniatáu i ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho data.

Cymaroldeb

Lloegr: School attendance and Absence (GOV.UK)

Yr Alban: School exclusion statistics (Llywodraeth yr Alban)

Gogledd Iwerddon: Pupil suspensions and expulsions (Yr Adran Addysg, Gogledd Iwerddon)

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn yr Adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Stephen Hughes
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
Ebost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image removed.

SFR 374/2021