Neidio i'r prif gynnwy

Y cyd-destun

Polisi a gweithredol

Cyhoeddwyd canllawiau wedi’u diweddaru ar Wahardd o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion (Cylchlythyr Rhif: 171/2015) ym mis Ebrill 2015. Mae’n darparu canllawiau ar waharddiadau a gweithdrefnau apelio. Mae’r gweithdrefnau a nodir yn y canllawiau hyn yn berthnasol i’r holl ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion a gynhelir a’r holl ddisgyblion ynddynt. Lle ysgolion unigol yw pennu eu polisïau ymddygiad a chydweithio â’u hawdurdod lleol ar waharddiadau. Bydd arferion amrywiol sydd ar waith o dan y canllawiau’n effeithio ar y cyfraddau amrywiol ar draws Cymru.

Ffynhonnell a chwmpas y data

Ers mis Ionawr 2013 mae data gwaharddiadau wedi cael eu casglu yng Nghyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) mis Ionawr. Ni fu modd cyhoeddi’r data newydd hyn ar unwaith oherwydd bu’n rhaid gwerthuso eu hansawdd. Erbyn hyn mae ansawdd y data wedi cael ei gadarnhau ac mae’r data gwaharddiadau lefel disgyblion a gafwyd o CYBLD mis Ionawr yn cael eu defnyddio fel sail i’r datganiad ystadegol cyntaf hwn. Mae’r niferoedd disgyblion a ddefnyddir i gyfrifo cyfraddau gwaharddiadau hefyd wedi’u cymryd o CYBLD mis Ionawr a chasgliad EOTAS. Caiff y gwaith casglu data ei gyflawni gan y Gwasanaeth Gwybodaeth a Dadansoddi yn Llywodraeth Cymru.

Mae’r wybodaeth am waharddiadau yn y Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn ymdrin â nifer y gwaharddiadau parhaol a chyfnod penodol ymysg disgyblion o bob oed o ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion a gynhelir yn ystod y flwyddyn academaidd gyfan) Dim ond gwaharddiadau parhaol a gadarnheir gan Bwyllgor Disgyblaeth Disgyblion y Corff Llywodraethu sy’n cael eu cynnwys yn y data gan y cânt eu casglu ar ôl i ganlyniad pob apêl annibynnol gael ei derfynoli.

Caiff y data eu casglu o ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig a gynhelir yn CYBLD mis Ionawr ar ôl y flwyddyn academaidd y digwyddodd y gwaharddiadau ynddi. Er enghraifft, casglwyd y gwaharddiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2017/18 yn CYBLD Ionawr 2019. Os bydd dwy ysgol yn uno cyn CYBLD mis Ionawr nesaf, caiff data gwaharddiadau’r ysgolion eu cyflwyno gan yr ysgol newydd. Os bydd ysgol yn cau cyn CYBLD mis Ionawr nesaf, ni ddarperir y data gwaharddiadau o’r ysgol honno.

Mae’r niferoedd disgyblion a ddefnyddir i gyfrifo cyfraddau gwaharddiadau yn y Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn cynnwys yr holl ddisgyblion amser llawn a rhan amser mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig a gynhelir. Dim ond disgyblion o ysgolion oedd yn dal i fod ar agor i ddarparu data gwaharddiadau yn CYBLD y mis Ionawr nesaf y maent yn eu cynnwys. Os mai ysgol oedd newydd uno a ddarparodd y data gwaharddiadau, bydd yr holl ysgolion a unodd i ffurfio’r ysgol honno hefyd wedi’u cynnwys yn y cyfansymiau.

Mae’r data’n ymdrin â nifer y gwaharddiadau, nid nifer y disgyblion a waharddwyd. Er enghraifft, byddai disgybl a waharddwyd dwywaith yn ystod blwyddyn academaidd yn ymddangos dwywaith ar gyfer y flwyddyn honno.

Gwybodaeth am ansawdd

Perthnasedd

Mae’r ystadegau’n cael eu defnyddio y tu mewn a’r tu allan i Lywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau addysgol ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddi’r data sylfaenol ymhellach. Dyma rai o’r prif ddefnyddwyr:

  • gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Yr Adran Addysg yn Lloegr
  • adrannau llywodraethol eraill
  • awdurdodau lleol
  • Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
  • Swyddfa Archwilio Cymru
  • Yr Adran Addysg a Sgiliau yn Llywodraeth Cymru
  • adrannau arall yn Llywodraeth Cymru
  • y gymuned ymchwil
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol a chwmnïau preifat

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:

  • cyngor i Weinidogion
  • cymariaethau a meincnodau awdurdodau lleol
  • i lywio’r broses benderfynu ym maes polisi addysg yng Nghymru
  • i ddarparu gwybodaeth i Estyn yn ystod arolygiadau o ysgolion
  • yn cyfrannu at y Dangosyddion Strategol Craidd
  • meincnodi rhyngwladol
  • maes addysg ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
  • i gynorthwyo â gwaith ymchwil i gyrhaeddiad addysgol

Cywirdeb

Mae gwahanol gamau dilysu a gwirio synnwyr awtomatig yn rhan annatod o’r broses casglu data er mwyn sicrhau bod y data o ansawdd uchel.

Amseroldeb a phrydlondeb

Caiff y data eu casglu yn y mis Ionawr ar ôl y flwyddyn academaidd y digwyddodd y gwaharddiadau ynddi. Ar ôl casglu’r data a sicrhau eu hansawdd, cânt eu cyhoeddi ar y dyddiad cynharaf posibl. Oherwydd bod gwaith casglu’r data wedi symud o arolwg gan awdurdodau lleol a arferai cael ei gynnal ym mis Tachwedd i CYBLD mis Ionawr, mae’r dyddiad cyhoeddi’n hwyrach na dyddiad y datganiad ystadegol blaenorol ar waharddiadau.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar yr adran Ystadegau o wefan Llywodraeth Cymru.

Cymaroldeb a chydlyniaeth

Er mwyn gwella ansawdd y data gwaharddiadau a’u gwneud yn fwy defnyddiol, penderfynwyd casglu data gwaharddiadau mewn ffordd newydd trwy Gyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) mis Ionawr. Felly dylech ddehongli'r data yn y datganiad yma gyda data o’r arolwg awdurdodau yn yr adroddiad hen ‘Gwaharddiadau o ysgolion yng Nghymru’.

Gan fod data gwaharddiadau yn cael eu casglu yn y casgliad CYBLD a EOTAS ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd, caeodd rhai ysgolion cyn iddynt allu adrodd am eu gwaharddiadau. Penderfynwyd nodi ysgolion o'r fath ac nid ydynt yn cynnwys nifer y disgyblion a oedd ganddynt ar y gofrestr yn niferoedd y disgyblion a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r cyfraddau. Ond mae rhifyn 2014/15 y Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn defnyddio dull symlach. I gyfrifo cyfradd y gwaharddiadau fesul 1,000 o ddisgyblion, rhannwyd nifer y gwaharddiadau gan nifer y disgyblion â statws cofrestru 'prif' neu 'gyfredol' a adroddwyd gan bob ysgol ym mis Ionawr PLASC, gan anwybyddu effaith ysgolion sydd wedi cau. Gellir cael y ffigurau hyn o StatsCymru. Mae'r dull hwn yn symlach, yn haws i'n defnyddwyr ddyblygu a deall ac yn caniatáu i ni gynhyrchu data mwy amserol. Oherwydd y newid hwn, ni chynghorir cymharu cyfraddau yn rhifyn 2013/14 gyda'r rhifyn 2014/15 o'r Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn. Gellir cynhyrchu ffigurau cymharol ar gais os oes angen.

Yn ogystal, oherwydd yr effaith gweithrediad gwahanol arferion ymyrraeth rheoli ac eithrio, megis symudiadau a reolir, ar nifer y gwaharddiadau, dylid dehongli cymariaethau dros amser a rhwng awdurdodau lleol yn ofalus.

Mae data gwaharddiadau ar gyfer Cymru wedi’u seilio ar nifer y gwaharddiadau yn ystod y flwyddyn academaidd, ond mae Gogledd Iwerddonyn cyhoeddi nifer y disgyblion a waharddwyd, felly nid oes modd cymharu’r ddwy set o ddata’n uniongyrchol. Mae gwybodaeth am nifer y disgyblion a waharddwyd yng Nghymru ar gael o wneud cais.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ddibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ceir eu dyfarnu fel statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried os ydy’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o gydymffurfiad â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ychwanegu i benderfyniadau a dadlau cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw i gynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir o Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y statws parhaus o’r ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol yn Gorffennaf 2010 yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • cynhyrchu datganiad fformat byrrach sy'n tynnu sylw at negeseuon allweddol wrth gynnal y lefel flaenorol o ddata mewn tablau atodol

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Mae rhagor o fanylion

Mae Lloegr yn cyhoeddi data gwaharddiadau ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig a ariennir gan y wladwriaeth yn y datganiad ystadegol o’r enw ‘Gwaharddiadau parhaol a chyfnod penodol yn Lloegr: 2017 i 2018’.

Mae’r Alban yn cyhoeddi data gwaharddiadau ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig a gynhelir yn y bwletin ystadegol 'Ystadegau cryno ar gyfer ysgolion yn yr Alban'.

Mae Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi nifer y disgyblion sy’n cael eu diarddel neu eu diarddel dros dro o ysgolion cynradd, ôl-gynradd ac arbennig.