Mae nifer o gynhyrchion plastig untro wedi cael eu gwahardd rhag cael eu cyflenwi yng Nghymru heddiw.
Mae hyn yn dilyn ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ‘ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn’.
Pwrpas y ddeddf newydd yw lleihau’r llif o lygredd plastig sy’n llifo i’n hamgylchedd trwy wahardd rhai cynhyrchion plastig untro rhag cael eu cyflenwi.
Esboniodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, bod y Ddeddf yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i’r argyfyngau hinsawdd a natur a’i bod yn ‘adeiladu ar y momentwm y mae cymunedau ledled Cymru wedi’i greu trwy benderfynu mynd yn ddi-blastig, ymwrthod â’r diwylliant ‘taflu pob peth’ a mynd i’r afael â sbwriel.
Mae’r cyhoedd wedi bod yn bositif eu cefnogaeth i’r gwaharddiad, gyda mwy nag 87 y cant yn ei gefnogi.
O heddiw ymlaen, mae'r eitemau canlynol bellach wedi'u gwahardd rhag cael eu gwerthu ledled y wlad:
- Platiau plastig untro
- Cwpanau plastig untro
- Troellwyr diodydd plastig untro
- Cwpanau wedi'u gwneud o bolystyren allwthiedig ymestynedig neu ewynnog
- Cynwysyddion bwyd tecawê wedi'u gwneud o bolystyren allwthiedig ymestynedig neu ewynnog
- Ffyn balŵn plastig untro
- Ffyn cotwm coesyn plastig untro
- Gwellt yfed plastig untro (eithriadau i'r rhai sydd eu hangen i fwyta ac yfed yn ddiogel ac yn annibynnol)
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
"Dyma'r cam cyntaf i ddileu'r angen i ddefnyddio a gwerthu plastig untro diangen yng Nghymru.
"Rydym wedi ymrwymo i ddileu plastig untro a’n cam nesaf fydd gwahardd bagiau plastig untro, caeadau polystyren ar gyfer cwpanau a chynwysyddion bwyd a chynhyrchion wedi'u gwneud o blastig ocso-fioddiraddadwy a fydd yn digwydd cyn diwedd tymor y Senedd.
"Mae llawer o fusnesau ledled Cymru eisoes wedi mabwysiadu'r newid cyn y gwaharddiad trwy newid i gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio neu gyfnewid eu plastig ar gyfer dewisiadau amgen cardbord neu bapur lle nad yw cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio yn addas.
"Rydyn ni hefyd yn edrych ar weips gwlyb plastig sy'n gallu rhwystro draeniau, cyfrannu at lifogydd ac ychwanegu ffibrau microblastig i'n hamgylchedd.
"Os byddwn oll yn dilyn dull 'Tîm Cymru' ac yn ceisio ailddefnyddio, ailgylchu ac atgyweirio mwy, bydd yn helpu i greu dyfodol gwyrddach i genedlaethau'r dyfodol.