Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 18 Ebrill 2013.

Cyfnod ymgynghori:
11 Chwefror 2013 i 18 Ebrill 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 139 KB

PDF
139 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym am glywed eich barn am y cynnig i gyflwyno gwaharddiad ar saethu Gwyddau Talcen-wyn er mwyn amddiffyn rhywogaeth sydd mewn perygl.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Ceir dau fath o Wyddau Talcen-wyn yn y DU yn ystod y gaeaf – y rhai o dras Ewrasiaidd (neu Ewropeaidd) a’r rhai o dras yr Ynys Las. Mae Gwyddau Talcen-wyn Ewrasiaidd yn fwy niferus ond cyfrifir bod Gwyddau Talcen-wyn yr Ynys Las “Mewn Perygl”.
 
Mae’r DU yn bwysig i’r Gwyddau Talcen-wyn o’r Ynys Las gyda tua’u hanner yn dod i’r DU yn y gaeaf. Rhaid i ni gymryd camau i geisio lleihau nifer marwolaethau’r Gwyddau hyn i gyflawni ein ymrwymiadau cadwraeth rhyngwladol.

Beth fyddai’n newid

Ar hyn o bryd dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 caniateir lladd neu gymryd Gwyddau Talcen-wyn y tu allan i’r ‘Tymor Caeedig’ yng Nghymru a Lloegr. Y tymor caeedig yw’r cyfnod rhwng 1 Chwefror a 31 Awst bob blwyddyn neu mewn perthynas â gwyddau gwylltion mewn neu dros unrhyw ardal sydd islaw marc penllanw ar orllanw arferol rhwng 21 Chwefror a 31 Awst.

Byddai’r gwaharddiad yn dod i rym ar 01 Medi 2013 ac yn ei le drwy gydol y flwyddyn (gan gynnwys y ‘tymor agored’).

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 311 KB

PDF
311 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.