Rydyn ni’n gweithio ar gamau i wahardd arferion trosi i wneud Cymru yn wlad ddiogel i bob person LHDTC+.
Cynnwys
Y cefndir
Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu arferion trosi ar bob ffurf. Rydyn ni am i bob person LHDTC+ gael ei drin â’r un gwerth, bod yn ddiogel a byw’n ddiffuant ac yn agored ac yn driw i'w hunain.
Beth yw arferion trosi?
Defnyddir 'arferion trosi', a elwir weithiau'n 'therapi trosi', fel term ambarél i ddisgrifio ymyriadau niweidiol eang. Mae pob un ohonynt yn seiliedig ar y camsyniad, neu ar y diben sydd wedi'i bennu ymlaen llaw, y gellir newid, "gwella" neu atal cyfeiriadedd rhywiol a/neu rywedd unigolyn, gan gynnwys ei hunaniaeth rhywedd.
Er enghraifft, amcan yr arferion hynny yn aml yw ceisio newid person:
- o fod yn berson hoyw, lesbiaidd neu ddeurywiol i fod yn berson heterorywiol
- o fod yn berson traws, anneuaidd neu rywedd-amrywiol i fod yn berson cisryweddol.
Yn dibynnu ar y cyd-destun, defnyddir y term ar gyfer amrywiaeth o arferion a dulliau. Mae'r rhain yn aml yn ddirgel, ac felly heb eu cofnodi'n dda.
Gwyliwch ein fideo:
Cymorth a chefnogaeth
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn profi arferion trosi, mynnwch gymorth cyfrinachol am ddim gan Wasanaeth Cymorth Therapi Trosi Cenedlaethol Galop neu ffoniwch eu llinell gymorth ar 0800 130 3335.
Mae gwasanaethau cymorth eraill sy'n arbenigo mewn helpu pobl sy'n dioddef camdriniaeth. Mae’r rhain yn cynnwys:
Ymrwymiadau Llywodraeth Cymru
Nod cam gweithredu 3 yng Nghynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru yw:
“Gwahardd pob agwedd ar Arferion Trosi LHDTC+.”
Rydyn ni wedi sefydlu Gweithgor ar Wahardd Arferion Trosi. Mae'r Gweithgor yn cynghori ar gamau gweithredu arfaethedig i wahardd arferion trosi yng Nghymru.
Dyma rai o’r camau gweithredu:
- llunio diffiniad o arferion trosi at ddibenion polisi ac ymgyrchu
- comisiynu prosiect ymchwil ar brofiadau goroeswyr arferion trosi yng Nghymru
- ymgyrch ymwybyddiaeth o ba wasanaethau cymorth sydd ar gael i oroeswyr