Canfyddiadau cychwynnol prosiect cysylltu data sy'n archwilio gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021 ac arolygon aelwydydd. Mae'r cyhoeddiad hwn yn un o allbynnau cynllun gwaith ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i wella ein dealltwriaeth o ystadegau'r Gymraeg.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Ym mis Ebrill 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol gynllun gwaith ar y cyd. Mae'r cynllun gwaith hwn yn amlinellu'r gwaith rydym yn bwriadu ei wneud yn ystod 2023-24 a thu hwnt i wella ein dealltwriaeth o brif ffynonellau data arolygon a data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau am y Gymraeg. Ochr yn ochr â'r cynllun gwaith hwn cyhoeddwyd blog gan Brif Ystadegydd Llywodraeth Cymru (Blog Digidol a Data).
Mae'r erthygl ystadegol hon yn rhannu canfyddiadau cychwynnol o'r cyntaf o chwe phrosiect a amlinellir yn y cynllun gwaith.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021 ac arolygon aelwydydd , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 15 KB
Cyswllt
Cian Siôn (Llywodraeth Cymru) a Rob Doherty (Swyddfa Ystadegau Gwladol)
E-bost: dataiaithgymraeg@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.