Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ddata Cyfrifiad 2021 ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd pobl yng Nghymru a Lloegr ddydd Gwener 6 Ionawr 2023 mewn dau fwletin:

Ar yr un diwrnod, gwnaethom gyhoeddi ein crynodeb pwnc Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)

Mae'r bwletin ystadegol hwn yn cynnwys data cryno ychwanegol ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yn ôl amrywiaeth o ganlyniadau economaidd-gymdeithasol ar gyfer unigolion a oedd yn breswylwyr arferol yng Nghymru ar adeg y cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021. Mae'n dweud wrthym sut roedd y canlyniadau hyn yn amrywio ar gyfer gwahanol fathau o gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd ledled Cymru. Mae'r bwletin hefyd yn cynnwys dadansoddiad yn ôl oedran a rhyw er mwyn rhoi cyd-destun. Mae'r holl ddata a ddefnyddiwyd ar gyfer y dadansoddiad yn y datganiad hwn i'w gweld ar wefan SYG o'r dudalen Census 2021 sexual orientation and gender identity data combining multiple variables (SYG), a'r datganiad diweddar gan SYG, Sexual orientation, further personal characteristics, England and Wales: Census 2021 (SYG).

Gofynnodd Cyfrifiad 2021 gwestiynau gwirfoddol am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd i bob preswylydd arferol 16 oed a throsodd. Dyma'r tro cyntaf i gwestiwn am y naill bwnc neu'r llall gael ei ofyn yn y cyfrifiad. 

Gofynnwyd i bobl “Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio orau eich cyfeiriadedd rhywiol?”. Y gwahanol fathau o gyfeiriadedd rhywiol y gallai pobl ddewis o'u plith oedd:

Cafodd ymatebwyr a ddewisodd “Cyfeiriadedd rhywiol arall” eu gwahodd i ysgrifennu pa gyfeiriadedd rhywiol roeddent yn uniaethu ag ef. Fodd bynnag, at ddibenion y datganiad hwn, rydym wedi defnyddio'r term “cyfeiriadeddau rhywiol eraill” i ddisgrifio'r grŵp hwn. I gael rhagor o wybodaeth, gweler yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Gofynnwyd i'r ymatebwyr hefyd “Ydy’r rhywedd rydych chi’n uniaethu ag ef yr un peth â’r rhyw a gofrestrwyd pan gawsoch chi eich geni?” ac roedd modd iddynt naill ai ddewis “Ydy” neu ddewis “Nac ydy” ac ysgrifennu eu hunaniaeth benodol o ran rhywedd.

I gael rhagor o wybodaeth am gwestiynau Cyfrifiad 2021 ac arweiniad ar ddehongli'r data yn y bwletin hwn, gweler yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei dogfen Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru sy'n cynnwys rhestr o dermau sy'n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd. Mae terminoleg ym maes LHDTC+ yn parhau i ddatblygu yn y Gymraeg a'r Saesneg ac mae Llywodraeth Cymru yn croesawu unrhyw adborth ar y derminoleg a ddefnyddir ar gyfer y pwnc hwn. Gweler y cynllun gweithredu i gael gwybodaeth am sut i roi adborth ar derminoleg. Mae'r bwletin hwn yn defnyddio terminoleg sy'n cyd-fynd â'r cwestiynau ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd a ofynnwyd yng Nghyfrifiad 2021.

Prif bwyntiau

Cyfeiriadedd rhywiol

  • Roedd cyfran uwch o bobl iau na phobl hŷn yn ystyried eu hunain yn “Hoyw neu Lesbiaidd”, “Deurywiol/Bi” neu gyfeiriadedd rhywiol lleiafrifol ychwanegol (LHD+).
  • Roedd benywod yn fwy tebygol o ystyried eu hunain yn LHD+ (3.3%) na dynion (2.7%).
  • Pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Hoyw neu Lesbiaidd” oedd y lleiaf tebygol o fod mewn iechyd cyffredinol gwael neu wael iawn (7.6%) a'r rhai a oedd yn uniaethu â chyfeiriadeddau rhywiol eraill oedd y mwyaf tebygol (12.6%).
  • Dywedodd traean (33.8%) o'r bobl a oedd yn ystyried eu hunain yn LHD+ eu bod yn anabl (yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010), o gymharu â chwarter (24.0%) y bobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt”.
  • Pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt” oedd y mwyaf tebygol o fod heb gymwysterau ffurfiol (19.5%), a phobl a nododd “Deurywiol/Bi” oedd y lleiaf tebygol (7.4%).
  • Pobl a nododd “Deurywiol/Bi” oedd y mwyaf tebygol o fod yn ddi-waith (8.5%), a phobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt” oedd y lleiaf tebygol (3.9%).

Hunaniaeth o ran rhywedd

  • Roedd canran y bobl a ddywedodd fod eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni yn gostwng yn ôl oedran.
  • Menywod traws oedd y mwyaf tebygol o ddweud bod eu hiechyd cyffredinol yn wael neu'n wael iawn (14.5%).
  • Roedd pobl a ddywedodd fod eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni yn fwy tebygol o fod yn anabl (38.9%) na'r rhai a ddywedodd fod eu hunaniaeth o ran rhywedd yr un peth â'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni (24.4%).
  • Pobl yn y grŵp ‘hunaniaeth ychwanegol o ran rhywedd’ oedd y mwyaf tebygol (39.0%) a nodi bod ganddynt gymhwyster Lefel 4+ (sy'n cynnwys lefel gradd).
  • Dywedodd 51.4% o'r bobl 16 oed a throsodd yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni eu bod yn economaidd anweithgar, o gymharu â 42.4% o'r bobl yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yr un peth â'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni.

Oedran a rhyw

Mae strwythurau oedran poblogaeth yr amrywiol grwpiau cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yn amrywio, a dylid ystyried effaith hyn wrth ddehongli'r canfyddiadau a gyflwynir yn y datganiad hwn. Felly, lle y bo modd, rydym wedi rhannu'r nodweddion yn ôl oedran er mwyn dangos y wybodaeth gyd-destunol hon.

Cyfeiriadedd rhywiol

Term ambarél sy'n cwmpasu hunaniaeth rywiol, atyniad, perthnasoedd, ac ymddygiad yw cyfeiriadedd rhywiol. I ymatebydd unigol, mae'n bosibl na fydd y rhain yn golygu'r un peth â'i gilydd.

Gwnaeth cyfanswm o 2.4 miliwn o breswylwyr arferol yng Nghymru (92.4% o'r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd) ateb y cwestiwn ar gyfeiriadedd rhywiol, ac ni wnaeth 193,900 (7.6%) ateb y cwestiwn. Nid oes dadansoddiad o'r grŵp o bobl na wnaethant ateb y cwestiwn wedi'i gynnwys yn y datganiad hwn.

O'r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd, roedd 3.0% yn uniaethu â chyfeiriadedd rhywiol LHD+. O fewn y grŵp hwn, disgrifiodd 1.5% eu hunain fel “Hoyw neu Lesbiaidd”, a disgrifiodd 1.2% eu hunain fel “Deurywiol/Bi”. Gwnaeth 0.3% yn rhagor ysgrifennu eu cyfeiriadedd rhywiol penodol. O'r rhain, roedd yr ymatebion mwyaf cyffredin yn cynnwys:

  • “Panrywiol” (0.1%)
  • “Anrhywiol” (0.1%)
  • “Cwiar” (0.02%)

Nododd 0.1% yn rhagor fod ganddynt gyfeiriadedd rhywiol gwahanol heblaw'r rhai a restrir uchod.

Felly, disgrifiodd 89.4% eu hunain fel “Heterorywiol/Strêt”.

Roedd cyfran uwch o'r bobl a oedd yn ystyried eu hunain yn LHD+ yn y grwpiau oedran iau. Ymhlith y bobl rhwng 16 a 44 oed, roedd y gyfran a oedd yn ystyried eu hunain yn LHD+ yn uwch (5.5%) na chyfartaledd poblogaeth Cymru (3.0%). Ymhlith y bobl 45 oed a throsodd, roedd y gyfran yn is na'r cyfartaledd (1.2%).

Roedd benywod yn fwy tebygol o ystyried eu hunain yn LHD+ (3.3%) na dynion (2.7%). Roedd hyn yn arbennig o wir ar gyfer grwpiau oedran iau, lle roedd benywod rhwng 16 a 24 oed fwy na dwywaith yn fwy tebygol o ystyried eu hunain yn LHD+ (10.0%) o gymharu â dynion (4.8%). Gwelir tuedd y ffordd arall ar gyfer grwpiau oedran dros 45 oed lle roedd gwrywod yn fwy tebygol o ystyried eu hunain yn LHD+.

Ffigur 1: Canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd yn ystyried eu hunain yn LHD+ ym mhob grŵp oedran yn ôl rhyw, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart bar clwstwr yn dangos bod grwpiau oedran iau yn fwy tebygol o uniaethu â chyfeiriadedd LHD+. Mae hefyd yn dangos mai benywod rhwng 16 a 24 oed oedd y grŵp mwyaf tebygol o uniaethu â chyfeiriadedd LHD+, gyda chanran o 10.0%.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Hunaniaeth o ran rhywedd

Mae hunaniaeth o ran rhywedd yn cyfeirio at ymdeimlad unigolyn o'i rywedd ei hun, p'un a yw rhywun yn ddyn, yn fenyw neu'n uniaethu â hunaniaeth ychwanegol, fel anneuaidd. Gall fod yr un peth â'r rhyw a gofrestrwyd pan gafodd yr unigolyn ei eni, neu gall fod yn wahanol.

Mae'r cwestiwn yn y cyfrifiad a'r amcangyfrifon ar gyfer hunaniaeth o ran rhywedd yn destun lefel uwch o ansicrwydd na rhai pynciau eraill. Ceir patrymau yn y data sy'n gyson â phe bai rhai ymatebwyr wedi dehongli'r cwestiwn yn wahanol i'r bwriad, er nad ydynt yn dangos hynny'n bendant. Caiff hyn ei awgrymu gan rai patrymau yn y data y gellir ystyried eu bod yn annisgwyl. Er enghraifft, roedd canran y bobl a ddywedodd fod eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni yn uwch ar gyfer pobl nad y Gymraeg na'r Saesneg oedd eu prif iaith na'r boblogaeth gyffredinol. Roedd yn uwch eto ymhlith pobl nad oeddent yn siarad Cymraeg na Saesneg yn dda o gwbl. Felly, mae bod yn arbennig o ofalus wrth ddehongli'r data. Gweler yr adroddiad ar ansawdd data Cyfrifiad 2021 ar hunaniaeth o ran rhywedd (SYG) am ragor o wybodaeth.

Yng Nghymru, cafwyd ymatebion i'r cwestiwn ar hunaniaeth o ran rhywedd gan 2.4 miliwn o bobl (93.7% o'r boblogaeth 16 oed a throsodd). 

Dywedodd 93.3% o boblogaeth Cymru a oedd yn 16 oed a throsodd fod eu hunaniaeth o ran rhywedd yr un peth â'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni ac ymatebodd 0.4% “Nac ydy”, sy'n dangos bod eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni. O blith y rhai a ymatebodd “Nac ydy”, nododd 0.08% eu bod yn ystyried eu hunain yn ddynion traws, roedd 0.07% yn ystyried eu hunain yn fenywod traws, dywedodd 0.06% eu bod yn anneuaidd, a nododd 0.2% fod eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni heb roi hunaniaeth benodol yn y lle gwag ar gyfer ysgrifennu.

Roedd canran y bobl a ddywedodd fod eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni yn gostwng yn ôl oedran. Ymhlith y bobl rhwng 16 a 24 oed, dywedodd 0.9% fod eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni, o gymharu â 0.2% o'r bobl 65 oed a throsodd. Yn y grwpiau oedran hŷn, roedd y gostyngiad hwn yn llai amlwg.

Ffigur 2: Canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni, yn ôl grŵp oedran, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae'r siart bar yn dangos bod pobl mewn grwpiau oedran iau yn llawer mwy tebygol o ddweud bod eu rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Iechyd cyffredinol

Hunanasesiad o gyflwr iechyd cyffredinol person yw iechyd cyffredinol. Gofynnwyd i bobl asesu ai “Da iawn”, “Da”, “Gweddol”, “Gwael” neu “Gwael iawn” oedd eu hiechyd. Nid yw'r asesiad hwn yn seiliedig ar iechyd unigolyn dros unrhyw gyfnod penodol o amser. Ceir rhagor o wybodaeth yn safon wedi'i chysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth. At ddibenion y datganiad hwn, rydym wedi cyfuno'r categorïau fel a ganlyn: “da iawn neu dda”; “gweddol”, a “gwael neu wael iawn”.

Cyfeiriadedd rhywiol

Am y rhan fwyaf o'r hyn sy'n weddill o'r datganiad hwn, byddwn yn rhannu'r grŵp LHD+ yn unol â chodau'r cyfrifiad. Fodd bynnag, yma rydym wedi defnyddio'r term “cyfeiriadeddau rhywiol eraill” i ddisgrifio'r grŵp hwn. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

O blith y bobl 16 oed a throsodd, roedd y rhai a oedd yn ystyried eu hunain yn LHD+ fymryn yn fwy tebygol o ddweud bod eu hiechyd cyffredinol yn wael neu'n wael iawn (8.3%) na'r bobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt” (8.0%).  Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y rhai a oedd yn ystyried eu hunain yn LHD+ yn tueddu i fod yn iau na'r cyfartaledd a bod pobl iau yn fwy tebygol o ddweud bod eu hiechyd yn dda iawn neu'n dda (SYG)

Pobl a oedd yn uniaethu â chyfeiriadeddau rhywiol eraill oedd y mwyaf tebygol o ddweud bod eu hiechyd cyffredinol yn wael neu'n wael iawn (12.6%), a phobl a oedd yn uniaethu â chyfeiriadedd “Deurywiol/Bi” (8.3%) a “Heterorywiol/Strêt” (8.0%) oedd yr ail a'r trydydd mwyaf tebygol. Pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Hoyw neu Lesbiaidd” oedd y lleiaf tebygol o fod mewn iechyd cyffredinol gwael neu wael iawn (7.6%).

Pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Hoyw neu Lesbiaidd” oedd y mwyaf tebygol o fod mewn iechyd da neu dda iawn (77.6%), a phobl a oedd yn uniaethu â chyfeiriadeddau rhywiol eraill oedd y lleiaf tebygol (66.2%).

Ffigur 3: Cyfran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yn ôl cyfeiriadedd rhywiol ac iechyd cyffredinol, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae'n dangos mai pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Hoyw neu Lesbiaidd” oedd y mwyaf tebygol o ddweud bod eu hiechyd cyffredinol yn dda neu'n dda iawn ac mai pobl a oedd yn uniaethu â chyfeiriadeddau rhywiol eraill oedd y lleiaf tebygol.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Roedd cyfran y bobl a ddywedodd fod eu hiechyd cyffredinol yn dda neu'n dda iawn yn gostwng yn ôl oedran ar gyfer pob cyfeiriadedd rhywiol, ond roedd y gostyngiad yn llai amlwg ymhlith pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn LHD+ o gymharu â'r grŵp “Heterorywiol/Strêt”. 

Ymhlith y bobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt”, roedd canran y rhai a ddywedodd fod eu hiechyd cyffredinol yn dda neu'n dda iawn yn gostwng bron i 47 o bwyntiau canran o 92.6% ar gyfer pobl rhwng 16 a 24 oed, i 45.7% ar gyfer pobl dros 74 oed, o gymharu â gostyngiad o ychydig dros 27 o bwyntiau canran o 80.5% ar gyfer pobl rhwng 16 a 24 oed i 53.2% ar gyfer pobl dros 74 oed ymhlith y bobl a oedd yn ystyried eu hunain yn LHD+. 

Fodd bynnag, roedd canran y bobl a ddywedodd fod eu hiechyd cyffredinol yn dda neu'n dda iawn yn is ar gyfer pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn LHD+ ym mhob grŵp oedran, ac eithrio'r grŵp dros 74 oed.

Ffigur 4: Canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a ddywedodd fod eu hiechyd cyffredinol yn dda neu'n dda iawn yn ôl cyfeiriadedd rhywiol a grŵp oedran, Cymru, 2021 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae'r siart bar clwstwr yn dangos bod canran y bobl a ddywedodd fod eu hiechyd yn dda yn gostwng yn ôl oedran a bod y bobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt” yn fwy tebygol o ddweud bod eu hiechyd yn dda na'r rhai a oedd yn ystyried eu hunain yn LHD+ ym mhob grŵp oedran heblaw pobl 75 oed a throsodd.

[Nodyn 1]: Mae'r data sylfaenol ar gyfer y grwpiau LHD+ yn y grŵp oedran 74 oed a throsodd yn cynnwys rhai gwerthoedd cudd. Felly, mae'n bosibl nad yw'r canrannau ar gyfer y grŵp oedran hwn yn gwbl gynrychioliadol o'r boblogaeth gyfan y mae'n ei disgrifio.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Hunaniaeth o ran rhywedd

Am y rhan fwyaf o'r hyn sy'n weddill o'r datganiad hwn, bydd y codau hunaniaeth o ran rhywedd ar gyfer y bobl y mae eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni wedi'u rhannu'n grwpiau lefel uchel:

  • Hunaniaeth o ran rhywedd yr un peth â'r rhyw a gofrestrwyd
  • Hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd, 
    • Heb roi hunaniaeth benodol
    • Dyn traws 
    • Menyw draws
    • Hunaniaeth ychwanegol o ran rhywedd (gan gynnwys “anneuaidd”)

Dylid nodi bod y rhannau o'r datganiad hwn sy'n trafod rhywedd yn canolbwyntio ar y cwestiwn ar hunaniaeth o ran rhywedd yn benodol. Felly, nid yw'r dadansoddiad yn cynnwys data ar ryw.

Roedd pobl a ddywedodd fod eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni yn fwy tebygol o ddweud bod eu hiechyd cyffredinol yn wael neu'n wael iawn (12.8%) na'r rhai a ddywedodd fod eu hunaniaeth o ran rhywedd yr un peth (8.0%). Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y rhai yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni yn tueddu i fod yn iau na'r cyfartaledd a bod pobl iau yn llai tebygol o fod mewn iechyd cyffredinol gwael neu wael iawn.

Menywod traws oedd y mwyaf tebygol o ddweud bod eu hiechyd cyffredinol yn wael neu'n wael iawn (14.5%), ac yna bobl a oedd yn uniaethu â hunaniaeth ychwanegol o ran rhywedd (14.0%). 

Pobl a ddywedodd fod eu rhywedd yr un peth â'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni oedd y mwyaf tebygol o ddweud bod eu hiechyd yn dda neu'n dda iawn (75.3%), a'r rhai sy'n uniaethu â hunaniaeth ychwanegol o ran rhywedd oedd y lleiaf tebygol (59.7%).

Roedd dynion traws yn fwy tebygol o ddweud bod eu hiechyd cyffredinol yn dda iawn neu'n dda (67.4%) o gymharu â menywod traws (62.9%)

Ffigur 5: Cyfran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yn ôl hunaniaeth o ran rhywedd ac iechyd cyffredinol, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Mae'r siart bar pentwr gyfrannol yn dangos mai pobl yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yr un peth â'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni oedd y mwyaf tebygol o fod mewn iechyd da neu dda iawn, ac mai menywod traws oedd y mwyaf tebygol o fod mewn iechyd gwael neu wael iawn.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Anabledd

Gofynnwyd i breswylwyr arferol a oedd ganddynt gyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hirdymor (a oedd wedi para neu'n debygol o bara am 12 mis neu fwy), ac i ba raddau roedd hyn yn cyfyngu ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd. Mae ymatebwyr a ddywedodd fod ganddynt gyflwr iechyd corfforol neu iechyd meddwl hirdymor a oedd yn cyfyngu ‘ychydig’ neu ‘yn fawr’ ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd wedi cael eu diffinio fel pobl anabl.

Nod y dull a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2021 yw casglu data sy'n cyd-fynd yn agos â'r diffiniad o anabledd yn y Ddeddf Cydraddoldeb (2020) (Gov.UK). Caiff hyn ei lywio gan y model meddygol o anabledd sy'n diffinio pobl yn anabl yn ôl eu hamhariad. Yn 2002, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru'r model cymdeithasol o anabledd (Anabledd Cymru). Mae'r model hwn yn nodi ffordd wahanol o ystyried anabledd – yn hytrach na diffinio pobl yn anabl yn ôl eu hamhariad (fel yn y model meddygol o anabledd), mae pobl ag amhariadau yn anabl oherwydd y rhwystrau ffisegol, sefydliadol ac o ran agwedd a gaiff eu creu gan gymdeithas.

Mae'r data sydd wedi'u cynnwys yn yr adran hon yn defnyddio diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb (2010) o anabledd, ac felly'n adlewyrchu'r model meddygol o anabledd. Fodd bynnag, lle y bo'n bosibl, rydym wedi defnyddio iaith sy'n cyd-fynd â'r model cymdeithasol o anabledd.

Cyfeiriadedd rhywiol

Roedd traean (33.8%) o'r bobl a oedd yn ystyried eu hunain yn LHD+ yn anabl, o gymharu â chwarter (24.0%) y bobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt”. Y prif reswm dros y gwahaniaeth hwn yw bod cyfran fwy o'r bobl anabl y mae eu gweithgareddau o ddydd i ddydd wedi'u cyfyngu ychydig ymhlith y bobl a nododd eu bod yn LHD+ (21.3%) o gymharu â'r bobl a nododd eu bod yn “Heterorywiol/Strêt” (12.5%). 

Unwaith eto, mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y rhai a oedd yn ystyried eu hunain yn LHD+ yn tueddu i fod yn iau, a bod pobl anabl yn fwy tebygol o fod yn hŷn na'r cyfartaledd. Ceir cryn dystiolaeth o'r cysylltiad rhwng anabledd ac oedran. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn ein datganiad cyfrifiad ar bobl anabl yng Nghymru.

Pobl a oedd yn uniaethu â chyfeiriadeddau rhywiol eraill oedd y mwyaf tebygol o nodi eu bod yn anabl (46.4%), ac yna “Deurywiol/Bi” (39.2%), “Hoyw neu Lesbiaidd” (26.9%) ac, yn olaf, “Heterorywiol/Strêt” (24.0%).

Er eu bod yn fwy tebygol o fod yn anabl yn gyffredinol, roedd pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Hoyw neu Lesbiaidd” yn llai tebygol o ddweud bod eu gweithgareddau o ddydd i ddydd wedi'u cyfyngu'n fawr (11.1%) na phobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt” (11.4%).

Ffigur 6: Canran y bobl anabl 16 oed a throsodd yn ôl cyfeiriadedd rhywiol, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Mae'r siart bar pentwr hon yn dangos bod pobl “Heterorywiol/Strêt” a'r bobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Hoyw neu Lesbiaidd” yn llai tebygol o fod yn anabl, a bod pobl a oedd yn uniaethu â chyfeiriadedd “Deurywiol/Bi” a chyfeiriadedd rhywiol LHD+ ychwanegol yn fwy tebygol o fod yn anabl.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Ymhlith y bobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt”, roedd cyfran y rhai sy'n anabl yn cynyddu yn ôl oedran, o 12.5% ar gyfer pobl rhwng 16 a 24 oed, i 48.1% ar gyfer pobl dros 74 oed. Mae'r newid hwn yn llai amlwg ar gyfer pobl LHD+, lle roedd cyfran lawer uwch o bobl anabl yn y grwpiau oedran iau. Mae'r ganran ar gyfer LHD+ yn gostwng i ddechrau o 34.9% ar gyfer pobl rhwng 16 a 24 oed, i 30.7% ar gyfer pobl rhwng 35 a 44 oed, cyn cynyddu i 45.5% ar gyfer pobl dros 74 oed. 

Roedd pobl a oedd yn uniaethu â chyfeiriadedd rhywiol LHD+ yn fwy tebygol o fod yn anabl na phobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt” ym mhob grŵp oedran ac eithrio pobl dros 74 oed.

Ffigur 7: Canran y bobl anabl 16 oed a throsodd yn ôl cyfeiriadedd rhywiol ac oedran, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Mae'r siart bar clwstwr hon yn dangos bod anabledd yn cynyddu'n sydyn yn ôl oedran ar gyfer pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt”, ond bod y cynnydd hwn yn fwy graddol ar gyfer pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn LHD+, lle mae cyfran uwch o bobl anabl yn y grwpiau oedran iau.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Hunaniaeth o ran rhywedd

Roedd pobl a ddywedodd fod eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni yn fwy tebygol o fod yn anabl (38.9%) na'r rhai a ddywedodd fod eu hunaniaeth o ran rhywedd yr un peth â'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni (24.4%).

Yn y grŵp o bobl yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni, y rhai a oedd yn uniaethu â hunaniaeth ychwanegol o ran rhywedd oedd y mwyaf tebygol o fod yn anabl (59.3%), ac yna fenywod traws (42.9%) a dynion traws (39.7%), a'r rhai na wnaethant ysgrifennu hunaniaeth benodol o ran rhywedd oedd y lleiaf tebygol o fod yn anabl (24.3%).

Ffigur 8: Canran y bobl anabl 16 oed a throsodd yn ôl hunaniaeth o ran rhywedd, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Mae'r siart bar pentwr hon yn dangos mai pobl a oedd yn uniaethu â hunaniaeth ychwanegol o ran rhywedd oedd y mwyaf tebygol o fod yn anabl, ac mai'r bobl yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni ond na wnaethant ysgrifennu hunaniaeth benodol o ran rhywedd oedd y lleiaf tebygol.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Lefel uchaf o gymhwyster

Gofynnwyd i breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru gofnodi unrhyw gymwysterau roeddent wedi’u hennill erioed yng Nghymru neu yn unrhyw le arall, hyd yn oed os nad oeddent yn eu defnyddio erbyn hyn. Defnyddiwyd hyn i gyfrifo'r lefel uchaf o gymhwyster gan ddefnyddio'r categorïau canlynol:

  • Dim cymwysterau: Dim cymwysterau ffurfiol
  • Lefel 1: rhwng 1 a 4 cymhwyster TGAU (h.y. gradd A* i C neu radd 4 ac uwch) ac unrhyw gymwysterau TGAU eraill ar raddau eraill, Bagloriaeth Cymru – Sylfaen, neu gymwysterau cyfatebol.
  • Lefel 2: 5 neu fwy o gymwysterau TGAU (gradd A* i C neu radd 4 ac uwch), Bagloriaeth Cymru – Canolraddol, neu gymwysterau cyfatebol.
  • Lefel 3: 2 neu fwy o gymwysterau Safon Uwch, Bagloriaeth Cymru – Uwch, neu gymwysterau cyfatebol.
  • Lefel 4 neu uwch: Tystysgrif Genedlaethol Uwch, Diploma Cenedlaethol Uwch, gradd baglor, neu gymwysterau ôl-raddedig.
  • Prentisiaethau
  • Arall: Cymwysterau eraill, ar lefel anhysbys.

Mae lefelau 1 i 3 wedi'u cyfuno'n un grŵp ac mae prentisiaethau wedi'u cynnwys yn y categori “Arall” at ddiben y bwletin hwn.

Cyfeiriadedd rhywiol

Dywedodd ychydig yn llai nag un rhan o ddeg (8.4%) o bobl LHD+ nad oedd ganddynt gymwysterau ffurfiol, o gymharu ag un rhan o bump (19.5%) o bobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt”. 

Pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt” oedd y mwyaf tebygol o fod heb gymwysterau ffurfiol (19.5%), wedyn pobl a oedd yn uniaethu â chyfeiriadeddau rhywiol eraill (11.2%) a phobl “Hoyw neu Lesbiaidd” (8.7%) ac, yn olaf, y rhai a nododd “Deurywiol/Bi” oedd y lleiaf tebygol (7.4%).

Pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Hoyw neu Lesbiaidd” oedd y mwyaf tebygol (43.4%) o feddu ar gymhwyster ar Lefel 4 neu uwch (sy'n cynnwys lefel gradd), wedyn y rhai a oedd yn uniaethu â chyfeiriadeddau rhywiol eraill (38.6%), “Deurywiol/Bi” (36.8%) ac, yn olaf, “Heterorywiol/Strêt” (31.7%).

Pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt” oedd y mwyaf tebygol (8.3%) o feddu ar gymhwyster yn y categori “Arall” (sy'n cynnwys prentisiaethau), a'r rhai a nododd “Deurywiol/Bi” oedd y lleiaf tebygol (3.3%).

Ffigur 9: Cyfran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yn ôl cyfeiriadedd rhywiol a'r lefel uchaf o gymhwyster, Cymru, 2021 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Mae'r siart bar pentwr gyfrannol hon yn dangos bod pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn LHD+ yn llai tebygol o fod heb gymwysterau ffurfiol, ac yn fwy tebygol o fod â chymwysterau ar lefel gradd neu uwch na'r rhai yn y grŵp “Heterorywiol/Strêt”.

[Nodyn 1]: Mae prentisiaethau wedi'u cynnwys yn y categori “Arall”. 

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Roedd canran y bobl heb gymwysterau ffurfiol yn cynyddu yn ôl oedran ar gyfer pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn LHD+ ac yn “Heterorywiol/Strêt”. Ar y cyfan, roedd canran y bobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt” ac nad oedd ganddynt gymwysterau ffurfiol yn cynyddu o 11.4% ar gyfer pobl rhwng 16 a 24 oed i 44.6% ar gyfer pobl dros 74 oed. Ymhlith y bobl a oedd yn ystyried eu hunain yn LHD+, roedd canran y bobl heb gymwysterau ffurfiol yn cynyddu o 6.8% ar gyfer pobl rhwng 16 a 24 oed i 29.9% ar gyfer pobl dros 74 oed.

Roedd canran y bobl heb gymwysterau ffurfiol yn uwch ar gyfer y bobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt” ym mhob grŵp oedran o gymharu â phobl a oedd yn ystyried eu hunain yn LHD+.

Ffigur 10: Canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd heb ddim cymwysterau ffurfiol yn ôl cyfeiriadedd rhywiol ac oedran, Cymru, 2021 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Mae'r siart bar clwstwr hon yn dangos bod dosbarthiad y data yn ôl oedran yn debyg ar gyfer y ddau grŵp cyfeiriadedd rhywiol, ond bod canran y bobl heb gymwysterau yn is ar gyfer pobl LHD+ ym mhob grŵp oedran.

[Nodyn 1]: Mae'r data sylfaenol ar gyfer y grwpiau LHD+ yn y grwpiau oedran 65 i 74 oed a 74 oed a throsodd yn cynnwys rhai gwerthoedd cudd. Felly, mae'n bosibl nad yw'r canrannau ar gyfer y grwpiau oedran hyn yn gwbl gynrychiadol o'r boblogaeth gyfan y maent yn ei disgrifio.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Hunaniaeth o ran rhywedd

Dywedodd chwarter (24.6%) y bobl yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni nad oedd ganddynt gymwysterau ffurfiol, o gymharu ag un rhan o bump (19.2%) o'r bobl yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yr un peth â'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni.

Pobl yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni ond na wnaethant ysgrifennu hunaniaeth benodol oedd y mwyaf tebygol o fod heb gymwysterau ffurfiol (39.2%), wedyn dynion traws (21.8%), menywod traws (20.6%) a phobl yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yr un peth â'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni (19.2%). Pobl a oedd yn uniaethu â hunaniaeth ychwanegol o ran rhywedd oedd y lleiaf tebygol o fod heb gymwysterau ffurfiol (5.8%).

Mae cyfran y bobl â chymhwyster ar Lefel 4 neu uwch (gan gynnwys lefel gradd) yn groes i'r duedd ar gyfer pobl heb gymwysterau, gan mai'r rhai yn y grŵp hunaniaeth ychwanegol o ran rhywedd yw'r mwyaf tebygol o feddu ar gymhwyster Lefel 4+ (39.0%), a phobl yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni ond na wnaethant ysgrifennu hunaniaeth benodol o ran rhywedd oedd y lleiaf tebygol (20.7%).

Ffigur 11: Cyfran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yn ôl hunaniaeth o ran rhywedd a'r lefel uchaf o gymhwyster, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Mae'r siart bar pentwr gyfrannol hon yn dangos mai pobl a oedd yn uniaethu â hunaniaeth ychwanegol o ran rhywedd oedd y lleiaf tebygol o fod heb gymwysterau, a'r mwyaf tebygol o feddu ar gymwysterau Lefel 4 neu uwch.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Statws gweithgarwch economaidd

Holwyd preswylwyr arferol 16 oed a throsodd am eu statws gweithgarwch economaidd. Roedd y cwestiynau'n gofyn a oedd unigolyn yn gweithio neu'n chwilio am waith yn ystod yr wythnos cyn Cyfrifiad 2021. Yn y dadansoddiad hwn, mae tri phrif fath o statws gweithgarwch economaidd rydym yn edrych arnynt:

  • Yn economaidd weithgar: Cyflogedig (naill ai fel gweithiwr cyflogedig neu'n hunangyflogedig)
  • Yn economaidd weithgar: Pobl ddi-waith (pobl sy'n chwilio am waith i ddechrau o fewn pythefnos, neu'n aros i ddechrau swydd a oedd wedi'i chynnig a'i derbyn)
  • Economaidd anweithgar (pobl nad oedd ganddynt swydd rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021 ac nad oeddent wedi chwilio am waith rhwng 22 Chwefror a 21 Mawrth 2021, neu na allent ddechrau gweithio o fewn pythefnos)

Nid oedd categori ar wahân ar gyfer myfyrwyr, a gafodd eu cynnwys yn un o'r categorïau hyn yn dibynnu ar eu gweithgarwch economaidd y tu allan i'w hastudiaethau.

Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), ac mae'n bosibl bod hyn wedi effeithio ar y ffordd y gwnaeth pobl ymateb. Gweler yr erthygl Comparing Census 2021 and Labour Force Survey estimates of the labour market gan SYG am ragor o wybodaeth am ddehongli data'r cyfrifiad ar y farchnad lafur.

Cyfeiriadedd rhywiol

Ar gyfer y dadansoddiad hwn, gwnaethom edrych ar breswylwyr arferol rhwng 16 a 64 oed. Roedd pobl sy'n hŷn na'r grŵp oedran hwn yn llawer mwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar.

Dywedodd traean (32.4%) o'r bobl rhwng 16 a 64 oed a oedd yn ystyried eu hunain yn LHD+ eu bod yn economaidd anweithgar o gymharu ag ychydig dros chwarter (26.2%) y bobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt”. Mae'n bosibl mai gwahanol strwythurau oedran y ddau grŵp sy'n rhannol gyfrifol am hyn. Roedd pobl iau yn fwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar ac roedd y rhai a oedd yn ystyried eu hunain yn LHD+ yn fwy tebygol o fod yn iau na'r cyfartaledd. 

Pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Hoyw neu Lesbiaidd” (69.9%) a phobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt” (69.8%) oedd y mwyaf tebygol o fod yn gyflogedig. Roedd pobl a oedd yn uniaethu â chyfeiriadedd “Deurywiol/Bi” (52.5%) a phobl a oedd yn uniaethu â chyfeiriadeddau rhywiol eraill (49.9%) yn llai tebygol.

Pobl a oedd yn uniaethu â chyfeiriadeddau rhywiol eraill oedd y mwyaf tebygol o fod yn economaidd anweithgar (42.4%), a phobl a oedd yn uniaethu â chyfeiriadedd “Deurywiol/Bi” (38.9%) oedd yn ail. Pobl “Heterorywiol/Strêt” (26.2%) a phobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Hoyw neu Lesbiaidd” (24.9%) oedd y lleiaf tebygol o fod yn economaidd anweithgar.

Pobl a nododd “Deurywiol/Bi” oedd y mwyaf tebygol o fod yn ddi-waith (8.5%), a phobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt” oedd y lleiaf tebygol (3.9%). Yn gyffredinol, roedd gan bobl â chyfeiriadedd rhywiol LHD+ gyfradd diweithdra lawer uwch (6.9%) na phobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt” (3.9%).

Ffigur 12: Cyfran y preswylwyr arferol rhwng 16 a 64 oed yn ôl cyfeiriadedd rhywiol a gweithgarwch economaidd, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Mae'r siart bar pentwr gyfrannol hon yn dangos bod pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Hoyw neu Lesbiaidd” fymryn yn fwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar na phobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt”. Pobl a oedd yn uniaethu â chyfeiriadeddau rhywiol eraill oedd y mwyaf tebygol o fod yn economaidd anweithgar.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Mae'r dosbarthiad pobl mewn gwaith yn ôl oedran yn debyg ar gyfer pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn LHD+ a phobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt” ond, ar draws yr holl gategorïau oedran, pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt” oedd y mwyaf tebygol o fod yn gyflogedig.

Yn y grŵp oedran 16 i 24 oed y gwelir y gwahaniaeth mwyaf, lle roedd 37.3% o bobl LHD+ mewn gwaith, sef 8.4 pwynt canran yn is na phobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt” (45.7%).

Ffigur 13: Canran y preswylwyr arferol rhwng 16 a 64 oed mewn gwaith yn ôl cyfeiriadedd rhywiol ac oedran, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 13: Mae'r siart bar clwstwr hon yn dangos bod pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt” fymryn yn fwy tebygol o fod mewn gwaith na phobl LHD+ ym mhob grŵp oedran.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Hunaniaeth o ran rhywedd

Ar gyfer y dadansoddiad hwn, ni fu modd inni gyfyngu'r ystod oedran i bobl rhwng 16 a 64 oed oherwydd meintiau sampl bach. Felly, mae'r data hyn yn cynnwys yr holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru. Mae hyn yn wahanol i'r dadansoddiad o gyfeiriadedd rhywiol yn ôl gweithgarwch economaidd lle y defnyddiwyd yr ystod oedran 16 i 64 oed. 

Yn yr un modd, oherwydd meintiau sampl bach, ni fu modd inni rannu'r data yn ôl hunaniaethau penodol o ran rhywedd. Felly, mae'r dadansoddiad hwn yn cynnwys y ddau grŵp ambarél ar gyfer y bobl a atebodd “Ydy” i'r cwestiwn ar hunaniaeth o ran rhywedd, gan ddangos bod eu hunaniaeth o ran rhywedd yr un peth â'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni, a'r bobl a atebodd “Nac ydy”, gan ddangos bod eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol.

Dywedodd 51.4% o'r bobl yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni eu bod yn economaidd anweithgar, o gymharu â 42.4% o'r bobl yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yr un peth.

Mae pobl yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yr un peth â'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni yn fwy tebygol o fod mewn gwaith (54.5%) na phobl yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol (41.2%). Maent hefyd yn llai tebygol o fod yn ddi-waith (3.1%) na phobl yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pa gawsant eu geni (7.3%).

 Mae'n bwysig ystyried effaith gwahanol strwythurau oedran y ddau grŵp hyn. Er enghraifft, roedd pobl yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni yn fwy tebygol o fod yn iau ac yn rhan o'r boblogaeth o oedran gweithio, ac roedd pobl iau yn fwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar. Hefyd, mae'r adran hon yn cynnwys data ar gyfer pob oedran dros 15 oed, gan gynnwys pobl hŷn sydd wedi ymddeol ac sydd, felly, yn economaidd anweithgar.

Ffigur 14: Cyfran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yn ôl hunaniaeth o ran rhywedd a gweithgarwch economaidd, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 14: Mae'r siart bar pentwr gyfrannol hon yn dangos bod pobl yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni yn llai tebygol o fod mewn gwaith, ac yn fwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar na phobl yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yr un peth.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Dibynadwyedd amcangyfrifon hunaniaeth rhywedd

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dweud fod amcangyfrifon y Cyfrifiad ar gyfer hunaniaeth rhywedd yn amodol i lefel uwch o ansicrwydd na rhai pynciau eraill. Ceir patrymau yn y data sy'n gyson â phe bai rhai ymatebwyr wedi dehongli'r cwestiwn yn wahanol i'r bwriad. Er enghraifft, roedd canran y bobl a ddywedodd fod eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni yn uwch ar gyfer pobl nad y Gymraeg na'r Saesneg oedd eu prif iaith o’i gymharu â’r boblogaeth gyffredinol. Roedd yn uwch eto ymhlith pobl nad oeddent yn siarad Cymraeg na Saesneg yn dda o gwbl. 

Felly, mae angen rhoi ystyriaeth ychwanegol wrth ddehongli'r data. Ni ddylai dadansoddiadau daearyddol llai cael eu defnyddio fel amcangyfrif manwl gywir o’r boblogaeth traws, a dylai cymariaethau rhwng ardaloedd neu grwpiau gael eu hystyried yn ofalus, yn enwedig pan fod lefelau gwahanol o hyfedredd iaith Saesneg.

Am ragor o wybodaeth ac er mwyn cefnogi defnydd priodol, cyfeiriwch at y dudalen Gwybodaeth Ansawdd ar Gyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhywedd ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol cyn defnyddio’r amcangyfrifon yma.

Pandemig y coronafeirws (COVID-19)

Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae'n bosibl y bydd hyn wedi dylanwadu ar y ffordd roedd pobl yn teimlo am eu hiechyd ac yn ei sgorio ac felly gallai fod wedi effeithio ar y ffordd y dewisodd pobl ymateb. Gall newid yn y boblogaeth mewn rhai ardaloedd adlewyrchu'r ffordd y gwnaeth y pandemig effeithio ar y breswylfa arferol a ddewiswyd gan bobl ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Gallai'r newidiadau hyn fod wedi bod yn rhai dros dro i rai pobl ac yn fwy hirdymor i bobl eraill.

O ganlyniad i'r pandemig, roedd Llywodraeth y DU wedi cyflwyno mesurau ffyrlo i sicrhau bod y rhai na allent weithio yn gallu parhau i gael eu cyflogi. Wrth gwblhau ffurflen Cyfrifiad 2021, gofynnwyd i'r bobl ar ffyrlo ddweud eu bod i ffwrdd o'r gwaith dros dro, ynghyd â'r rhai a oedd dan gwarantin neu'n hunanynysu oherwydd y pandemig. Gallai nifer y bobl a oedd yn economaidd anweithgar fod yn uwch na'r disgwyl am ei bod yn bosibl y bydd rhai pobl a oedd ar ffyrlo wedi nodi eu bod yn economaidd anweithgar, yn hytrach nag i ffwrdd o'r gwaith dros dro. Mae rhai gwahaniaethau rhwng data Cyfrifiad 2021 ar gyflogaeth a data sy'n seiliedig ar yr Arolwg o'r Llafurlu. Caiff y gwahaniaethau hyn eu hesbonio yn yr erthygl Comparing Census 2021 and Labour Force Survey estimates of the labour market, England and Wales, a gyhoeddwyd gan SYG.

Rhestr termau

Ceir rhestr lawn o dermau yng ngeiriadur Cyfrifiad 2021 SYG. I gael gwybodaeth am y ffordd y gwnaeth SYG ddatblygu cwestiynau Cyfrifiad 2021, gweler y dudalen ar ddatblygu'r cwestiynau (SYG).

Preswylwyr arferol

Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y DU ac wedi aros neu’n bwriadu aros yn y DU am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y DU ac a oedd y tu allan i’r DU ac yn bwriadu aros y tu allan i’r DU am lai na 12 mis.

Cyfeiriadedd rhywiol

Term ambarél sy'n cwmpasu hunaniaeth rywiol, atyniad, ac ymddygiad yw cyfeiriadedd rhywiol. I ymatebydd unigol, mae'n bosibl na fydd y rhain yn golygu'r un peth â'i gilydd. Er enghraifft, efallai y bydd rhywun sydd mewn perthynas â rhywun o'r rhyw arall hefyd yn profi atyniad at bobl o'r un rhyw, ac i'r gwrthwyneb. Mae hyn yn golygu y dylid dehongli bod yr ystadegau'n dangos sut yr ymatebodd pobl i'r cwestiwn, yn hytrach na'u bod yn dangos at bwy y mae ganddynt atyniad neu'n dangos eu perthnasoedd gwirioneddol.

LHD+

Talfyriad a ddefnyddir i gyfeirio at bobl sy'n uniaethu ag opsiynau cyfeiriadedd lesbiaidd, hoyw, deurywiol, neu opsiynau cyfeiriadedd rhywiol lleiafrifol eraill (er enghraifft, anrhywiol).

Cyfeiriadeddau rhywiol eraill

Un o'r opsiynau yn holiadur Cyfrifiad 2021 ar gyfer y cwestiwn am gyfeiriadedd rhywiol oedd “Cyfeiriadedd rhywiol arall”. Roedd cyfle i ymatebwyr a ddewisodd yr opsiwn hwn ysgrifennu eu cyfeiriadedd rhywiol.

Yn seiliedig ar adborth gan gymunedau cydraddoldeb yng Nghymru, gan gynnwys cymunedau LHD+, mae termau fel “arall” yn tueddu i ganoli grŵp penodol. Er enghraifft, o ran cyfeiriadedd rhywiol, byddai'r term “arall” yn canoli heterorywioldeb fel y ‘norm’, sy'n cyfrannu at aralleiddio pobl sy'n LHD+.

Yn y datganiad hwn, rydym wedi defnyddio'r term “cyfeiriadeddau rhywiol eraill” i ddisgrifio'r grŵp hwn.

Hunaniaeth o ran rhywedd

Mae hunaniaeth o ran rhywedd yn cyfeirio at ymdeimlad unigolyn o'i rywedd ei hun, p'un a yw rhywun yn ddyn, yn fenyw neu'n uniaethu â chategori ychwanegol, fel anneuaidd. Gall fod yr un peth â'r rhyw a gofrestrwyd pan gafodd yr unigolyn ei eni, neu gall fod yn wahanol.

Dyn traws

Fel arfer, rhywun a gofrestrwyd yn fenywaidd pan gafodd ei eni ond sydd bellach yn ystyried ei hun yn ddyn yw dyn traws.

Menyw draws

Fel arfer, rhywun a gofrestrwyd yn wrywaidd pan gafodd ei eni ond sydd bellach yn ystyried ei hun yn fenyw yw menyw draws.

Anneuaidd

Mae'n bosibl na fydd rhywun sy'n anneuaidd yn uniaethu â chategorïau deuaidd dyn a menyw. Yn y canlyniadau hyn, mae'r categori'n cynnwys pobl a nododd y term penodol “anneuaidd” neu amrywiadau ar hyn. At ddibenion y datganiad hwn, mae pobl a ddefnyddiodd dermau eraill i ddisgrifio hunaniaeth nad oedd yn perthyn i gategorïau penodol dyn na menyw, yn ogystal â phobl a oedd yn ystyried eu hunain yn anneuaidd, wedi cael eu cynnwys yn y categori “Hunaniaeth ychwanegol o ran rhywedd”. 

Pobl â hunaniaeth o ran rhywedd a oedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni, ond na wnaethant roi hunaniaeth benodol

Y bobl a atebodd “Nac ydw” i'r cwestiwn “Ydy’r rhywedd rydych chi’n uniaethu ag ef yr un peth â’r rhyw a gofrestrwyd pan gawsoch chi eich geni?” ond na wnaethant ysgrifennu hunaniaeth o ran rhywedd yw'r rhain.

Categorïau dosbarthu anabledd

Rhestrir y pedwar categori anabledd a ddadansoddir yn y bwletin hwn isod.

  1. Anabl yn ôl y Ddeddf Cydraddoldeb: Gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu'n fawr
  2. Anabl yn ôl y Ddeddf Cydraddoldeb: Gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig
  3. Ddim yn anabl yn ôl y Ddeddf Cydraddoldeb: Â chyflwr iechyd meddwl neu iechyd corfforol hirdymor ond ni chyfyngir ar weithgareddau pob dydd
  4. Ddim yn anabl yn ôl y Ddeddf Cydraddoldeb: Dim cyflyrau iechyd meddwl nac iechyd corfforol hirdymor

Noder bod categorïau 3 a 4 wedi'u huno'n un categori “Ddim yn anabl” yn y bwletin hwn.

Statws gweithgarwch economaidd

Mae'n mesur a oedd unigolyn yn rhan weithredol o'r farchnad lafur yn ystod y cyfnod hwn. Pobl economaidd anweithgar yw'r bobl 16 oed a throsodd nad oedd ganddynt swydd rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021 ac nad oeddent wedi chwilio am waith rhwng 22 Chwefror a 21 Mawrth 2021 neu na allent ddechrau gweithio o fewn pythefnos. Mae'r rhestr lawn o'r 19 o gategorïau i'w gweld yn y cofnod ar statws gweithgarwch economaidd yn y geiriadur newidynnau (SYG). Yn y datganiad hwn, gwnaethom gyfyngu'r oedrannau i bobl rhwng 16 a 64 oed er mwyn dadansoddi cyfeiriadedd rhywiol yn ôl gweithgarwch economaidd. Fodd bynnag, ar gyfer hunaniaeth o ran rhywedd, mae'r newidyn hwn yn cwmpasu'r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd.

Canrannau oedran-benodol

Mae'r dadansoddiad o hunaniaeth rywiol yn y datganiad hwn yn cynnwys canrannau oedran-benodol ac nid oes safoni yn ôl oedran wedi cael ei wneud. Mae hyn yn ein galluogi i ystyried sut y gall gwahanol strwythurau oedran ymhlith grwpiau poblogaeth effeithio ar y canlyniadau a gaiff eu harchwilio. Mae hyn yn arbennig o ddiddorol wrth archwilio hunaniaeth rywiol lle mae pobl iau yn fwy tebygol o ystyried eu hunain yn LHD+, gyda chyfrannau cynyddol fach yn y grwpiau oedran hŷn.

Er bod gwahanol strwythurau oedran yn y grwpiau hunaniaeth o ran rhywedd, a all gael effaith debyg ar y canlyniadau a gaiff eu harchwilio, ni allwn ddadansoddi'r data hyn yn ôl oedran oherwydd meintiau sampl bach.

Statws Ystadegau Swyddogol

Ar 5 Medi 2024, fe wnaeth Emma Rourke, y Dirprwy Ystadegydd Gwladol, ysgrifennu i Ed Humpherson (Swyddfa Ystadegau Gwladol), sef Pennaeth y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, i wneud cais fod yr amcangyfrifon hunaniaeth rhywedd o Gyfrifiad 2021 ddim bellach yn ystadegau swyddogol achrededig ac yn hytrach yn ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad. Cadarnhaodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau y newid yn y ddynodiad ar 12 Medi.

Mae’r newid yma yn y dynodiad yn adlewyrchu’r natur arloesol o’r amcangyfrifon hunaniaeth rhywedd a’r dealltwriaeth sy’n datblygu o fesur hunaniaeth rhywedd, ynghyd â’r ansicrwydd sy’n gysylltiedig â’r amcangyfrifon.

Am ragor o wybodaeth ac er mwyn cefnogi defnydd priodol, cyfeiriwch at y dudalen Gwybodaeth Ansawdd ar Gyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhywedd ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol cyn defnyddio’r amcangyfrifon yma.

Mae’r holl amcangyfrifon arall o Gyfrifiad 2021, gan gynnwys rheini ar gyfeiriadedd rhywiol, yn dal i fod wedi’u dynodi fel ystadegau swyddogol achrededig.

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Caiff ein hymarfer ystadegol ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau sy’n gosod y safonau o ddibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gadw atynt.

Caiff ein holl ystadegau eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol achrededig hyn yn dangos y safonau disgwyliedig mewn perthynas â dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

Lluniwyd yr ystadegau hyn yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad 2021 a gyhoeddwyd gan Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae Cyfrifiad 2021 wedi cael ei achredu fel Ystadegau Gwladol a bu'n destun proses achredu drylwyr gyda'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Gallwch ddarllen mwy am ansawdd a methodoleg data'r cyfrifiad drwy ddarllen yr adroddiad ar wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021 (SYG).

Daw'r tîm o ddadansoddwyr o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd, ac maent yn dadansoddi'r data a gyflwynir mewn ffordd ddiduedd. Yn y datganiad hwn, rydym wedi cynnwys datganiad ansawdd a methodoleg er mwyn bod yn glir ac yn dryloyw ynglŷn â'n prosesau drafftio a chyhoeddi.

Ansawdd

Cafodd y ffigurau cyhoeddedig a gyflwynir eu llunio gan ddadansoddwyr proffesiynol yn seiliedig ar y data diweddaraf a oedd ar gael a chan ddilyn dulliau gan ddefnyddio eu sgiliau dadansoddi a'u barn broffesiynol.Roedd hyn yn cynnwys gwaith dilysu annibynnol gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru ar holl elfennau'r prosesau llunio a drafftio, yn ogystal ag adolygiad ar wahân gan gydweithwyr yn SYG.

Cyn i'r datganiad gael ei gyhoeddi, caiff ei gymeradwyo gan uwch ystadegwyr a'i gyhoeddi yn unol â'r datganiad ar gyfrinachedd a mynediad at ddata sy'n seiliedig ar elfen dibynadwyedd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. 

Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy'n ategu elfen ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.

Gwerth

Drwy gyhoeddi'r data hyn, ein nod yw rhoi tystiolaeth i weinidogion, llunwyr polisïau a rhanddeiliaid allanol ynghylch polisi cydraddoldeb, a hysbysu'r cyhoedd yn ehangach.

Mae Cyfrifiad 2021 yn ffynhonnell gywir a chyflawn o wybodaeth am y boblogaeth. Yng nghyd-destun data ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd, mae hyn yn ein galluogi i archwilio tueddiadau ar lefel fanylach nag a fyddai'n bosibl â data arolygon fel arfer. Mae hyn yn cefnogi sefydliadau yng Nghymru i dargedu eu hadnoddau'n fwy effeithiol wrth ddarparu eu gwasanaethau.

Mae'r ystadegau a'r ffigurau wedi cael eu cyflwyno a'u cyhoeddi mewn fformat hygyrch yn unol â deddfwriaeth hygyrchedd.

Mae croeso i chi gysylltu â ni yn uniongyrchol ag unrhyw sylwadau am sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy eu gwefan.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith i Gymru, Y nodau hyn yw cael Cymru lewyrchus, gydnerth, iachach, fwy cyfartal, fwy cyfrifol yn fyd-eang â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn adolygu'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r rhai a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd roi naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Edward Wilkinson
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 6/2024