Amcangyfrifon poblogaeth o gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd pobl yng Nghymru fesul oed, rhyw, iechyd cyffredinol, anabledd, y lefel uchaf o gymhwyster a statws gweithgarwch economaidd.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Y cyfrifiad o'r boblogaeth
Mae'r bwletin ystadegol hwn yn cynnwys data cryno ychwanegol ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yn ôl amrywiaeth o ganlyniadau economaidd-gymdeithasol ar gyfer unigolion a oedd yn breswylwyr arferol yng Nghymru ar adeg y cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021. Mae'n dweud wrthym sut roedd y canlyniadau hyn yn amrywio ar gyfer gwahanol fathau o gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd ledled Cymru. Mae'r bwletin hefyd yn cynnwys dadansoddiad yn ôl oedran a rhyw er mwyn rhoi cyd-destun. Mae'r holl ddata a ddefnyddiwyd ar gyfer y dadansoddiad yn y datganiad hwn i'w gweld ar wefan SYG o'r dudalen Census 2021 sexual orientation and gender identity data combining multiple variables (SYG), a'r datganiad diweddar gan SYG, Sexual orientation, further personal characteristics, England and Wales: Census 2021 (SYG).
7 Ebrill 2025
Mae’r SYG wedi cyflawni gwaith ansawdd ychwanegol i ddarparu gwybodaeth mwy manwl ar yr ansicrwydd sy’n gysylltiedig â amcangyfrifon hunaniaeth rhywedd Cyfrifiad 2021 a chanllawiau ar eu defnydd priodol. Gwelir yr erthygl a gyhoeddwyd ganddynt ar 26 Mawrth - Census 2021 gender identity estimates for England and Wales, additional guidance on uncertainty and appropriate use (SYG) (Saesneg yn unig). Rydym yn adolygu’r bwletin ystadegol yma gan ddefnyddio canllawiau’r SYG ac efallai y byddwn yn ychwanegu mwy o wybodaeth am ddefnydd priodol o’r data.
Adroddiadau
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.