Wrth i Fis Hanes LHDTC+ ddirwyn i ben, mae’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn wedi ymweld â gweithle yng Nghymru sydd eisoes yn gweithredu argymhellion y Cynllun Gweithredu LHDTC+ a lansiwyd yn ddiweddar.
Cafodd y cynllun, sy’n amlinellu’r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau, rhagolygon a sefyllfa pobl LHDTC+, ei lansio ar ddechrau Mis Hanes LHDTC+. Mae’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.
Mae’n tanlinellu bwriad Cymru i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant i bobl LHDTC+. Mae hefyd yn cynnwys ystod eang o gamau sy’n gysylltiedig â pholisïau penodol, o wella diogelwch, addysg, tai, iechyd a gofal cymdeithasol, i hyrwyddo cydlyniant cymunedol a mwy.
Un o gamau gweithredu’r cynllun yw annog cyflogwyr yn y sector preifat i fod yn LHDTC+-gynhwysol. Mae modd sicrhau hynny drwy fesurau fel gwella mynediad at wybodaeth, cyngor ac arweiniad ynglŷn â chyflogi gweithwyr LHDTC+, a gweithredu polisïau a gweithdrefnau o ran cydraddoldeb sy’n diogelu rhag gwahaniaethu yn erbyn pobl LHDTC+.
Mae Cymdeithas Adeiladu Principality yn gyflogwr sy’n ymfalchïo mewn amrywiaeth a chynwysoldeb, ac sydd wedi bod yn gweithredu llawer o’r mesurau a argymhellir yn adran ‘Gweithleoedd Cynhwysol’ y cynllun gweithredu ers sawl blwyddyn.
Wrth siarad ar ymweliad yno, dywedodd y Dirprwy Weinidog:
Mae gallu bod yn chi’ch hun yn y gweithle fel rwyf wedi’i weld yma heddiw mor bwysig i deimlo’n hapus yn y gwaith. Mae’n gwella iechyd gweithwyr, yn arwain at berthynas weithio well ac yn gallu gwella creadigrwydd a chynhyrchiant.
Wrth i Fis Hanes LHDTC+ ddirwyn i ben, rydyn ni’n myfyrio’n briodol ar ba mor bell rydyn ni wedi dod yn yr ymdrech dros gydraddoldeb. Wrth gwrs, mae gweithleoedd ledled Cymru wedi gwella yn ystod y degawdau diwethaf.
Ond yn anffodus, dangosodd ymchwil a gynhaliwyd fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r cynllun gweithredu fod 10% o’r ymatebwyr wedi cael profiad o aflonyddu geiriol. Yn ogystal â hynny, roedd bron i chwarter wedi nodi bod eu hunaniaeth wedi cael ei datgelu mewn modd cywilyddus yn y gweithle. Mae hyn yn annerbyniol.
Ni ddylai neb deimlo bod rhaid iddyn nhw guddio pwy ydyn nhw go iawn. Rydyn ni am sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+, a Chymru lle mae casineb yn hen hanes.
Drwy ein Cynllun Gweithredu LHDTC+, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau newid ystyrlon i gymunedau LHDTC+. Mae hynny’n golygu dileu gwahaniaethu a grymuso pawb sydd mewn swydd i fod yn nhw eu hunain yn union fel mae’r staff yma.
Cyfarfu’r Dirprwy Weinidog â Rhwydwaith LHDTC+ y Gymdeithas Adeiladu, a ffurfiwyd gan weithwyr y sefydliad.
Dywedodd Vicky Wales, Prif Swyddog Cwsmeriaid y Gymdeithas Adeiladu:
Fel sefydliad sy’n ymdrechu i fod yn amrywiol ac yn gynhwysol, rydyn ni’r croesawu’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ gan ei fod yn adlewyrchu cymaint o’r hyn rydyn ni’n ceisio ei gyflawni fel cyflogwr blaenllaw yng Nghymru.
Mae Principality yn gweithio’n galed i rymuso ein gweithwyr i sicrhau bod gennym weithle cynhwysol. Mae rhai gweithwyr wedi dweud ei fod wedi arwain atyn nhw’n teimlo’n gyfforddus i fod nhw eu hunain yn y gwaith, am y tro cyntaf.
Dywedodd Shane Prosser, Cadeirydd Rhwydwaith PRIDE y Gymdeithas Adeiladu:
Pan nes i ddechrau fy ngyrfa yn y diwydiant ariannol yn ôl yn 2011, gyda chyflogwr gwahanol, nes i benderfynu ar fy niwrnod cyntaf na fyddwn i’n siarad am fy rhywioldeb.
Nid oedd hyn oherwydd fy mod i’n teimlo cywilydd am fod yn hoyw, ond oherwydd fy mod i’n teimlo y byddai bod yn ddyn hoyw yn fy rhwystro rhag camu ymlaen yn fy ngyrfa.
Wrth ymuno â Principality yn 2018, roedd y cyfan yn teimlo’n wahanol iawn, ac ar fy niwrnod cyntaf pan nes i sôn am fy mhartner, fe wnaeth pawb fy nerbyn yn llwyr. Nes i ddweud wrth fy hun, alla i fod yn fi fy hun yma a bod yn hapus.