Cymhwystra ar gyfer y rhaglen brechu rhag COVID-19.
Cynnwys
Ymgyrch pigiadau COVID-19 gwanwyn 2025
Bydd pobl yn y grwpiau a ganlyn yn gymwys i gael un dos o frechlyn COVID-19 yn ystod rhaglen frechu’r Gwanwyn 2025 yn erbyn COVID-19:
- pobl sy'n byw mewn cartref gofal i oedolion hŷn
- pob oedolyn 75 oed a hŷn
- unigolion 6 mis oed a hŷn sydd â system imiwnedd gwannach na’r cyffredin, fel y'u diffinnir yn nhabl 3 a 4 o bennod COVID-19 y Llyfr Gwyrdd
Bydd unigolion cymwys yn cael gwahoddiad i apwyntiad gan eu bwrdd iechyd lleol. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gael y brechlyn COVID-19 ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cynnig y cwrs sylfaenol 2 ddos o’r brechlyn COVID-19
Daeth y cwrs sylfaenol cyffredinol o frechlyn, a gynigiwyd yn flaenorol i unigolion 12 oed a throsodd a'r rhai mewn grŵp risg clinigol rhwng 6 mis ac 11 oed, i ben ar 30 Mehefin 2023.
Manylion cyswllt y byrddau iechyd lleol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
E-bost: cvuhb.massimms@wales.nhs.uk
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
E-bost: CTM.VaccinationEnquiries@wales.nhs.uk
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
E-bost: COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
E-bost: Powys.covidvacc@wales.nhs.uk