Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o bwrpas y Grŵp Ymgysylltu ar Drethi Cymru.

1. Cefndir

  1. Mae dull gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu polisi trethi i Gymru yn cael ei ddisgrifio yn y Fframwaith Polisi Treth. Mae’n cynnwys pum egwyddor – sef y dylai trethi Cymru:
    • Godi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mewn modd sydd mor deg â phosibl
    • Cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru, yn enwedig cefnogi swyddi a thwf
    • Bod yn glir, yn sefydlog, ac yn syml
    • Bod wedi cael eu datblygu o ganlyniad i gydweithredu ac ymgysylltu
    • Cyfrannu’n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sef gwneud Cymru yn wlad fwy cyfartal.
  2. Mae trethi Cymru yn berthnasol i bob dinesydd yng Nghymru, p’un a yw’n drethdalwr, neu’n fuddiolwr sy’n elwa ar y gwasanaethau cyhoeddus a ariennir drwy drethi, neu’r ddau. Wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu ei pholisïau trethi ymhellach, mae gofyniad parhaus i ymgysylltu’n eang er mwyn cael y sylwadau a’r cyngor a all helpu i lywio cynlluniau yn y dyfodol, a hefyd i helpu sectorau yn ein cymdeithas yma yng Nghymru i ddeall yr hyn y mae Llywodraeth Cymru am ei gyflawni. Mae ymgysylltu â chymunedau a busnesau, a’r sefydliadau sy’n gallu cynrychioli eu safbwyntiau a’u profiadau, yn hanfodol i ddull gweithredu Llywodraeth Cymru.

2. Cyflwyniad

  1. Enw’r grŵp yw’r Grŵp Ymgysylltu ar Drethi. Mae’n cael ei gadeirio gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, ac mae’n atebol i’r Gweinidog hwnnw.
  2. Diben y grŵp yw ategu trefniadau eraill drwy ddarparu fforwm ar gyfer ystyried sut y mae’r datblygiadau presennol a’r datblygiadau newydd ym meysydd polisi a gweinyddiaeth trethi yn effeithio ar gymunedau a busnesau. Mae’r fforwm hefyd yn nodi cyfleoedd i wella dealltwriaeth o bolisi trethi Cymru.
  3. Y nod yw sicrhau bod aelodaeth y grŵp yn cynnwys amrywiaeth eang o safbwyntiau, er mwyn i bolisi a gweinyddiaeth trethi Cymru gael eu datblygu mewn modd sy’n bodloni anghenion pobl a busnesau.

3. Cylch gwaith

  1. Cylch gwaith y Grŵp Ymgysylltu ar Drethi yw:
    1. Rhoi sylwadau ar sut y mae datblygiadau presennol a newydd ym maes polisi trethi yn effeithio ar gymunedau a busnesau yng Nghymru
    2. Ystyried cynnwys cynllun gwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer polisi trethi
    3. Cymryd camau ymarferol i gefnogi gweithgarwch ymgysylltu sydd â’r nod o wella lefelau o ymwybyddiaeth, gwybodaeth, a dealltwriaeth mewn perthynas â threthi Cymru, a pholisi a gweinyddiaeth trethi, ymysg pobl a busnesau yng Nghymru.

4. Aelodaeth

  1. Aelodau’r Grŵp Ymgysylltu ar Drethi yw:

    Cadeirydd

    • Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

    Cynrychiolwyr o:

    • Sefydliad Bevan
    • CBI Cymru
    • Y Sefydliad Siartredig Trethu
    • Y Ffederasiwn Busnesau Bach
    • Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr
    • Sefydliad y Cyfarwyddwyr
    • Cymdeithas y Cyfreithwyr
    • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
    • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

    Y swyddogion sy’n mynychu

    • Anna Adams – Dirprwy Gyfarwyddwr, Trethi: Polisi, Strategaeth ac Ymgysylltu
    • Dyfed Alsop – Prif Weithredwr, Awdurdod Cyllid Cymru
    • Debra Carter – Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid Strategol Llywodraeth Leol
    • Andrew Jeffreys - Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru

5. Trefniadau gweithio

  1. Mae’r grŵp yn atebol i’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, ac yn adrodd i’r Gweinidog hwnnw. Ni fydd y grŵp yn dod ynghyd mewn ‘fformat cyfarfod’ fwy na dwywaith yn ystod blwyddyn galendr, ond bydd yr aelodau hefyd yn cael eu gwahodd i gynhadledd drethi flynyddol Llywodraeth Cymru, a digwyddiadau ymgysylltu eraill fel y bo’n briodol.
  2. Disgwylir i’r holl aelodau fynychu bob cyfarfod. Os nad yw aelod yn gallu bod yn bresennol, caiff dirprwy fynychu yn ei le cyn belled â bod yr Ysgrifenyddiaeth wedi cael rhybudd rhesymol.