Neidio i'r prif gynnwy

Cylch Gorchwyl Tasglu 20mya Cymru.

1.    Cwmpas

Bydd y Tasglu yn edrych ar y dystiolaeth a goblygiadau cyflwyno terfyn cyflymder o 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru, yn bennaf strydoedd a ffyrdd mewn ardaloedd adeiledig. Dylid pennu terfyn diofyn o 20 mya ar yr holl ffyrdd sydd â therfyn cyflymder o 30 mya ar hyn o bryd, ond bydd gan Awdurdodau Traffig Lleol yr hawl i wneud eithriadau a chadw terfyn cyflymder o 30 mya. 

Bydd y Tasglu yn sefydlu cyfres o ffrydiau gwaith, a reolir gan Grwpiau Prosiect, i archwilio’r materion ymarferol sy’n gysylltiedig â gwneud y newid hwn. Bydd y gwaith yn nodi materion fel sut y dylid rhoi’r terfyn cyflymder ar waith, gan ystyried y costau a’r manteision – yn ogystal â’r gwaith o osod y seilwaith, a’r newidiadau ymddygiadol a fydd eu hangen i sicrhau bod y cynllun yn llwyddiannus.  

2.    Aelodau’r Tasglu

  • Cadeirydd: Phil Jones – Phil Jones Associates 
  • GoSafe
  • Conffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr y DU
  • Anabledd Cymru 
  • Ffederasiwn Busnesau Bach
  • Cymdeithas y Cludwyr Nwyddau 
  • Y Gwasanaeth Tân ac Achub
  • Cŵn Tywys
  • Living Streets
  • Cynrychiolwyr Rhanbarthol Awdurdodau Lleol
  • Yr Heddlu
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Cymdeithas y Cludwyr Ffyrdd 
  • SUSTRANS
  • Prifysgol Gorllewin Lloegr (Bryste)
  • Llywodraeth Cymru 
  • Welsh Local Government Association