Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o bwrpas y grŵp.

Diben

Diben y Grŵp Rhanddeiliaid Strategol yw sicrhau bod rhanddeiliaid allweddol, yn enwedig y rheini nad ydynt yn cael eu cynrychioli mewn mannau eraill yn strwythur llywodraethiant cenhadaeth ein cenedl neu ar weithgorau, yn:

  • gwybod am ac yn helpu i ddatblygu'r dull o weithredu Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru, ac Addysgu Athrawon Yfory: Opsiynau ynglŷn â dyfodol addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru
  • gwybod am ac yn helpu i ddatblygu'r dull o weithredu Rhaglen Trawsnewid System Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac yn
  • ymwybodol o'r cysylltiad â Dysgu Proffesiynol ar gyfer y gweithlu.

Mae'r grŵp yn rhan o gyfres o drefniadau llywodraethiant sy'n anelu at sicrhau bod y broses weithredu'n cadw'n driw i'r weledigaeth a'r argymhellion a arweiniodd at ein rhaglen ar gyfer diwygio addysg.

Rôl y grŵp yw:

  • Darparu cyngor, craffu a her allanol
  • Ymgysylltu'n adeiladol â'r Gyfarwyddiaeth Addysg a'i phartneriaid cyflawni i gynghori ar ffyrdd o weithio a dulliau o gynllunio, datblygu a gwireddu prif elfennau’r broses ddiwygio - y cwricwlwm, dysgu proffesiynol, atebolrwydd ac Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Bod yn 'gyfaill beirniadol' gan roi adborth i'r Gyfarwyddiaeth Addysg ar gynigion ar gyfer gweithredu ac ar hynt y gwaith
  • Cynghori'r Gyfarwyddiaeth Addysg ynghylch eu dull cyfathrebu mewn perthynas â datblygu a gweithredu
  • Cynorthwyo Llywodraeth Cymru trwy gyfathrebu negeseuon allweddol yn gadarnhaol a helpu i ddatblygu consensws
  • Casglu sylwadau rhanddeiliaid a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Mae Is-grŵp Plant a Phobl Ifanc yn gweithio o dan y Grŵp Rhanddeiliaid Strategol er mwyn ystyried safbwyntiau plant a phobl ifanc yn benodol yn ystod y daith i ddiwygio addysg.

Cefndir

Cyhoeddwyd adroddiad yr Athro Graham Donaldson Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru ym mis Chwefror 2015, ac roedd yn cynnwys argymhellion pellgyrhaeddol ac uchelgeisiol ar gyfer cwricwlwm newydd yng Nghymru. Mae'r argymhellion yn cwmpasu agweddau fel cynllunio'r cwricwlwm, asesu ac atebolrwydd ac mae ganddynt oblygiadau sylweddol i'r gweithlu addysg.

Cyhoeddwyd adroddiad John Furlong Addysgu Athrawon Yfory: Opsiynau ynglŷn â dyfodol addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru ym mis Mawrth 2015, ac roedd yn amlinellu opsiynau ar gyfer diwygio addysg a hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn paratoi athrawon yn well i fodloni gofynion addysgu, gan gynnwys y gofynion a ddaeth i'r amlwg o adolygiad Donaldson.

Cafodd Papur Gwyn ei gyhoeddi ym mis Mai 2014 gyda chynigion ar gyfer cyflwyno fframwaith deddfwriaethol newydd er mwyn helpu plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn dilyn yr ymgynghoriad cyflwynwyd Bil drafft i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Rhagfyr 2016, sef 'Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)'. Pasiwyd y Ddeddf gysylltiedig gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 12 Rhagfyr 2017 a chafodd Gydsyniad Brenhinol ar 24 Ionawr 2018.

Mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud bod gwella ansawdd ac argaeledd cyfleoedd dysgu proffesiynol i ymarferwyr addysg yn flaenoriaeth.

Mae angen cydgysylltu a rheoli pob elfen o'r diwygiadau addysg yn ofalus. Yn unol â nodau Cymwys am Oes a'r nod o ddatblygu system hunanwella, mae'r broses ddiwygio'n cael ei gweithredu drwy gydweithio â'r sector addysg.

Aelodaeth

Mae strwythur llywodraethiant y rhaglen ddiwygio sylweddol hon yn cynnwys:

  • Bwrdd Newid strategol
  • Bwrdd Cyflawni
  • Grŵp Cynghori Annibynnol
  • Grwpiau arbenigwyr sy'n cefnogi elfennau penodol o'n rhaglen waith a amlinellir yng nghenhadaeth ein cenedl

Y bwriad yw ceisio sicrhau bod aelodau gwahanol ar y grwpiau hyn a'r Grŵp Rhanddeiliaid Strategol lle bynnag y bo modd, ac eithrio rhai rhanddeiliaid canolog. Bydd hyn yn lleihau'r baich ar unigolion a sefydliadau ac yn cadw'r grwpiau'n fach ac yn fwy effeithiol.

Caiff trefniadau eraill eu gwneud i gasglu sylwadau rhieni a dysgwyr. Efallai y bydd y Cadeirydd yn gwahodd pobl o'r tu allan i fynychu cyfarfodydd lle gallai arbenigedd penodol helpu'r grŵp gyda'i waith.

Caiff y Grŵp Rhanddeiliaid Strategol ei gadeirio gan gynrychiolydd o Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru.

Rolau a chyfrifoldebau aelodau'r Grŵp Rhanddeiliaid Strategol

  • Mae pob aelod yn gyfrifol am rannu ei sgiliau, ei profiad a'i arbenigedd â'r grŵp a sicrhau ei fod yn cyflawni'r swyddogaethau a nodwyd uchod o dan 'Diben' mewn ffordd adeiladol.
  • Mae pob aelod o'r grŵp yn gyfrifol am ddarllen yr holl ddeunyddiau a gyflwynir iddynt i'w hystyried ac i gyfrannu sylwadau ac enghreifftiau o brofiad perthnasol i'w trafod yng nghyfarfodydd y grŵp, yn brydlon ac yn briodol.
  • Bydd y grŵp yn pennu ei agenda a'i flaenoriaethau ei hun. Gallai Cadeirydd y Grŵp Rhanddeiliaid Strategol benderfynu, ar sail asesiad o gynnydd a risgiau, rhoi mwy o ystyriaeth a chynnig cyngor mwy manwl ar agweddau penodol ar y broses weithredu os ystyrir eu bod yn hanfodol i lwyddiant cyffredinol y rhaglen ddiwygio. O bryd i'w gilydd, gallai'r Bwrdd Newid ofyn i aelodau'r grŵp ddarparu cyngor penodol neu fanwl ar agweddau ar y broses ddiwygio lle byddai eu gwybodaeth a'u harbenigedd yn helpu i lywio cyfeiriad y gwaith neu’n rhoi atebion i faterion penodol.

Amlder y cyfarfodydd

Bydd y Grŵp Rhanddeiliaid Strategol yn cwrdd deirgwaith y flwyddyn a bydd lleoliad y cyfarfodydd yn amrywio rhwng gogledd, de a chanolbarth Cymru.

Cymorth gweinyddol

Y Gyfarwyddiaeth Addysg fydd yn darparu'r cymorth gweinyddol ar gyfer y grŵp.

Aelodau Grŵp Rhanddeiliaid Strategol

  • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysgu Cymru (CCAC)
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) Cymru
  • Cymdeithas y Seicolegwyr Addysg
  • Cymdeithas Athrawon a Darlithwyr Cymru / Undeb Cenedlaethol yr Athrawon
  • Cymdeithas Dyneiddwyr Prydain
  • Gyrfa Cymru
  • Cadeirydd Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru
  • Plant yng Nghymru
  • Comisiynydd Plant Cymru
  • Colegau Cymru
  • Y Coleg Cydweithredol
  • Cyngor Gwasanaeth Ieuenctid Gwirfoddol Cymru (CWVYS)
  • Gwobr Dug Caeredin
  • Cymdeithas Ysgolion dros Addysg Gymraeg (CYDAG)
  • Estyn
  • Fforwm Cymunedau Ffydd
  • Ffederasiwn y Busnesau Bach (cynrychiolydd i'w gadarnhau)
  • Y Cyngor Astudiaethau Maes
  • GMB
  • GWE – Consortiwm rhanbarthol (Gogledd Cymru)
  • Y Cyngor Rhyng-ffydd
  • Mind
  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Addysg ac Ymgysylltu ag Ieuenctid
  • Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT)
  • Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT)
  • Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCM Cymru)
  • Prospect
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Race Council Cymru (Cynghrair BAME)
  • Race Equality First (Cynghrair BAME)
  • Cynrychiolydd TGCh/DCF Sequence
  • Stonewall Cymru
  • Chwaraeon Cymru
  • Techniquest
  • Cynghrair Anghenion Ychwanegol y Trydydd Sector (TSANA)
  • Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)
  • Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU)
  • Unsain yng Nghymru
  • Undeb Unite
  • Urdd Gobaith Cymru
  • Cyngor Prifysgolion ac Ysgolion ar gyfer Addysg Athrawon (USCET)
  • Llais yr Undeb
  • Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru (EYST)
  • Cynghrair Addysg Fyd-eang Cymru (WAGE) (cynrychiolydd i'w gadarnhau)
  • Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru (cynrychiolydd i'w gadarnhau)
  • Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru
  • Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol ar Addysg Grefyddol Cymru (WASACRE) (cynrychiolydd i'w gadarnhau)
  • Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA)
  • Llywodraeth Cymru - Prif Swyddog Meddygol
  • Llywodraeth Cymru - Prif Gynghorydd Gwyddonol
  • Llywodraeth Cymru - Dysgu Gydol Oes - Cadw
  • Llywodraeth Cymru - Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn
  • Cylch gwaith y Grŵp Rhanddeiliaid Strategol: 12.12.16 - diweddarwyd Mai 2019
  • Menywod
  • Llywodraeth Cymru - Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC)
  • Comisiynydd y Gymraeg
  • Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC)
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
  • Llywodraeth Cymru - Cyfarwyddwr, y Gyfarwyddiaeth Addysg
  • Llywodraeth Cymru - yr Is-adran Effeithiolrwydd Ysgolion
  • Llywodraeth Cymru - Addysg, Busnes a Llywodraethiant
  • Llywodraeth Cymru - Cwricwlwm
  • Llywodraeth Cymru – yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr
  • Cadeirydd y Grŵp Cynghori Annibynnol
  • Llywodraeth Cymru - Rheolwr Rhaglen y Cwricwlwm
  • Llywodraeth Cymru - Cyfathrebu Strategol a Marchnata
  • Llywodraeth Cymru - Rheolwr Rhanddeiliaid y Cwricwlwm
  • Llywodraeth Cymru - Cynghorydd ar y Gymraeg
  • Llywodraeth Cymru - Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol

Aelodau'r Is-grŵp Plant a Phobl Ifanc y Grŵp Rhanddeiliaid Strategol

  • Chwaraeon Cymru
  • Urdd Gobaith Cymru
  • Plant yng Nghymru
  • Cyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru (CWVYS)
  • Cynulliad Cymru - Addysg ac Ymgysylltu ag Ieuenctid
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
  • Comisiynydd Plant Cymru
  • Grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid
  • Cynghrair Anghenion Ychwanegol y Trydydd Sector (TSANA)
  • Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru (EYST Cymru)
  • Llywodraeth Cymru - Addysg, Cynllunio Busnes a Llywodraethiant
  • Llywodraeth Cymru - Cyfathrebu Strategol a Marchnata
  • Llywodraeth Cymru - Cyngor Proffesiynol - Datblygu'r Gymraeg mewn Addysg
  • Llywodraeth Cymru - Cyngor Proffesiynol - Ysgolion ac Awdurdodau Lleol