Crynodeb o bwrpas y grŵp a sut y bydd yn gweithio.

Cyd-destun

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru fydd cynllun morol cyntaf Cymru. Ymgynghorwyd ar y Cynllun drafft ym mis Rhagfyr 2017 ac mae wrthi'n cael ei fireinio cyn iddo gael ei fabwysiadu.

Mae gweithredu system cynllunio morol ar gyfer Cymru yn heriol a bydd yn cymryd amser. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i weithio ar y cyd i helpu i drawsnewid i system gynllunio statudol newydd gan ei bod wedi'i sefydlu ar gyfer
ardal forol Cymru. Mae rhai Awdurdodau Cyhoeddus Perthnasol sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau eisoes wedi dechrau’r gwaith o ran profi a mireinio polisïau'r Cynllun drafft ond mae angen grŵp ffurfiol bellach i helpu i weithredu'r cynllun.

Mae cyfrifoldeb am weithredu'r cynllun yn ymwneud ag ystod o swyddogaethau mewn sawl Awdurdod Cyhoeddus dan Adran 58 o Ddeddf Mynediad i'r Môr a'r Arfordir) (2009).

Mae'n bwysig bod yr Awdurdodau Cyhoeddus Perthnasol yn gweithio mor effeithiol ac effeithlon â phosibl er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cael ei weithredu'n gyson. Cynigir bod dull cydweithredol, felly, yn cael ei ddefnyddio drwy'r Grŵp hwn, lle y bydd modd rhannu'r gwersi a ddysgwyd wrth gymhwyso'r cynllun yn ymarferol a mynd i'r afael â materion wrth iddynt godi.

Pwrpas

Pwrpas y Grŵp Penderfynwyr Cynllunio Morol yw hwyluso'r ffordd y caiff Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ei weithredu er mwyn cyflawni amcanion strategol Llywodraeth Cymru. Bydd y Grŵp yn darparu fforwm ar gyfer trafod a gweithio i ddatrys materion ymarferol o ran y gwaith gweithredu a gwneud penderfyniadau yn unol â’r Cynllun wrth iddynt godi.

Mae'r swyddogaethau allweddol yn cynnwys:

  1. Darparu adborth ar unrhyw faterion sy'n deillio o weithredu polisïau a helpu i ddatblygu mecanweithiau i fynd i'r afael â nhw, gan rannu profiadau o'r gwersi ymarferol a ddysgwyd
  2. Sicrhau bod polisïau ac amcanion y Cynllun yn cael eu gweithredu'n ymarferol, yn gymesur ac yn gyson
  3. Hwyluso penderfyniadau awdurdodi sy'n effeithiol, yn effeithlon, yn gyson ac yn amserol ac sy'n ymgorffori'r dull cymesur o wneud penderfyniadau a nodir yng Nghynllun Morol Cenedlaethol Cymru
  4. Awgrymu ardaloedd lle y byddai canllawiau neu gymorth pellach yn fanteisiol
  5. Cynnig sylwadau ar unrhyw ganllawiau gofynnol neu arfaethedig
  6. Ystyried cyngor gan y Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol a arweinir gan Lywodraeth Cymru a/neu roi cyngor i'r Grŵp hwnnw
  7. Hwyluso dull cydgysylltiedig o gyflenwi ar draws ffiniau, yn enwedig ar draws y rhyngwyneb rhwng y tir a'r môr, a ffiniau Cymru/Lloegr
  8. Rhannu profiadau a thystiolaeth i ategu prosesau monitro ac adrodd dan y Cynllunio Morol, a
  9. Rhannu negeseuon allweddol a gwybodaeth gyda rhiant-sefydliadau a (fel bo'n briodol) gyda rhanddeiliaid.

Gall y Grŵp Penderfynwyr Cynllunio Morol ofyn i grwpiau rhanddeiliaid am gyngor ar faterion penodol.

Pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd?

Ddwywaith y flwyddyn (ar ôl mabwysiadu'r Cynllun) er gallai fod yn amlach na hynny yn ystod cyfnodau cynnar y Cynllun. Mae'n bosibl y bydd cyfleusterau cynadledda ar y ffôn ar gael mewn cyfarfodydd. Mae'n bosibl yr ymdrinnir â materion yn electronig rhwng cyfarfodydd lle bo'n briodol.

Yr ysgrifenyddiaeth

Darperir gan Is-adran y Môr a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru: Cangen Polisi Morol. Bydd papurau'r cyfarfod fel arfer yn cael eu dosbarthu pum niwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod a chofnod llawn yn cael ei wneud o bob cyfarfod.

Rhaid arddel y safonau uchaf o gyfrinachedd lle bo'n angenrheidiol, sef rheolau "Chatham House" ar briodoli. Dylai cynrychiolwyr sefydliadau fod yn rhai sy'n gallu cyflenwi amcanion y Grŵp (hy yn gynrychiolwyr gwybodus sy'n gwneud penderfyniadau a rhwydweithio yn eu maes).