Neidio i'r prif gynnwy

Bydd grŵp fydd yn rhoi cyngor ar sut y gall £100 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru gael ei fuddsoddi i gefnogi technolegau newydd yng Nghymoedd De Cymru yn cyfarfod am y tro cyntaf heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi, wedi gaddo y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £100 miliwn dros ddeng mlynedd i wneud Blaenau Gwent a'r Cymoedd yn ehangach yn ganolfan sy'n cael ei chydnabod yn fyd-eang fel canolfan datblygu a darparu technolegau newydd, yn enwedig yn y sector moduro.

Rhagwelir y bydd y prosiect, sy'n cael ei adnabod fel y Cymoedd Technoleg, yn creu oddeutu 1500 o swyddi cynaliadwy dros y ddegawd.

I ddatblygu'r gwaith hwn, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi sefydlu Grŵp Cynghori Strategol y Cymoedd Technoleg.

Bydd y Grŵp yn rhoi cyngor i'r Prif Weinidog, Ysgrifennydd yr Economi a Llywodraeth Cymru yn ehangach ar amcanion strategol a blaenoriaethau y Cymoedd Technoleg i helpu i sicrhau bod cymaint o effaith â phosibl o'r buddsoddiad.

Bydd yn trafod gyda partneriaid yn y busnes, y sector cyhoeddus ac addysg uwch a phellach i sicrhau bod eu safbwyntiau'n cael eu cyflwyno ac yn rhoi cyngor ar arfer gorau a'r dysgu sy'n cael ei weld mewn rhannau eraill y DU ac yn rhyngwladol.

Mae'r grŵp yn disodli Bwrdd Ardal Fenter Glyn Ebwy a ddiddymwyd ym mis Gorffennaf.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

"Bydd y £100 miliwn yr ydym yn ei fuddsoddi yn y Cymoedd Technoleg yn sbardun i swyddi gwerth uchel yn bennaf o fewn technolegau newydd a'r sector gweithgynhyrchu uwch ac yn helpu i wneud Blaenau Gwent a'r Cymoedd yn ehangach yn ganolfan sy'n cael ei chydnabod yn fyd-eang ar gyfer datblygu a darparu technolegau newydd.

"Bydd y buddsoddiad hefyd yn cael ei ddefnyddio i sbarduno a chefnogi gweithgarwch entrepreneuraidd ac i ddarparu cyfleoedd ar gyfer gwaith o safon uchel a datblygu sgiliau y bobl sy'n byw yn lleol.

"Mae gan y Cymoedd Technoleg y posibilrwydd i drawsnewid bywydau. Mae'n fenter hynod boblogaidd ac rwy'n falch iawn bod Grŵp Cynghori Strategol y Cymoedd Technoleg, gyda safon uchel ei aelodau, bellach wedi cyfarfod ac y gall ddechrau ar ei waith pwysig o'n cynghori.

"Dwi'n edrych ymlaen at gydweithio'n agos â'r Grŵp a phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus, busnes ac Addysg Bellach ac Uwch i sicrhau bod ein buddsoddiad yn y Cymoedd Technoleg yn gweithio i fanteisio'n sylweddol ar y sector preifat ac yn darparu yn erbyn ein amcanion o swyddi gwell yn nes at adref."