Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o brosiect Symleiddio Manteision Cymru.

Datganiad o weledigaeth

Troi hawliau ariannol yn realiti

Dull tosturiol a chyson o ddylunio a darparu Budd-daliadau Cymru sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ar sail egwyddorion Siarter Budd-daliadau Cymru, sy'n galluogi pobl i adrodd eu stori unwaith yn unig i dderbyn yr holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo, lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru.

Y Cefndir

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Sefydliad Bevan wedi rhyddhau cyfres o adroddiadau sy'n nodi'r camau ymarferol y gellir eu cymryd i greu System Fudd-daliadau gydlynol yng Nghymru. Yn eu hadroddiad a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2023 (Dull cyffredin o ymdrin â budd-daliadau Cymru: astudiaeth dichonoldeb) maent yn gwneud nifer o argymhellion tymor byr a thymor hirach i gynyddu unffurfiaeth ar draws budd-daliadau Cymru. Mae eu hadroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024, 'Making the case for a Welsh Benefits System people’s experiences', yn tynnu sylw pellach at yr angen i'r gwaith hwn symud yn ei flaen yn gyflym.

Mae pethau wedi symud ymlaen, yn nodedig yn sgil lansio Siarter Budd-daliadau Cymru ym mis Ionawr 2024. Mae'r Siarter yn nodi'r egwyddorion arweiniol y mae angen eu dilyn wrth ddylunio a darparu system fudd-daliadau dosturiol, hwylus yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, lle nad oes angen i bobl adrodd eu stori fwy nag unwaith i dderbyn yr holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo. Cafodd y Siarter ei chyd-ddylunio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Awdurdodau Lleol, a rhanddeiliaid allweddol. Fe'i llofnodwyd gan bob un o'r 22 Awdurdod Lleol ac mae'n ymrwymiad ar y cyd i wella sefyllfa pobl Cymru.   

Grŵp Llywio Symleiddio Budd-daliadau Cymru

Mae Grŵp Llywio (Symleiddio Budd-daliadau Cymru) bellach wedi'i sefydlu i ddatblygu cynllun gweithredu i roi ymrwymiadau'r Siarter ar waith. Mae'r grŵp yn cael ei gadeirio'n annibynnol gan Fran Targett ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, CLlLC, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CGCD), Awdurdodau Lleol, a phartneriaid allweddol yn y Trydydd Sector. Bydd y grŵp yn atebol i Weinidogion a Chyngor Partneriaeth Cymru gan roi diweddariadau rheolaidd. 

Un o dasgau cychwynnol y Grŵp Llywio oedd ffurfio'r ffrydiau gwaith canlynol i lywio'r cynllun gweithredu.

  1. "Cam Un" (yn canolbwyntio ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, Grant Hanfodion Ysgolion, Prydau Ysgol am Ddim).
  2. Dylunio a Data.
  3. Cymhwysedd (i ddatblygu map llwybrau ar gyfer cynnwys budd-daliadau eraill o fewn y broses symlach).
  4. Monitro, Gwerthuso ac Ymchwil.
  5. Cyfathrebu Strategol.
  6. Dysgu a Datblygu.

Mae gan bob un o'r ffrydiau gwaith hwylusydd a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a set o nodau a blaenoriaethau a gytunwyd y byddant yn gweithio i'w cyflawni dros y misoedd nesaf.

Er mwyn cefnogi gweithgarwch y Grŵp Llywio a'r ffrydiau gwaith, ffurfiwyd tîm prosiect traws-sefydliadol, gan ddod ag arbenigedd  CGCD, CLlLC a Llywodraeth Cymru ynghyd.

Mae'r Grŵp Llywio yn cydnabod y rôl ganolog y bydd Awdurdodau Lleol yn ei chwarae yn y prosiect hwn ac mae wedi bod yn gweithio'n agos gyda CLlLC i ddeall y goblygiadau i Awdurdodau Lleol.

Mae pob un o'r 22 Awdurdod Lleol wedi enwebu Uwch Swyddog Cyfrifol i hyrwyddo gwaith o fewn eu Hawdurdod Lleol ac i ymuno â Grŵp Cynghori a sefydlwyd gan CLlLC i ddarparu arbenigedd ac arweiniad i'r Grŵp Llywio. Bydd y Grŵp Cynghori yn rhoi adborth rheolaidd i'r Grŵp Llywio a'r ffrydiau gwaith.

Sut beth fydd llwyddo?

  • Y nod hirdymor yw i unigolyn gael manteisio ar ei hawliau ariannol mewn ffordd syml, lle bynnag y mae'n byw yng Nghymru.
  • Bydd System Fudd-daliadau Cymru yn gweithredu fel system gydlynol a gaiff ei dylunio a'i gweithredu mewn ffordd sy'n rhoi'r lle canolog i bobl.
  • Bydd pobl yn gallu dweud eu stori unwaith a derbyn yr hyn y mae ganddynt hawl iddo, yn hytrach na gorfod rhoi'r un wybodaeth a thystiolaeth sawl gwaith.
  • Bydd yna newid diwylliannol o safbwynt hawliau, gan ystyried rhwystrau fel stigma a'u dileu cyn belled ag y bo modd.
  • Yr ymrwymiadau a'r canlyniadau a nodir o fewn Siarter Budd-daliadau Cymru fydd sail llwyddiant y nodau hyn.

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth am waith y Grŵp Llywio, gan gynnwys aelodaeth a chofnodion diweddaraf cyfarfodydd, ar gael yma Grŵp Llywio Symleiddio Budd-daliadau Cymru.