Ein gwaith
Mae Grŵp Llywio Iechyd Coed Cymru yn cynghori ar blâu a chlefydau sy’n effeithio ar goed.
Diben y grŵp yw rhoi cyngor a chymorth inni ar:
- amlinellu ein polisïau
- datblygu ein hymateb strategol i achosion o blâu a chlefydau sy'n effeithio ar goed
- ystyried eu heffaith bosibl ar blanhigion yn yr amgylchedd ehangach
- canfod ffyrdd o sicrhau bod coed a choetiroedd (cyhoeddus a phreifat) yn gallu gwrthsefyll plâu a chlefydau yn y tymor byr, canolig a hir
- cysylltu â grwpiau eraill yn yr Undeb Ewropeaidd a Phrydain i adolygu bygythiad plâu a chlefydau newydd sy'n effeithio ar goed a phlanhigion cysylltiedig fel y gallwn gydgysylltu'r gwaith o ddatblygu cynlluniau i ymateb i blâu a chlefydau
- ystyried goblygiadau plâu a chlefydau ar adnoddau
- ystyried cost strategaethau rheoli a sut y dylid eu cyflawni
Mae'r grŵp yn cael ei gadeirio gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth Llywodraeth Cymru, ac mae'n atebol i'r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.