Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y grŵp a sut y bydd yn gweithio.

Pwrpas (cam 1: gweithredu ADY)

Darparu cyfeiriad strategol a goruchwyliaeth amlasiantaethol o waith i sicrhau canlyniadau gwell i blant a phobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Mae Cam 1 yn ymwneud â’r broses barhaus o weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a bydd yn para tan ddiwedd 2023.

Bydd y Grŵp Llywio yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth yn ymwneud â chyfeiriad strategol, a chyngor i gefnogi'r sector gyda’r gwaith parhaus o weithredu diwygiadau o dan y Ddeddf.

Rôl a chyfrifoldebau

Er mwyn cyflawni'r diben hwn bydd y Bwrdd yn cyfarfod yn rheolaidd i:

  • bennu statws diwygio polisi ADY fel blaenoriaeth addysgol genedlaethol a rhoi hwb i'w gyflawni
  • darparu arweinyddiaeth a sicrhau gwaith a chydweithredu amlasiantaethol hanfodol
  • cysylltu’r broses weithredu ADY yn benodol fel agweddau annatod ac ategol ar ddiwygiadau polisi cenedlaethol eraill
  • nodi ffrydiau gwaith allweddol a'r amserlenni sy’n angenrheidiol i sicrhau gweithrediad effeithiol
  • darparu fforwm ar gyfer trafod, gan hyrwyddo diwylliant o her a chefnogaeth
  • llunio a llywio atebion polisi ADY, profi cadernid cynigion i ddarparu gwelliannau systemig, a chynnig cyngor ar eu cyflawni
  • cefnogi datblygiad trefniadau gweithredu cadarn a chynghori ar drefniadau ar gyfer olrhain gweithredu a llwyddiant
  • cynghori ar gyfathrebiadau ADY, cynhyrchion ymgynghori a chanllawiau a chefnogi eu darparu
  • rhoi cyngor ac arweiniad brys ar feysydd gweithredu sy'n parhau i fod yn ansicr
  • nodi risgiau a rhwystrau, nodi cyfleoedd ac atebion posibl ac adlewyrchu gwersi a ddysgwyd yn ddeinamig

Aelodaeth a phresenoldeb mewn cyfarfodydd

Ceir rhestr o aelodau yn Atodiad A. Bydd aelodaeth y Grŵp Llywio yn cael ei hadolygu a'i diwygio yn ôl yr angen ar gyfnodau allweddol.

Dylai pob cynrychiolydd enwebu, ymlaen llaw, ddirprwy sydd â'r grym i'w cynrychioli a gwneud penderfyniadau ar eu rhan ar yr adegau hynny lle nad ydynt yn gallu mynychu cyfarfodydd Grŵp. Ar yr adegau hyn, yr aelod o'r Grŵp Llywio sy'n gyfrifol am sicrhau bod ei ddirprwy yn cael ei friffio'n briodol cyn y cyfarfod a'r dirprwy sy'n gyfrifol am fwydo'n ôl i'r aelod o'r Grŵp Llywio yn dilyn y cyfarfod.

Pe bai Aelod yn absennol o'r Grŵp Llywio am ddau gyfarfod yn olynol, heb fod wedi dirprwyo dirprwy briodol, ac ni roddir ymddiheuriadau i'r Ysgrifenyddiaeth, gellir dirymu aelodaeth.

Caiff y Grŵp Llywio ei gadeirio gan Arweinydd Gweithredu Cenedlaethol ADY Dros Dro, gyda Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr yn Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel dirprwy lle bo angen.

Bydd gwasanaethau ysgrifenyddol ar gyfer Llywio yn cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru. Dylid dosbarthu agendâu'r Grŵp Llywio wythnos cyn y cyfarfodydd a phob papur ddim hwyrach na thridiau cyn cyfarfod.

Disgwylir i aelodau Grŵp Llywio Cenedlaethol Diwygio ADY:

  • ymrwymo i gefnogi gwaith y Grŵp
  • mynychu cyfarfodydd y Grŵp Llywio neu enwebu cynrychiolydd i fynychu yn eu lle
  • paratoi ar gyfer cyfarfodydd, gan gynnwys cwblhau unrhyw gamau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol
  • diweddaru'r Grŵp Llywio ar faterion o ddiddordeb, a rhaeadru gwybodaeth o fewn eu rhwydweithiau eu hunain a fforymau perthnasol fel y bo'n briodol

Deellir bod penderfyniadau'r Grŵp ar y cyd ac i gael eu gweithredu gan yr holl aelodau, oni bai bod amgylchiadau penodol lle cofnodir penderfyniad mwyafrif.

Amlder y cyfarfodydd

Bydd y Grŵp Llywio yn cwrdd bob deufis fel arfer. Cynhelir cyfarfodydd yn rhithiol trwy Microsoft Teams. Gall y Grŵp benderfynu cwrdd yn amlach os bydd yr amgylchiadau golygu bod yn rhaid iddynt wneud hynny. Bydd amlder y cyfarfodydd yn cael ei adolygu gan y Grŵp a'i ddiwygio os oes angen.

Adolygu

Bydd y Cylch Gorchwyl hyn yn destun cymeradwyaeth yng nghyfarfod cyntaf y Grŵp ac yna bydd yn cael ei adolygu yn unol â sylwadau ac i sicrhau eu bod yn adlewyrchu ffocws y grŵp.