Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

Mae hwn yn gyfnod tyngedfennol a chyffrous i bolisi buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru. Yn dilyn ymrwymiad Llywodraeth y DU i adfer y broses o wneud penderfyniadau i Lywodraeth Cymru ar gyllid yn lle cyllid yr UE, mae gennym gyfle i ddylunio rhaglen fuddsoddi ranbarthol newydd ar gyfer y blynyddoedd ar ôl 2026.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyd-gynhyrchu dull newydd gyda phartneriaid o bob rhan o Gymru a fydd yn cael ei oruchwylio gan y l y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, sydd wedi ei sefydlu i gynghori ac i herio Llywodraeth Cymru ar y camau nesaf.

Bydd y Grŵp Llywio yn dod â phartneriaid Cymreig ynghyd (yn bennaf, llywodraeth leol, sefydliadau AU/AB, sefydliadau busnes, Undebau Llafur, cyrff cydraddoldeb, amgylcheddol a gwledig, a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru) drwy gyfarfodydd bob 2 i 3 mis ac yn sicrhau bod cymaint o arbenigedd a phrofiad â phosibl yn cyfrannu at y broses hon.

Rydym yn awyddus i recriwtio aelodau annibynnol newydd i'r Grŵp Llywio sy'n meddu ar wybodaeth ac arbenigedd ym maes polisi rhanbarthol a datblygu economaidd. Rwy'n gobeithio y byddwch yn ystyried cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb i gyfrannu at y gwaith hwn a diolch ichi am eich diddordeb yn y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.

2. Ynglŷn â'r Grŵp Llywio ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol

Sefydlwyd Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol yn flaenorol i oruchwylio'r cyd-gynhyrchu gyda phartneriaid Cymreig Buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru: fframwaith (a gyhoeddwyd fis Tachwedd 2020), a fwriadwyd fel y model i fuddsoddi cronfeydd newydd yr UE yng Nghymru. Yn hytrach, cynlluniodd a chyflawnodd Llywodraeth flaenorol y DU (2019 i 2024) Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF) gan weithio'n uniongyrchol gydag awdurdodau lleol yng Nghymru.

Cafodd y Grŵp Llywio hwn ei olynu gan Fforwm Strategol yn 2021 i bartneriaid Cymru rannu gwybodaeth am raglenni ariannu etifeddiaeth Llywodraeth y DU, yn bennaf y Gronfa Gyffredin , sy'n effeithio ar Gymru.

Wrth inni ddechrau ar gyfnod newydd o fuddsoddi rhanbarthol yng Nghymru ar ôl 2026, mae’r Fforwm Strategol wedi cael ei ail enwi yn Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru. Mae’r aelodaeth wedi'i hadnewyddu, ei Gylch Gorchwyl wedi'i ddiweddaru, ac aelodau annibynnol newydd wedi ymuno sydd ag arbenigedd mewn polisi rhanbarthol a datblygu economaidd.

Beth fydd ymuno â'r Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol yn ei olygu?

Disgwylir i'r Grŵp Llywio gwrdd bob 2 i 3 mis rhwng mis Mawrth 2025 a'i ddyddiad gorffen ym mis Ebrill 2026. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal dros Microsoft Teams.

Bydd cyfarfodydd y Grŵp Llywio yn llywio'r gwaith o gyd-gynhyrchu rhaglen fuddsoddi rhanbarthol newydd ôl-2026 yng Nghymru, ac yn helpu i nodi cwmpas, ffocws, amcanion a strwythur dull yn y dyfodol. Bydd trafodaethau yn llywio cyngor i Weinidogion Llywodraeth Cymru ac yn sicrhau bod y cynigion a ddatblygir yn adlewyrchu barn partneriaid ledled Cymru.

Disgwylir i aelodau gymryd rhan lawn a gweithredol mewn trafodaethau, gan gynnig mewnwelediadau, cyngor a her adeiladol i waith a chynnydd rhaglen fuddsoddi ranbarthol newydd ar ôl 2026.

Ni chewch eich talu am fod yn aelod o’r Grŵp Llywio. Os bydd unrhyw gyfarfodydd neu ddigwyddiadau yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb, mae gan aelodau annibynnol hawl i gostau teithio a threuliau eraill o fewn terfynau rhesymol.

3. Ymuno â'r Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol fel aelod annibynnol

Y broses 

Gofynnir i unigolion sydd â diddordeb mewn ymuno â'r Grŵp Llywio lenwi a chyflwyno ffurflen Datgan Diddordeb i RegionalInvestmentinWales@llyw.cymru erbyn Dydd Gwener 9 Mai 2025.

Os yw eich arbenigedd a'ch profiad yn addas ar gyfer cefnogi nodau'r Grŵp Llywio, cewch eich gwahodd i gyfarfod ar-lein gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod y rôl a ffurfioli eich aelodaeth.

Datganiad am Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod gwerth cael cyrff cyhoeddus sy'n adlewyrchu amrywiaeth eang o ddiwylliannau, hunaniaethau a chefndiroedd. Rydym yn annog ceisiadau o bob rhan o gymdeithas ac rydym am benodi o'r gronfa dalent ehangaf a mwyaf amrywiol. 

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, waeth beth fo'u hoedran, statws priodasol (gan gynnwys priodas gyfartal a phriodas rhwng pobl o'r un rhyw) a phartneriaeth sifil, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, hunaniaeth rhywedd, amhariad neu gyflwr iechyd, hil, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio menywod, pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, pobl anabl ac aelodau o'r gymuned LHDTC+, sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn swyddi ar Fyrddau cyrff cyhoeddus ar hyn o bryd.

Y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a meithrin galluoedd dwyieithog ym maes penodiadau cyhoeddus yng Nghymru. Er nad yw sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, disgwylir i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gwerthfawrogi dwyieithrwydd ac yn ymrwymo i hyrwyddo a phrif ffrydio'r Gymraeg. Rydym yn croesawu eich cais beth bynnag yw lefel eich sgiliau.

Gwrthdaro Buddiannau

Wrth gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb, bydd gofyn ichi ddatgan unrhyw fuddiannau preifat a allai fod, neu y gellid dehongli eu bod, yn gwrthdaro â’ch rôl a’ch cyfrifoldebau fel aelod o'r Grŵp Llywio, gan gynnwys buddiannau busnes neu swyddi o awdurdod y tu allan i’r rôl gyda'r Grŵp Llywio.

Cysylltiadau

I gael rhagor o wybodaeth am y Grŵp Llywio e-bostiwch RegionalInvestmentinWales@llyw.cymru.