Neidio i'r prif gynnwy

Yn disgrifio amcanion, aelodaeth a threfniadau gwaith y grŵp.

Gweledigaeth y grŵp

Sicrhau bod Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru yn cael eu rheoli'n effeithiol a'u gwella i ddiogelu bioamrywiaeth forol, yr ecosystem ehangach a manteision economaidd-gymdeithasol i Gymru.

Diben y grŵp

Llywio a hyrwyddo'r gwaith o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn effeithiol, gan godi proffil gwaith rheoli'r Ardaloedd ac ennyn cefnogaeth awdurdodau rheoli a rhanddeiliaid ehangach ledled Nghymru.

Rôl y grŵp

  • Cyfrannu at ddatblygu gweledigaeth ac amcanion rheoli Rhwydwaith yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru.
  • Datblygu cynllun ar gyfer rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn well, sy'n cynnwys strwythurau darparu rheolaeth cyson ac sy'n creu ffyrdd gwell o weithio.
  • Blaenoriaethu materion rheoli ledled Cymru a llywio'r modd y targedir y defnydd o adnoddau sy'n gysylltiedig â'r blaenoriaethau hyn.
  • Datblygu canllawiau strategol ar weithredu camau â blaenoriaeth.
  • Rhoi cyngor a chanllawiau ar sut i sefydlu grwpiau rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig.
  • Llywio'r gwaith o fonitro anghenion sy'n ymwneud â blaenoriaethau rheoli.
  • Hyrwyddo cyngor sy'n cael ei ddatblygu gan y grŵp a'i roi i awdurdodau a rhanddeiliaid rheoli.

Aelodaeth

Bydd yr aelodau canlynol yn rhan o'r grŵp:

Llywodraeth Cymru - Cadeirydd

  • Graham Rees, Pennaeth yr Is-adran Morol a Physgodfeydd

Llywodraeth Cymru

  • Julian Bray, Pennaeth Bioamrywiaeth a Chadwraeth Forol
  • Richard Lowcock James, Swyddog Polisi Bioamrywiaeth a Chadwraeth Forol

Cyfoeth Naturiol Cymru

  • Rhian Jardine
  • Maggie Hatton Ellis

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

  • Trevor Theobald

Ystad y Goron

  • Olivia Thomas

Dŵr Cymru

  • Eve Read

Y Parciau Cenedlaethol (Eryri a Sir Benfro)

  • Tegryn Jones

Awdurdodau Porthladdoedd a Harbwr

  • Jonathan Monk

Cynghorydd EMSO

  • Alison Palmer Hargrave (Cynghorydd rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig ar safle, wedi'i ddarparu gan Swyddog Safleoedd Morol Ewropeaidd o Ben Llŷn a'r Sarnau).

Trefniadau gweithio

Bydd y grŵp yn cael ei gadeirio gan Bennaeth Is-adran Morol a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru. Bydd y Grŵp yn atebol i Fwrdd Prosiect yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Bydd y bwrdd hefyd yn ei oruchwylio.

Llywodraeth Cymru fydd yn darparu rôl yr Ysgrifennydd. Bydd agenda a phapurau yn cael eu cyflwyno i aelodau'r grŵp o leiaf wythnos cyn cyfarfod. Bydd cofnodion a chamau gweithredu cyfarfod yn cael eu hanfon 7 niwrnod yn ddiweddarach.

Bydd y grŵp yn cwrdd 2-3 gwaith y flwyddyn ond mae'n debygol y bydd y grŵp yn cwrdd yn amlach yn y flwyddyn gyntaf wrth iddo weithio ar y cynllun paratoi a gwella.

Adolygiad

Bydd adolygiad blynyddol yn cael ei gynnal o ddiben, amcanion ac aelodaeth y grŵp.