Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp Llandrillo Menai yn cael £6.75 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer canolfan beirianneg newydd sbon yng Ngholeg Menai

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y ganolfan yn caniatáu i’r coleg gynnig nifer o leoedd ychwanegol i fyfyrwyr sy’n astudio ar gyfer cymwysterau galwedigaethol a thechnegol.

Bydd y ganolfan newydd ar yr un campws a’r Ganolfan Ynni a’r Ganolfan Adeiladwaith presennol a bydd y canolfannau hyn yn help i fyfyrwyr datblygu eu sgiliau peirianneg ac adeiladwaith  i gefnogi datblygiad Wylfa Newydd.
 
Dywedodd Kirsty Williams,

“Bydd y prosiect hwn o fudd i’r myfyrwyr hynny sydd am gryfhau eu sgiliau peirianneg yn sicr, ond bydd hefyd yn llesol i’r economi leol gan y bydd peirianwyr hynod grefftus yn gallu byw a gweithio mewn ardal sy’n gartref i ddatblygiad Wylfa Newydd, a fydd yn cael buddsoddiad sylweddol.
 
“Bydd y ganolfan hefyd yn gyfle i fyfyrwyr hŷn a dysgwyr eraill i ddatblygu ac ehangu eu sgiliau, gan wella’u cyfleoedd i gael gwaith yn gyffredinol.”