Dull Cenedlaethol o Ymdrin ag Eiriolaeth Statudol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc: Grŵp Gorchwyl a Gorffen
Rhoddodd y grŵp gyngor i'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ar effeithiolrwydd gwasanaethau eiriolaeth statudol.
Cynnwys
Beth ydym yn ei wneud
Roedd hyn yn cynnwys:
- cyfrannu at ddatblygu'r dull cenedlaethol o ymdrin ag eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal
- adolygu effeithiolrwydd y Dull Cenedlaethol o ymdrin ag eiriolaeth statudol
- nodi pa wasanaethau eiriolaeth sy'n gweithio'n dda
- nodi'r rhwystrau sy'n atal plant a phobl ifanc rhag cael mynediad at wasanaethau
- ystyried yr wybodaeth am berfformiad rhanbarthol ar Eiriolaeth
Daeth gwaith y grŵp i ben ym mis Mehefin 2021.
Sefydlwyd Fforwm Cenedlaethol Darpariaeth Eiriolaeth i barhau â'r gwaith.