Neidio i'r prif gynnwy
Stephen James

Cafodd Stephen James ei benodi'n gadeirydd Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru ym mis Gorffennaf 2018.

Mae ei gyfnod penodi wedi'i ymestyn tan 2025.

Mae gan Stephen brofiad helaeth yn y sector ffermio. Daliodd swydd Llywydd NFU Cymru am 2 dymor a bu'n gyfarwyddwr CCF, Cwmni Cydweithredol Cyflenwi Amaethyddol.

Mae Stephen yn parhau i fod yn ffermwr llaeth brwd, gyda diddordeb mawr mewn iechyd anifeiliaid. Sbardunwyd hyn gan ystod eang o brofiad o TB, ar y fferm ac yn ymwneud â chyrff y Llywodraeth. 

Mae Stephen yn gynghorydd cymunedol a bu yn aelod o Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc a Chyngor Cymru. Ef hefyd oedd Llywydd Sioe Amaethyddol Sir Benfro yn ddiweddar. Yma, bu'n ymwneud â threfnu digwyddiadau ar gyfer ysgolion (mynychodd dros 1000 o fyfyrwyr), a oedd yn trafod tarddiad bwyd.

Mae Stephen yn siaradwr Cymraeg ac yn mwynhau teithio a dadlau, ar un adeg gwahoddwyd Brian May ar ei fferm i gynnal dadl gyhoeddus ar TB a moch daear.

Mae Stephen yn gefnogwr cadarn o gydweithredu a chydweithio i gefnogi amrywiaeth eang o randdeiliaid.