Neidio i'r prif gynnwy
Sarah Carr

Yn llywydd Cangen Cymru o Gymdeithas Milfeddygon Prydain, graddiodd Sarah o Goleg Milfeddygol Lerpwl yn 2004.

Treuliodd Sarah amser fel milfeddyg locwm yng Ngwlad yr Haf, ble y’i ganwyd, cyn gwirfoddoli i elusen asynod a mulod yn Morocco.

Wedi dychwelyd i’r DU, ymunodd Sarah â phractis cymysg gwledig yn Sir Fynwy, ble y cafodd brofiad gydag anifeiliaid fferm, cyn symud i Glinig Ceffylau Abbey yn 2009 i ddatblygu ei sgiliau ymhellach fel milfeddyg ceffylau. Mae gan Sarah hefyd ddiddordeb arbennig mewn deintyddiadeth fodern i geffylau, ac yn 2014 llwyddodd yn ei haroliadau BEVA/BVDA.

Y tu allan i’r gwaith, mae Sarah yn gofalu am ei diadell ei hun o famogiaid masnachol croesfrid, sy’n sicrhau ei bod mewn cysylltiad â’r sector amaethyddol yng Nghymru.