Neidio i'r prif gynnwy
Les Eckford

Mae Les Eckford yn filfeddyg wedi ymddeol, a gymhwysodd yn Ysgol Filfeddygol Caeredin.

Mae Les wedi mwynhau'r profiad o weithio ar ffermydd gydag anifeiliaid mawr. Roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn mecanweithiau rheoli clefydau tra mewn practis milfeddygol. Ar ddiwedd y 1970au roedd ganddo brofiad o achos o Anthrax a effeithiodd ar Ganolbarth Lloegr a Chymru. 

Ar ôl ymuno â'r gwasanaeth Maes yng Nghymru, deliodd Les ag ymchwiliadau TB buchol a lles anifeiliaid. Mae wedi gweithio yn y timau epidemioleg maes yn ystod achosion o ffliw adar yng nghanolbarth Lloegr. Hefyd ar achosion Clwy Clasurol y Moch yn 2000 a Clwy'r Traed a'r Genau yn 2001. Mae ganddo brofiad helaeth o ymgysylltu ag ystod eang o bobl. O ffermwyr i uwch lunwyr polisi a chynrychiolwyr sefydliadau, sydd â diddordeb amrywiol mewn iechyd a lles anifeiliaid. 

Mae gan Les hefyd brofiad mewn meysydd arbenigol. Maent yn cynnwys hylendid cig a sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Mae wedi gwasanaethu fel cynghorydd milfeddygol i Lywodraeth Cymru.

Mae gan Les ddiddordeb personol mewn geifr a gwenyn. Bu'n cadw geifr am flynyddoedd lawer ac mae'n parhau i gadw gwenyn ger ei gartref.