Yn ddiweddar, enillodd grŵp dawns Tuduraidd, sydd wedi'i leoli yn nhŷ Plas Mawr gan Cadw, wobr wirfoddoli am eu gwaith yn dod â dysgu amgueddfeydd yn fyw.
Bob blwyddyn mae'r Amgueddfa Brydeinig ac Ymddiriedolaeth Elusennol Marsh yn cydnabod gwirfoddolwyr o bob rhan o'r DU sy'n helpu amgueddfeydd i ymgysylltu'n well â'u hymwelwyr.
Mae grŵp Plas Mawr, a ffurfiodd cyn Covid ac sy’n cynnwys unigolion rhwng 50 ac 84 oed, newydd gael eu henwi fel enillwyr Cymru am eleni.
Mae Plas Mawr, neu'r Neuadd Fawr, yn un o'r enghreifftiau gorau sydd wedi goroesi o dŷ tref Elisabethaidd ym Mhrydain heddiw. Wedi dod o dan ofal gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, Cadw, yn 1993, mae'r plasty wedi bod yn llawer o bethau i lawer o bobl dros y blynyddoedd: llys, ysgol a hyd yn oed oriel gelf.
Heddiw mae'r adeilad 400 oed a mwy yng nghanol tref Conwy yn agor ei ddrysau i tua 18,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mae'r grŵp arobryn yn perfformio eu dawns Duduraidd yn y tŷ mawreddog bedair gwaith y tymor yn ystod perfformiadau arbennig yn nigwyddiadau "Cyfarfod y Trigolion" Plas Mawr. Gellir eu gweld hefyd yn dawnsio yn eu sesiwn ymarfer wythnosol yn yr heneb ac mae eu gwisgoedd wedi'u gwneud â llaw yn cael eu harddangos fel rhan o brofiad yr ymwelydd.
Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae'r gwirfoddolwyr wedi dechrau mynd â'u pafanau a’u gafotau o gyfnod Harri VIII allan i'r gymuned, gan ymweld ag ysgolion a grwpiau lleol i berfformio ac i rannu eu gwybodaeth am Blas Mawr a'i dreftadaeth.
Meddai Angela Francis Morris, un o aelodau'r grŵp:
"Dwi'n hoff iawn o'n Dawnsio Tuduraidd. Rydyn ni'n cael cymaint o hwyl yn ein dosbarthiadau ac wrth gwrs, yn cael gwisgo i fyny yn ein gwisgoedd hardd, wedi'u gwneud â llaw. Dwi'n teimlo mor lwcus.
"Rwyf wedi bod yn gwirfoddoli ym Mhlas Mawr am 7 mlynedd ac wedi bod wrth fy modd â phob munud ohono. Mae'n fraint wirioneddol cael gwirfoddoli mewn hen adeilad mor hyfryd. Rwyf bob amser yn dysgu rhywbeth newydd gan geidwaid, gwirfoddolwyr eraill neu yn wir gan aelodau'r cyhoedd. Mae mor hyfryd cwrdd â phobl o bob cwr o'r byd o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd."
Anfonodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, ei longyfarchion i'r dawnswyr. Meddai:
"Llongyfarchiadau! Rwyf mor ddiolchgar i ddawnswyr Tuduraidd Plas Mawr, a gwirfoddolwyr tebyg iddynt ledled y wlad, am roi o'u hamser a'u hegni i ysbrydoli eraill a'u helpu i werthfawrogi a deall ein treftadaeth."