Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Sefydlwyd y Grŵp Cynllunio Etholiadau gan y Prif Weinidog ym mis Mehefin 2020, yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol a swyddogion Llywodraeth Cymru (Atodiad 1), i ystyried effaith pandemig y Coronafeirws ar weinyddu etholiadau'r Senedd yn 2021. Yn benodol, ystyriodd y Grŵp, o gofio bod cynnal etholiadau wedi'i ragnodi'n dynn mewn deddfwriaeth, a oes angen gwneud unrhyw addasiadau i'r ddeddfwriaeth er mwyn gallu cynnal yr etholiad yn ddiogel, gan ganolbwyntio ar iechyd a llesiant pawb sy'n ymwneud â'r etholiadau ac uniondeb yr etholiad.

Cyfarfu'r Grŵp bum gwaith i drafod newidiadau posibl y gallai fod eu hangen er mwyn sicrhau'r cyfranogiad democrataidd mwyaf posibl tra'n diogelu iechyd y cyhoedd hefyd.

Yn dilyn gohirio etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu o fis Mai 2020, disgwylir i'r rhain gael eu cynnal bellach ar yr un dyddiad ag etholiadau'r Senedd (6 Mai 2021). Byddai gwahaniaethau yn yr etholfraint ar gyfer yr etholiadau hynny'n arwain at gymhlethdod ychwanegol ar gyfer gweinyddu'r etholiadau ar yr un diwrnod ac mae ystyriaethau’r Coronafeirws yn cynyddu'r cymhlethdod hwn ymhellach. Cydnabu'r Grŵp y byddai rhai newidiadau yn fwy buddiol (o ran bod yn ymarferol i weithredu ac osgoi dryswch pleidleiswyr) pe bai Llywodraeth y DU yn gweithredu'n gyfatebol mewn perthynas ag etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Lle y bo'n briodol, bydd Llywodraeth Cymru felly yn trafod ymhellach gyda Llywodraeth y DU i archwilio'r ffordd orau o sicrhau cydlyniad rhwng y trefniadau ar gyfer y ddau etholiad lle mae hyn yn bwysig.

Cytunodd y Grŵp ar gyfres o egwyddorion a chasgliadau i gefnogi cynllunio a pharatoadau manylach ar gyfer yr etholiadau, a nodir isod. Roedd nifer o feysydd eraill hefyd lle cynhaliwyd trafodaethau adeiladol a defnyddiol, er nad oedd consensws llawn ar draws y grŵp.

Meysydd lle’r oedd consensws

Arweiniodd trafodaethau'r Grŵp at gonsensws ar y materion canlynol:

  • Dylid anelu o hyd at gynnal etholiadau'r Senedd ar 6 Mai yn unol â’r bwriad
  • Er mwyn cyflawni hyn, dylid cynnwys ystyriaeth o ffyrdd o gynyddu hyblygrwydd a chadernid gweithrediadau etholiadol yn y broses gynllunio, gan adlewyrchu cyngor iechyd y cyhoedd ar y ffordd orau o ddiogelu diogelwch a lles pleidleiswyr, cyfranogwyr a gweinyddwyr yr etholiad
  • Dylid annog pleidleiswyr sydd wedi bod yn eu gwarchod eu hunain gynt neu sydd mewn categori agored i niwed ystyried gwneud cais am bleidlais trwy’r post (ond er y gallent fynd â'u pleidlais bost wedi'i chwblhau i'r orsaf bleidleisio yn bersonol, dylent fod yn ymwybodol na allent ofyn am gael pleidleisio'n bersonol)
  • Yn fwy cyffredinol, dylid cael ymgyrch gynnar i hybu ceisiadau am bleidlais trwy’r post er mwyn osgoi rhuthr hwyr o geisiadau am bleidlais trwy’r post, gan y gallai hyn fod yn anodd iawn ei reoli yn yr amser sydd ar gael ac o dan yr amgylchiadau y gellid eu hwynebu ar y pandemig
  • Dylid darparu mwy o hyblygrwydd o ran pwy y caniateir iddynt gyflwyno papurau enwebu a dylid caniatáu i bapurau gael eu cyflwyno'n electronig
  • Cefnogwyd rhywfaint yn fwy o hyblygrwydd o ran pleidleisiau trwy’r post a phleidleisiau trwy ddirprwy, ond tra'n parhau i gynnal gwiriadau priodol i ddiogelu rhag y risg o dwyll pleidleisio. Mae'r canlynol yn rhoi enghreifftiau o feysydd i'w hystyried yn fanylach:
    • Ymchwilio i’r cwestiwn a ellir cynyddu mewn rhai amgylchiadau faint o bobl y gall un unigolyn fod yn bleidleisiwr trwy ddirprwy ar eu cyfer, er enghraifft os yw'n ofynnol i aelwyd â nifer o bleidleiswyr ei warchod ei hun
    • Diwygio'r gofyniad am bleidleisiau brys trwy ddirprwy, fel nad oes angen ardystiad meddygol mewn perthynas â’r Coronafeirws
    • Sicrhau bod gan y broses ar gyfer pleidleisiau brys trwy ddirprwy'r capasiti i ddelio â galw uwch (os yw’n ofynnol, er enghraifft, i nifer sylweddol o unigolion neu aelwydydd eu gwarchod eu hunain yn agos iawn at y diwrnod pleidleisio)
    • Dylai trefniadau ar gyfer casglu pleidleisiau trwy’r post fod ar gael a chael eu cyfleu, ond gyda'r cyfrifoldeb ar y pleidleisiwr o hyd
  • Ni ddylai rheoliadau iechyd y cyhoedd sy'n gorfodi cyfyngiadau lleol rwystro'r hawl i bleidleisio a dylid ystyried pleidleisio yn 'esgus rhesymol' (i ddefnyddio'r iaith gyfreithiol yn y rheoliadau perthnasol) dros adael y tŷ
  • Gellid cynnal y cyfrif yn unol ag amserlen estynedig pe bai mwy o amser yn caniatáu mwy o ddiogelwch i iechyd a diogelwch y rhai o dan sylw (e.e. llai o staff cyfrif i ganiatáu pellter cymdeithasol) a / neu alluogi ymgeiswyr ac asiantau cyfrif i barhau i arfer eu hawl i’w bodloni eu hunain bod pleidleisiau'n cael eu dyrannu'n gywir.

Nododd y Grŵp hefyd ei fod, mewn egwyddor, yn barod i ystyried cyflwyno'r hysbysiad o etholiad, yn amodol ar ystyried y trefniadau rheoleiddio, trafodaethau pellach ar ymarferoldeb ac unrhyw oblygiadau ar faterion eraill.

Ystyriodd y Grŵp weithrediad diogel gorsafoedd pleidleisio a lleoliadau cyfrif. Cytunodd y Grŵp y dylai'r pwerau presennol fod yn ddigonol yn gyffredinol i roi trefniadau ar waith yn lleol ac na fyddai angen newid deddfwriaethol. Er enghraifft, os yw'n gwbl angenrheidiol yng nghyd-destun yr adeiladau sy'n cael eu defnyddio, byddai'n bosibl cyfyngu ar nifer yr arsylwyr mewn gorsafoedd pleidleisio, agor pleidleisiau trwy’r post neu gyfrifiadau. Ond roedd y Grŵp yn awyddus i sicrhau bod unrhyw gyfyngiadau o'r fath yn cael eu cymhwyso yn y lle cyntaf i arsylwyr cyffredinol yn hytrach nag asiantau pleidleisio/cyfrif neu aelodau o'r teulu y caniateir iddynt fynd gyda'r ymgeisydd.

Meysydd eraill a drafodwyd

Yn ystod gwaith y Grŵp, ystyriwyd nifer o faterion eraill – a oedd wedi'u hanelu yn gyffredinol at ddarparu hyblygrwydd a chadernid i agweddau ar drefniadau'r etholiad mewn rhai amgylchiadau – lle nad oedd consensws llawn ar draws y grŵp. Roedd y materion hyn yn cynnwys:

  • Fel mesur wrth gefn, o dan yr amgylchiadau lle'r oedd sefyllfa'r pandemig yn ddifrifol iawn ac yn peri risg i gynnal yr etholiad yn ddiogel, estyniad posibl i bŵer y Llywydd i amrywio dyddiad etholiad y Senedd yn 2021 er mwyn gallu symud y dyddiad fwy na mis (er enghraifft, tan haf neu hydref 2021)
    • Roedd y rhai a oedd yn gyfrifol am gynnal etholiadau yn tueddu i ffafrio hyblygrwydd y pŵer hwn fel mesur wrth gefn;
    • Pe bai hyblygrwydd o'r fath, nododd sawl aelod o'r Grŵp y dylid ystyried amseriad y flwyddyn academaidd wrth gytuno ar hyd unrhyw estyniad;
    • Nid oedd consensws ar draws y pleidiau gwleidyddol ar hyn, gyda'r rhan fwyaf yn barod i'w ystyried yn fesur wrth gefn in extremis, tra nododd eraill fod etholiadau wedi'u cynnal, a'u bod yn parhau i gael eu cynnal mewn gwledydd eraill, gyda phellter cymdeithasol priodol a mesurau eraill ar waith.
  • Nid yw argymell newid y gofyniad i'r Senedd gyfarfod am y tro cyntaf (lle mae'n ofynnol iddi ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd) i 14 diwrnod ar ôl y canlyniad yn hytrach nag ar ôl diwrnod y bleidlais er mwyn sicrhau nad yw cyfrif hwy yn cyfyngu ar yr amser sydd ar gael i’r Aelodau cyn cyfarfod cyntaf y Senedd
    • Roedd y rhai a oedd yn gyfrifol am gynnal etholiadau yn gyffredinol o blaid cyflwyno'r diwygiad hwn;
    • Nid oedd consensws ar draws pleidiau gwleidyddol am newid o'r fath, gyda'r rhai nad oeddent o blaid yn nodi bod y cyfnod eisoes wedi'i ymestyn i 14 diwrnod o'r cyfnod o 7 diwrnod a oedd wedi bod yn gymwys mewn etholiadau blaenorol.
  • Ymestyn oriau pleidleisio
    • Yn gyffredinol, teimlai aelodau'r Grŵp na fyddai fawr o fudd i ymestyn oriau o fewn un diwrnod ymhellach na'r trefniant presennol o 7am i 10pm o gofio’r niferoedd cyfyngedig a bleidleisiodd ar ffin yr adegau hynny a'r pwysau ychwanegol ar staffio ac adnoddau;
    • Tynnwyd sylw hefyd at ystyriaethau diogelwch pleidleiswyr, cyfranogwyr a gweinyddwyr gorsafoedd pleidleisio sydd ar agor yn ystod oriau tywyllwch;
    • Roedd rhai aelodau o'r Grŵp yn awyddus i weld pleidleisio'n cael ei ymestyn dros nifer o ddiwrnodau neu drwy Ganolfannau Pleidleisio Cynnar – o bosibl mewn ardaloedd â gorsafoedd pleidleisio bach lle byddai'n fwy heriol cadw pellter cymdeithasol, er nad oedd consensws ar hyn yn y grŵp;
    • Cytunwyd y dylid cadw unrhyw newidiadau i leoliadau arferol gorsafoedd pleidleisio mor isel â phosibl a phe bai'n rhaid cael unrhyw newidiadau (e.e. pe bai'n amhosibl defnyddio lleoliad traddodiadol ar gyfer gorsaf bleidleisio yn ddiogel) yna byddai angen cyfleu'r rhain yn glir iawn ymhell ymlaen llaw;
    • Nid oedd y Grŵp o blaid mesurau a fyddai'n galluogi (neu'n ei gwneud yn ofynnol i) grwpiau penodol o bleidleiswyr bleidleisio ar adeg benodol gan y gallai hyn fod yn ddryslyd i bleidleiswyr (e.e. adegau penodol pan fydd y rhai mewn grwpiau mwy agored i niwed yn pleidleisio, yn yr un modd ag y mae rhai archfarchnadoedd wedi darparu amseroedd penodol i bobl hŷn neu bobl sy'n agored i niwed siopa).

Ystyriodd y Grŵp nifer o faterion eraill hefyd lle na theimlid bod angen newidiadau deddfwriaethol i'r trefniadau presennol:

  • staffio gorsafoedd pleidleisio
  • gwisgo masgiau wyneb mewn gorsafoedd pleidleisio/lleoliadau cyfrif
  • mynediad at ddata ar bobl ifanc sy’n cofrestru ymlaen llaw
  • hwyluso ymgyrchu.

Y camau nesaf

Ar ôl i’r adroddiad gael ei ystyried yng nghyfarfod y Grŵp Cynllunio Etholiadau ar 29 Medi, caiff ei gyflwyno i'w ystyried gan Weinidogion Cymru cyn i unrhyw gynigion sydd i'w dilyn gael eu cyflwyno i'r Senedd i’w hystyried.

Ochr yn ochr â'r camau hyn, bydd y cynllunio gweithredol helaeth sydd ar y gweill yn parhau, ochr yn ochr ag ystyried cyllid (e.e. ar gyfer staff ac offer ychwanegol), er mwyn sicrhau y gellir rhoi mesurau diogelwch ychwanegol priodol ar waith. Mae mecanweithiau ar y cyd, yn enwedig drwy Fwrdd Cydgysylltu Etholiadol Cymru a rhwydweithiau proffesiynol fel Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, ar gyfer bwrw ymlaen â threfniadau gweithredol. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r rhain ac yn parhau i ddarparu cyngor a chymorth i gynorthwyo'r gwaith ar gynllunio gweithredol.

Bydd trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn parhau er mwyn cefnogi cysondeb, lle y bo'n briodol, yn y trefniadau rhwng etholiadau'r Senedd ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

Atodiad 1: Sefydliadau a gynrychiolir ar y Grŵp Cynllunio Etholiadau

  • Bwrdd Cydgysylltu Etholiadol Cymru
  • Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol
  • Swyddogion Canlyniadau
  • NUS Cymru
  • Police (representing Police & Crime Commissioners, Chief Constables and Integrity Lead) Heddlu (yn cynrychioli Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, Prif Gwnstabliaid ac Arweinwyr Uniondeb)
  • Y Comisiwn Etholiadol
  • Comisiwn y Senedd
  • Llywodraeth y DU (Swyddfa'r Cabinet)
  • Plaid Brexit
  • Ceidwadwyr Cymru
  • Llafur Cymru
  • Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
  • Plaid Cymru
  • Llywodraeth Cymru

WG41598
© Hawlfraint y Goron 
ISBN digidol 978-1-80082-411-9

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 107 KB.

Maint Ffeil 107 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.