Mewn ymateb i dystiolaeth gynyddol a phryder bod haint COVID-19 yn cael effaith andwyol anghymesur ar bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), cyfarfu grŵp cynghorol iechyd Llywodraeth Cymru ar Covid-19 am yr eildro heddiw.
Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru:
"Mae colli bywyd unrhyw un yn drychinebus. Mae'r data sy'n dod i'r amlwg ynghylch cyfraddau marwolaeth yn peri pryder mawr gan ei fod yn awgrymu bod pobl BAME yn colli eu bywydau'n anghymesur o ganlyniad i gontractio Covid-19. Mae hyn yn destun pryder enfawr.
"Mae nifer o resymau posibl dros y diffyg cymesuredd hwn, megis cyfraddau uwch o gyflyrau iechyd sylfaenol, anghydraddoldebau sy'n bodoli eisoes, mwy o gysylltiad â Covid-19 o ganlyniad i'r gwaith y maent yn ei wneud a rhesymau eraill. Mae gwaith pwysig i'w wneud i ddeall sut y mae hyn yn ymwneud â'r lefel uwch o farwolaethau COVID-19 i bob golwg ymhlith pobl o gefndiroedd BAME.
“Rydym felly wedi sefydlu grŵp cynghorol, wedi'i gyd-gadeirio gan y Barnwr Ray Singh a Dr Heather Payne, i ymchwilio i’r mater hwn. Yn ogystal, bydd yr Athro Keshav Singhal yn arwain is-bwyllgor ar faterion a risgiau’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, a bydd yr Athro Emmanuel Ogbonna yn arwain is-bwyllgor ar faterion cymdeithasol-economaidd sy'n ymwneud â'r gymuned BAME a Covid-19.
“Fy ngobaith yw y bydd y dull gweithredu hwn yn sicrhau ein bod yn edrych ar y cyd-destun ehangach o ran yr anghymesuredd hwn, yn ystyried yn llawn yr holl feysydd lle mae pobl yn agored i niwed, ac yn cymryd camau i amddiffyn y rhai sydd mewn perygl”.
“Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip Jane Hutt am ei gwaith wrth ddatblygu dull o asesu'r mater hwn a hynny ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys swyddogion cydraddoldebau, y Prif Swyddog Meddygol, cymunedau BAME, ac is-adran y gweithlu iechyd.
“Yn olaf, hoffwn fynegi fy mhryder ynghylch y darlun sy’n esblygu. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn dysgu'n gyflym fel y gallwn amddiffyn pobl yng Nghymru yn y ffordd orau rhag niwed oherwydd Covid-19, ac rwy'n cydnabod fy nyletswydd gofal at bawb sy'n gweithio mor galed yn ein system iechyd a gofal i gefnogi pobl Cymru.”