Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer Gofalwyr.

Cyflwyniad

Er mwyn sicrhau canlyniadau gwell a chynaliadwy i ofalwyr, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen cefnogaeth ac ymrwymiad gan bartneriaid statudol a’r trydydd sector ar draws sectorau, a gofalwyr eu hunain. Bydd Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Ofalwyr yn darparu ymateb traws-sector i'r heriau y mae gofalwyr yn eu hwynebu a bydd yn darparu fforwm cenedlaethol i dargedu a monitro gwelliannau o dan y tair blaenoriaeth genedlaethol.

Dros amser gall blaenoriaethau newid ac mae ein dull gweithredu yn rhoi'r hyblygrwydd inni ymateb ac addasu er mwyn bodloni ein blaenoriaethau. Bydd y Grŵp yn cefnogi'r ffordd hon o weithio drwy nodi syniadau ac atebion newydd mewn ymateb i'r gwahanol faterion sy'n wynebu gofalwyr fel bod yr agenda'n symud ymlaen yn barhaus.

Tasgau allweddol

Bydd gan aelodau Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Ofalwyr (MAG) rôl ddeuol:

  • yn gyntaf i gyfrannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd penodol i rôl gynghorol gyfunol MAG, gan ddod â'u persbectif a'u profiad o ofalwyr a gofalu i hysbysu'r Gweinidog a dylanwadu ar bolisi gofalwyr a'r ffordd y caiff ei weithredu
  • ac yn ail cymryd cyfrifoldeb dros sbarduno newid a gwelliant i ofalwyr yn eu sefydliadau a'u sectorau eu hunain

Bydd MAG ar wahanol adegau:

  • yn rhoi cipolwg ar yr heriau gweithredol a strategol o ran cyflawni blaenoriaethau cenedlaethol gofalwyr ar draws sectorau, a chydweithio i oresgyn y rhain
  • yn nodi a datblygu syniadau ac atebion newydd mewn ymateb i'r gwahanol faterion sy'n wynebu gofalwyr
  • yn cynghori'r Gweinidog a swyddogion Llywodraeth Cymru ar heriau ac atebion
  • yn darparu fforwm cenedlaethol i oruchwylio'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol y gofalwyr a'r camau y cytunwyd arnynt i gyflawni'r blaenoriaethau hynny
  • yn ystyried a chynghori ar y defnydd o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gofalwyr ac ar effeithiolrwydd ac effaith y buddsoddiad hwn a'r gwersi a ddysgwyd
  • yn rhoi cyngor ar sut y dylid dyrannu cyllid yn y dyfodol i gefnogi'r gwaith o barhau i gyflawni'r blaenoriaethau cenedlaethol
  • yn cynghori ar ddulliau o fesur gwelliant yn erbyn y blaenoriaethau cenedlaethol a'u halinio â chamau gweithredu y cytunir arnynt er mwyn cyflawni'r blaenoriaethau cenedlaethol
  • yn darparu fforwm ar gyfer rhannu a chynnal adolygiad gan gymheiriaid o gynnwys y gofalwyr gymheiriaid mewn cynlluniau lleol a rhanbarthol.
  • yn hyrwyddo a chefnogi'r broses o nodi arferion da yng Nghymru a’r tu hwnt ac yn ystyried sut y gellid rhoi arferion da ar waith yn eang i sicrhau gwell canlyniadau i ofalwyr yng Nghymru

Ymgysylltu â gofalwyr

Bydd MAG yn gweithio gyda Grŵp Ymgysylltu ac Atebolrwydd ac ochr yn ochr ag ef. Bydd y Grŵp yn cynnwys gofalwyr a sefydliadau sy'n cynrychioli gofalwyr. Bydd hyn yn caniatáu i MAG gael mynediad at arbenigedd a phrofiad byw ystod amrywiol o ofalwyr. Byddant yn rhoi mewnwelediad a her i MAG er mwyn sicrhau bod ei waith yn effeithiol o ran mynd i'r afael â materion sy'n bwysig i ofalwyr.

Bydd y Grŵp Ymgysylltu ac Atebolrwydd yn cyfarfod ar wahân i MAG ond bydd yn cael ei gynrychioli arno. Dylai deialog rhwng y ddau grŵp fod yn rheolaidd ac yn berthynas ddwyffordd.