Cylch gorchwyl
Mae'r Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Bysgodfeydd Cymru yn cynghori gweinidogion a swyddogion ar bysgodfeydd a dyframaeth. Mae'n cynrychioli'r diwydiannau pysgota a dyframaeth.
Cynnwys
1. Pwrpas
1.1 Mae’r Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Bysgodfeydd Cymru (GCGBC) yn grŵp strategol, effeithlon, lefel-uchel. Mae’n disodli Grŵp Cynghori ar Bysgodfeydd Môr Cymru (GCBMC). Mae gan y grŵp aelodaeth ehangach a gadeirwyd gan swyddogion, neu’r Gweinidog, yn ôl yr angen. Mae'r grŵp yn cynrychioli’r diwydiant pysgota a’r diwydiant dyframaeth ar draws y gadwyn gyflenwi. Hefyd mae’n rhoi cyngor i Weinidogion a swyddogion ar amrywiaeth eang o faterion sy’n ymwneud â physgodfeydd a dyframaeth.
1.2 Ochr yn ochr â’r grŵp strategol, bydd grwpiau mwy penodol yn cael eu sefydlu yn ôl yr angen. Fydden nhw’n ddarparu dulliau cyd-reoli ar gyfer pysgodfeydd penodol Cymru. Mae rhain yn gynnwys datblygu Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd o fewn i fframwaith Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd Deddf Pysgodfeydd 2020. Bydd y grwpiau hyn yn diweddaru’r grŵp strategol ac yn rhoi gwybod iddo am gynnydd. Er hynny nad oes unrhyw atebolrwydd uniongyrchol o’r grwpiau hyn i Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Bysgodfeydd Cymru. Hyd nes y bydd grwpiau rhywogaethau arbennig yn cael eu sefydlu, Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Bysgodfeydd Cymru fydd y fforwm dros dro ar gyfer y trafodaethau hyn.
2. Llywodraethu
2.1 Bydd swyddogion yn sicrhau bod strwythurau llywodraethu a chysondeb y dulliau gweithredu rhwng GCGBC a grwpiau presennol wedi eu halinio. Mae rhain yng nghynnwys Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru.
2.2 Bydd agenda yn nodi gwaith y grŵp cyn cyfarfodydd, ond bydd rhywfaint o hyblygrwydd i gynnwys materion sy’n codi.
2.3 Bydd cyfeiriad clir yn cael ei osod ar gyfer y grŵp, a rhaglen waith gyda swyddi penodol.
3. Aelodaeth
3.1. Bydd aelodaeth y Grŵp yn cynnwys:
- cyrff sy’n cynrychioli pysgotwyr a dyframaeth,
- cynrychiolwyr cadwyni cyflenwi,
- cynrychiolwyr grwpiau amgylcheddol
- academia.
Prif bwrpas y grŵp yw siapio strategaethau pysgodfeydd. Bydd aelodaeth y grŵp yn hyblyg ac yn cael ei adolygu er mwyn bod yn agored i aelodau newydd.
Aelodaeth bresennol Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Bysgodfeydd Cymru yw:
Jim Evans - Cymdeithas Pysgotwyr Cymru
*Ail gynrychiolydd o Gymdeithas Pysgotwyr Cymru - Cymdeithas Pysgotwyr Cymru
Emily Williams - Cyswllt Amgylchedd Cymru (RSPB)
Gareth Cunningham - Cyswllt Amgylchedd Cymru (MCS)
Colin Charman - Cyfoeth Naturiol Cymru
Mark Gray - The Menai Seafood Company
Natalie Hold - Prifysgol Bangor
Lynn Gilmore - Seafish
Nerys Edwards - Syren Shellfish
Carl Davies - Pysgotwr Masnachol
John O'Connor - Ffederasiwn Genweirwyr Môr Cymru
Colin MacDonald - Parsons Pickles
Alan Winstone - Cymdeithas Reoli Gorchymyn Pysgodfa Afon Menai
4. Ffyrdd o weithio
4.1. Mae aelodau’r Grŵp yn mynychu cyfarfodydd yn chwarterol. Mae cyfarfodydd ar Microsoft Teams neu wyneb yn wyneb. Gofynnir i aelodau rannu unrhyw fewnbwn y tu allan i’r cyfarfodydd trwy e-bost.
4.2. Disgwylir i aelodau geisio barn y cyrff cynrychiadol. Lle bo'n briodol dylent anfon y papurau ymlaen ymysg eu sefydliadau. Gall papurau sy’n cael eu rhannu gan Lywodraeth Cymru gael eu rhannu â thrydydd parti os na nodir yn wahanol. Bydd papurau nad ydynt i’w rhannu yn fwy eang na’r aelodaeth yn cael eu labelu. Dylai unrhyw rannu gwybodaeth gadw at ofynion diogelu data hefyd.
5. Ysgrifenyddiaeth
5.1. Darparir ysgrifenyddiaeth gan Is-Adran y Môr a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru. Fydden nhw’n gweithredu fel pwynt canolog i bob gohebiaeth.
5.2. Bydd cofnodion a fydd yn nodi ‘Gweithred’ neu ‘Trafodaeth’ yn cael eu cymryd ym mhob cyfarfod a’u rhannu gydag aelodau, i’w cymeradwyo. Dylid cyfeirio pob ymholiad at yr ysgrifenyddiaeth.