Cylch gorchwyl
Crynodeb o bwrpas y Grŵp Cynghori Strategol y Cymoedd Technoleg.
Cynnwys
Pwrpas
Rôl y Grŵp yw darparu cyngor strategol i Grŵp Nawdd y Cymoedd Technoleg (Uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru) ar amcanion strategol, blaenoriaethau a chyflawniad sy’n gysylltiedig â’r Cymoedd Technoleg.
Dyma'r weledigaeth ar gyfer y Cymoedd Technoleg:
“Yn 2027, bydd Cymoedd de Cymru, a Blaenau Gwent yn benodol, yn ganolfan gydnabyddedig yn fyd-eang am ddatblygu technolegau newydd, i gefnogi diwydiant arloesol.
Mae'r weledigaeth yn adlewyrchu uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer twf economaidd, fel yr amlinellir yn ei strategaeth economaidd ‘Ffyniant i Bawb’ a chan gefnogi'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi.
Swyddogaethau a Chyfrifoldebau
Bydd y grŵp cynghori yn:
- Darparu cyngor wedi’i gydgysylltu a gweithredu fel ffrind beirniadol i Grŵp Noddi’r Cymoedd Technoleg (uwch swyddogion Llywodraeth Cymru) ynghylch:
- Amcanion strategol, blaenoriaethau a chyflenwi mewn perthynas â’r Cymoedd Technoleg;
- Arferion gorau a’r hyn a ddysgwyd mewn rhanbarthau eraill o fewn y DU ac yn rhyngwladol;
- Llunio cyngor ynghylch datblygu prosiectau sydd ar y gweill a
- Defnyddio a chyflwyno’r buddsoddiad yn y Cymoedd Technoleg er mwyn sicrhau’r effaith bositif fwyaf posibl ar draws Blaenau Gwent yn benodol, ac economi ehangach Cymru.
- Hyrwyddo/dadlau achos gweledigaeth, amcanion strategol a chyfleoedd y Cymoedd Technoleg ar draws eu rhwydweithiau presennol.
- Adolygu’n barhaus hynt rhaglen y Cymoedd Technoleg o brosiectau, gan gynnwys cynnig her a chyngor positif.
Y Gyllideb
Nid oes gan Grŵp Cynghori Strategol y Cymoedd Technegol unrhyw gyllideb.
Ni chaiff aelodau Grŵp Cynghori Strategol y Cymoedd Technegol gyflog.
Mae costau teithio a chynhaliaeth a ysgwyddir wrth fod yn bresennol yng nghyfarfodydd Grŵp Cynghori Strategol y Cymoedd Technegol neu ar ymweliadau ar ran y Grŵp yn cael eu had-dalu gan Lywodraeth Cymru ar y gyfradd sy’n berthnasol ar hyn o bryd i aelodau Pwyllgorau’r Llywodraeth.
Aelodaeth
Mae aelodaeth Grŵp Cynghori Strategol y Cymoedd Technegol ar agor i weithwyr proffesiynol sy’n brofiadol iawn ym maes technoleg o fyd busnes a’r byd academaidd. Bydd yn adlewyrchu ac yn cynrychioli diwydiant, busnesau bach a chanolig, entrepreneuriaid, llywodraeth leol, rhagoriaeth o fewn prosiectau arbenigol, cyllid a Sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch. Bydd un sedd ar gyfer swyddog o Gyngor Bwrdeistref Sirol Gwent, ac o leiaf un ar gyfer cynrychiolydd busnes.
Ni ragwelir y bydd mwy na 13 o aelodau gan gynnwys y Cadeirydd. Tair mlynedd yw tymor penodiad ond gall cyn-aelod wneud cais i fod yn aelod am hyd at dri tymor a chânt eu hystyried ochr yn ochr â grwpiau cynghori eraill ar yr un pryd.
Bydd y Grŵp yn parhau gydol oes y rhaglen Cymoedd Technoleg (hyd Awst 2028 yn fwy na thebyg).
O bryd i’w gilydd gallai swyddogion o Lywodraeth Cymru, arbenigwyr ar secondiad ac arbenigwyr ychwanegol fod yn bresennol ar y Grŵp Cynghori Strategol i roi cyngor neu gynnig sylwadau ar y datblygiadau gyda prosiectau eraill. Ni fyddant yn dod yn aelodau o’r grŵp.
Nid yw penodi i Grŵp Cynghori Strategol y Cymoedd Technegol yn dod o fewn cylch gwaith y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. Caiff penodiadau eu gwneud drwy ddefnyddio proses llai manwl sy’n ystyried Egwyddorion Nolan gan benodi ar sail teilyngdod yn dilyn proses agored a thryloyw.
Caiff penodiadau eu gwneud ar sail ceisiadau ysgrifenedig, CV a chyfweliad.
Cyfarfodydd
Cadeirydd
Caiff Cadeirydd ei benodi. Os nad yw’r Cadeirydd ar gael, bydd aelodau’r Grŵp yn cytuno ar ddewis arall dros dro ar gyfer y cyfarfod hwnnw.
Amledd y Cyfarfodydd
Rhagwelir y bydd y grŵp yn cyfarfod bob mis, gyda’r opsiwn o gyfarfodydd ychwanegol fel y bo angen. Ni ddylai’r ymrwymiad amser a ragwelir fod yn fwy na 18 diwrnod y flwyddyn.
Presenoldeb mewn Cyfarfodydd
Mae disgwyl i aelodau fynychu’r cyfarfodydd yn rheolaidd. Gellir terfynu penodiadau, yn ddi-rybudd, os na fydd modd bod yn bresennol am dri cyfarfod yn olynol heb gytuno ymlaen llaw â’r cadeirydd.
Yn ychwanegol i aelodau’r grŵp, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn mynd i’r cyfarfodydd yn rheolaidd: Prif Swyddog y Rhanbarthol – de, Pennaeth Strategaeth, Gweithrediadau a Chysylltiadau, Rheolwr y Rhaglen a’r ysgrifenyddiaeth.
Ni fydd eilyddion yn cael eu derbyn yn y cyfarfod.
Bydd y cyfarfodydd ar gau i’r cyhoedd fel arfer. Gallai arsylwyr gael eu gwahodd ar ôl i’r Cadeirydd ystyried y cais.
Cworwm
Mae’n rhaid cael cworwm ar gyfer cyfarfod. Bydd cworwm pan fydd mwy na 50% yr aelodau yn bresennol.
Ffyrdd o Weithio / Ysgrifenyddiaeth
Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol fel arfer. Os bydd angen cyfarfodydd wyneb yn wyneb, gall ystafell gael ei defnyddio yn y Swyddfa Gyffredinol yng Nglyn Ebwy. Bydd y grŵp yn cael ei arwain gan raglen waith a benderfynir gan Grŵp Nawdd y Cymoedd Technoleg gan adlewyrchu mewnbwn gan aelodau'r Grŵp Cynghori.
I’w gwneud yn haws i fod yn agored, rhaid trin cynnwys dogfennau a thrafodaethau cyfarfodydd y grŵp yn gyfrinachol. Dylai dogfennau ac unrhyw wybodaeth arall a ddarperir i'r grŵp barhau’n gyfrinachol ac ni ddylid eu datgelu oni bai fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw i ryddhau'r wybodaeth.
Gall dogfennau, gan gynnwys nodiadau cyfarfodydd, fod yn destun ceisiadau mynediad at wybodaeth a wneir o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Os derbynnir ceisiadau o'r fath, dilynir gweithdrefnau Rhyddid Gwybodaeth safonol Llywodraeth Cymru.
Amseru
Bydd y grŵp yn bodoli rhwng Ebrill 2020 ac Awst 2028. Caiff yr aelodaeth ei adolygu a’i adnewyddu bob tair mlynedd.
Caiff Llywodraeth Cymru roi mis o rybudd o ddiddymu’r grŵp ar unrhyw adeg.
Gall y naill barti neu’r llall derfynu penodiadau i'r grŵp drwy roi mis o rybudd yn ysgrifenedig i'r cadeirydd ac anfon copi at Uwch Swyddog Cyfrifol Grŵp Nawdd y Cymoedd Technoleg. Byddai’r Cadeirydd hefyd yn rhoi mis o rybudd yn ysgrifenedig i Brif Swyddog Rhanbarthol – y de.
Pleidleisio
Mae gan aelodau’r Grŵp un bleidlais a rhaid iddynt wneud eu gorau bob tro i sicrhau consensws ynghylch penderfyniadau. Os na fydd consensws y Cadeirydd fydd â’r bleidlais fwrw.
Ymwadiad
Mae Llywodraeth Cymru’n cadw’r hawl i beidio â gweithredu ynghylch unrhyw argymhelliad a wneir gan y Grŵp os yw gwneud hynny’n cael ei ystyried yn amhriodol.