Neidio i'r prif gynnwy

Ymunwch â ni i lunio system addysg sy'n gwasanaethu pob dysgwr yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth i ni gyflawni ein rhaglen uchelgeisiol i hybu safonau addysgol ledled Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu Grŵp Cynghori Penaethiaid Gweinidogol (y Grŵp ) newydd fel conglfaen i'n strategaeth gwella ysgolion. Daw'r fenter hon ar adeg dyngedfennol pan fyddwn yn blaenoriaethu llythrennedd a rhifedd, cynyddu presenoldeb a chyrhaeddiad, a sicrhau bod ein diwygiadau addysgol yn cael effaith ystyrlon.

Fel aelod, byddwch yn:

  • cael cyfle i ymgysylltu ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  • cefnogi gwaith y Tîm Gwella Addysg newydd
  • arwain trafodaethau rhanbarthol a chadeirio fforymau cenedlaethol
  • ymgysylltu mewn ymchwil a datblygu polisi strategol

Mae'r pecyn gwybodaeth yn cynnwys y canlynol i'ch helpu gyda'ch cais:

  • pwrpas y Grŵp a gwybodaeth, gan gynnwys disgrifiad rôl a manyleb y person
  • sut i wneud cais
  • y broses ddethol

Sut i wneud cais

I ymgeisio i fod yn aelod o'r Grŵp, anfonwch y dogfennau canlynol i educationinwales@llyw.cymru:

  • datganiad personol, a ddylai fod rhwng 1200 a 1500 o eiriau, gan ddangos sut rydych chi'n bodloni pob un o'r meini prawf a nodir ym manyleb y person
  • CV gyda manylion byr eich swyddi cyfredol a mwyaf diweddar
  • ffurflen recriwtio wedi'i chwblhau sy'n casglu gwybodaeth sydd ei hangen ar Lywodraeth Cymru i brosesu eich cais, ac i sicrhau ei fod yn cael ei brosesu'n deg

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 hanner dydd, dydd Gwener 11 Ebrill 2025.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau eu hapwyntiad ym mis Mehefin 2025.