Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y Grŵp Cynghori Cymru ar Gregyn y Brenin a sut y bydd yn gweithio.

1. Diben

1.1. Diben Grŵp Cynghori Cymru ar Gregyn y Brenin (WKSAG) yw darparu cyngor ynghylch gweithredu Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn y Brenin ar gyfer Cymru a Lloegr. Y grŵp fydd y prif fforwm ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid a chydweithio i wella pysgodfa Cregyn y Brenin (y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel 'cregyn bylchog') ym Mharth Economaidd Neilltuedig Cymru.

1.2. Mae Gweinidogion Cymru yn uniongyrchol gyfrifol am reoli pysgodfeydd yng Nghymru, o dan ddeddfwriaeth berthnasol. Felly, mae rôl rhanddeiliaid wrth gyd-reoli ein pysgodfeydd yn un gynghorol yn hytrach na swyddogaeth gwneud penderfyniadau. Mae Gweinidogion Cymru yn gwerthfawrogi cydweithio a chyngor gan randdeiliaid yn fawr mewn prosesau gwneud penderfyniadau.

1.3. Bydd y grŵp yn blaenoriaethu, yn cynorthwyo ac yn rhoi cyngor mewn perthynas â chymryd y camau gweithredu yng Nghynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn y Brenin Bydd yn gwerthuso ac yn rhoi adborth ar effeithiolrwydd polisïau a chynlluniau sy'n ymwneud â rheoli pysgodfeydd cregyn bylchog yng Nghymru.

1.4. Bydd y grŵp yn cwrdd i fyny at chwe gwaith y flwyddyn.

1.5. Gan fod Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn y Brenin yn ymrwymiad ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, bydd WKSAG, drwy swyddogion, yn cydweithredu ar gamau gweithredu ar y cyd yn y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd ac yn monitro cynnydd gyda chymheiriaid DEFRA fel sy'n briodol.

1.6. Bydd WKSAG a grwpiau eraill sy'n benodol i bysgodfeydd yn llywio'r Grŵp Cynghori Gweinidogol strategol ar gyfer Pysgodfeydd Cymru (MAGWF) ac yn rhoi gwybod iddynt am gynnydd.

2. Llywodraethiant

2.1. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn trefnu cyfarfodydd ac yn cadeirio'r grŵp ar y dechrau, gan nodi cyfeiriad clir.

2.2. Bydd blaengynllun ar gyfer yr agenda yn nodi gwaith y grŵp ond bydd yn cadw elfen o hyblygrwydd i gynnwys materion sy'n codi.  

2.3. Bydd aelodaeth a chylch gorchwyl WKSAG yn cael eu hadolygu bob blwyddyn.
 

3. Aelodaeth

3.1. Dyma aelodau WKSAG:

Julian Bray - cadeirydd, Llywodraeth Cymru
Alun Mortimer - ysgrifenyddiaeth, Llywodraeth Cymru
Ella Brock - cynrychiolydd Seafish
Jim Evans - cynrychiolydd Cymdeithas Pysgotwyr Cymru
Stuart Jones - pysgotwr masnachol
Mark Roberts - pysgotwr masnachol
John Gorman - pysgotwr masnachol
Brett Garner - pysgotwr masnachol
Liam Jones - pysgotwr masnachol
Graham Green - pysgotwr masnachol
Christopher Chambers - pysgotwr masnachol
Natalie Hold - gwyddonydd annibynnol, Prifysgol Bangor
Colin Charman - cynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru
Nicola Cusack - cynrychiolydd y Gymdeithas Cadwraeth Forol / Cyswllt Amgylchedd Cymru
*Gwag* - prynwr / gwerthwr masnachol
Arweinwyr yr Is-adran Pysgodfeydd ar gyfer polisi, rheoli, gwyddoniaeth, gorfodi, data a TGCh fel sy’n briodol - Llywodraeth Cymru

3.2. Mae angen i Lywodraeth Cymru gynrychioli barn pobl eraill, nid barn rhai unigolion yn unig.

3.3. Mae'r cyfarfodydd yn cael eu cyfyngu i aelodau enwebedig ac nid ydynt yn agored i aelodau'r cyhoedd.

3.4. Os nad yw aelod yn gallu dod i gyfarfod, caiff gysylltu â'r ysgrifenyddiaeth i gynnig dirprwy i ddod yn ei le, yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Cadeirydd. Dylid anfon ymddiheuriadau a manylion cyswllt dirprwyon at yr ysgrifenyddiaeth.

3.5. Caiff y Cadeirydd wahodd unigolion o'r tu allan i'r grŵp i fynychu cyfarfodydd penodol i drafod neu i gyflwyno pwnc sy'n berthnasol i'r diwydiant pysgota am gregyn bylchog neu eitem benodol ar yr agenda.  

4. Ffyrdd o weithio

4.1. Bydd aelodau WKSAG yn cwrdd hyd at chwe gwaith y flwyddyn ar ddyddiadau a fydd yn cael eu pennu a'u cyhoeddi ymlaen llaw. O bryd i'w gilydd efallai y bydd angen cynnal cyfarfodydd arbennig o'r Grŵp ac os felly rhoddir o leiaf bum diwrnod gwaith o rybudd i aelodau.

4.2. Er mwyn arbed amser a chaniatáu hyblygrwydd, cynhelir y rhan fwyaf o'r cyfarfodydd yn rhithwir gan ddefnyddio Microsoft Teams neu system debyg. Bydd Llywodraeth Cymru yn trefnu cyfarfodydd ac yn rhoi manylion a chyfarwyddiadau ymuno i'r aelodau.

4.3. Fel arfer, bydd agendâu yn cael eu cyhoeddi drwy e-bost bum diwrnod gwaith cyn cyfarfodydd. Bydd unrhyw bapurau'n cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl er mwyn caniatáu i aelodau eu hystyried yn briodol.

4.4. Disgwylir i aelodau ofyn am farn y rhai y maent yn eu cynrychioli. Ni ddylid anfon papurau at unrhyw un y tu allan i'w sefydliadau heb ganiatâd ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru. Dylai unrhyw wybodaeth sy'n cael ei rhannu hefyd gadw at ddibenion diogelu data.

5. Ysgrifenyddiaeth

5.1. Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn cael ei darparu gan Is-adran Pysgodfeydd Llywodraeth Cymru, a fydd yn gweithredu fel pwynt canolog ar gyfer unrhyw gyfathrebu.
 
5.2. Bydd cofnodion ar ffurf 'camau gweithredu' yn cael eu gwneud o bob cyfarfod a'u rhannu ag aelodau i'w cymeradwyo. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at yr Ysgrifenyddiaeth.

5.3. Bydd yr holl bapurau'n cael eu cyhoeddi ar dudalennau gwe Pysgodfeydd Cregyn Bylchog unwaith y bydd y cofnodion wedi'u cymeradwyo.