Cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl y Grŵp Cynghori ar y Cynllun Gweithredu LHDTC+.
Cynnwys
Cefndir
O'r Cynllun Gweithredu LHDTC+ (t.19):
“Caiff y Panel Arbenigwyr LHDTC+, a roddodd gymorth amhrisiadwy inni wrth lunio’r cynllun hwn, ei adnewyddu a’i ffurfioli’n Grŵp Cynghori parhaus a fydd yn parhau i roi cyngor a dirnadaeth er mwyn helpu i roi’r cynllun ar waith, gan ganolbwyntio ar anghenion cymunedau LHDTC+ yng Nghymru”.
Diben
Bydd y Panel anstatudol yn cynghori ar gamau arfaethedig yn y Cynllun Gweithredu LHDTC+.
Mae oes benodol i'r Grŵp (tan ddiwedd tymor presennol y Senedd neu fis Mawrth 2026), a'i brif allbwn fydd argymhellion i Weinidogion a swyddogion polisi i lywio dull Llywodraeth Cymru o roi'r Cynllun Gweithredu ar waith.
Gan gydnabod natur ymgynghorol y grŵp, bydd Gweinidogion Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ystyried argymhellion y Grŵp yn ofalus.
Aelodau
Bydd y Panel yn cynnwys unigolion, tua 15 i 20 o aelodau, a fydd yn cael eu gwahodd oherwydd eu harbenigedd a/neu brofiad o bolisi LHDTC+.
Bydd aelodau'r cyn Banel Arbenigol yn gallu nodi diddordeb mewn gwasanaethu ar y Panel newydd, a bydd lleisiau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg hefyd yn cael cyfle i gael eu hystyried ar gyfer aelodaeth o'r Panel newydd.
Bydd y penderfyniadau wrth ddewis aelodau newydd ar gyfer y panel yn adlewyrchu'r grwpiau amrywiol o fewn cymunedau LHDTQ+, amrywiaeth o ran oedran, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol a rhywedd. Dylai gynnwys grwpiau sydd heb eu cynrychioli'n ddigonol yn y gorffennol, fel y nodwyd gan ymatebion i'r ymgynghoriad. Bydd aelodau ychwanegol yn gallu cael eu hystyried drwy wneud cais yn datgan diddordeb. Gwneir penderfyniadau ar aelodaeth y grŵp gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.
Mae'r terfyn tymor ar gyfer y Panel hwn ac Aelodaeth ohono yr un fath â diwedd tymor presennol y Senedd neu o fis Rhagfyr 2023 tan fis Mawrth 2026 (tua 28 mis).
Bydd y Panel Cynghori yn cael ei gadeirio gan uwch swyddog o Lywodraeth Cymru. Bydd Ysgrifenyddiaeth yn cael ei darparu gan swyddogion polisi LHDTQ+.
Gellir gwahodd siaradwyr gwadd i ymuno â chyfarfodydd penodol ar sail ad hoc, yn ôl y gofyn.
Dull gweithredu fesul cam
Er mwyn ei gwneud yn bosibl i amrywiaeth o leisiau, profiadau a chefndiroedd newydd lywio gwaith y Gweinidog yn y maes polisi hwn, ac i gadw'r arbenigedd presennol, mae dull gweithredu fesul cam wedi'i fabwysiadu.
Cam 1 (Mis Ionawr 2024)
Gwahoddwyd unigolion, eiriolwyr a chynrychiolwyr newydd o sefydliadau LHDTC+ yng Nghymru, nad oeddent yn rhan o'r cyn Banel Arbenigol yn 2021, i ymuno â chyfarfod cychwynnol. Bydd hyn yn helpu i ffurfio craidd y Grŵp Cynghori ac yn galluogi unigolion i ymgyfarwyddo â strwythur a threfniadaeth Llywodraeth Cymru.
Cam 2 (Mai/Mehefin 2024)
Bydd opsiynau'n cael eu harchwilio o ran cadw arbenigedd presennol y cyn Banel Arbenigol ac i barhau i gydweithio tan ddiwedd cylch gwaith y Grŵp Cynghori Bydd hyn yn cymryd newidiadau posibl i ystyriaeth o ran blaenoriaethau, rolau neu gapasiti cyn-aelodau'r Panel Arbenigol.
Gweithrediad y grŵp ac adrodd
Bydd y Grŵp yn cyfarfod bob 4 mis dros gyfnod o tua 28 mis, am gyfanswm o 7 cyfarfod, i drafod materion, a darparu cyngor ac argymhellion. Cynhelir cyfarfodydd o bell yn bennaf ond bydd cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn cael ei ystyried lle bo angen. Bydd nodiadau ar ffurf cofnodion sy'n canolbwyntio ar gamau gweithredu, er na fydd cyfraniadau'n cael eu priodoli i unigolion penodol.
Amgylchedd gwaith
Disgwylir i bob aelod ymddwyn â pharch tuag at ei gilydd, at Swyddogion Llywodraeth Cymru ac unrhyw rai eraill sy'n darparu mewnbwn neu dystiolaeth.
Gall trafod Polisi a chyngor LHDTC+ yn y maes hwn fod yn drawmatig, yn enwedig i rai sydd wedi goroesi camdriniaeth a/neu wedi dioddef aflonyddu neu droseddau casineb. Bydd angen i bob aelod ddilyn mesurau diogelu os byddant yn ymgysylltu'n uniongyrchol â goroeswyr. Bydd ymwadiad yn cael ei ddarllen yn ôl y gofyn yn ymwneud â sensitifrwydd y maes, rhybuddion ynghylch materion allai beri gofid, a pharch. Bydd hyd y cyfarfodydd yn hyblyg er mwyn gadael i sgyrsiau a rhannu gwybodaeth lifo pan fo angen, gydag agendâu wedi'u cynllunio a'u cytuno yn unol â hynny.
Y weithdrefn gwynion
Dylid cyfeirio unrhyw gŵyn nad yw aelod yn bodloni'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan yr holl aelodau at y cadeirydd neu swyddogion polisi LHDTQ+, a fydd yn trafod y mater gyda'r cadeirydd i ddechrau.
Os na ellir datrys cwyn yn gyflym, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfryngu i sicrhau y gall y grŵp barhau i weithredu'n effeithiol.
Os na ellir dod i benderfyniad drwy gyfryngu, gall swyddogion wneud argymhellion i'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol a all ddiarddel aelodau o'r grŵp o bosibl yn y pen draw.
Mae pob penderfyniad a wneir gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn hyn o beth yn derfynol.