Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl y Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol.

Y cefndir

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad clir i hybu ac amddiffyn hawliau dynol. Rhaid i bopeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gydweddu â rhwymedigaethau rhyngwladol, fel sydd wedi'i amlinellu yn adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. 

Mae adran 81 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru weithredu'n gyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau dynol, fel sydd wedi'i adlewyrchu mewn cyfraith ddomestig gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998. 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru fynd ati i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r nod llesiant 'Cymru sy'n fwy cyfartal' yn benodol yn ei gwneud yn ofynnol yn benodol i Lywodraeth Cymru alluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).

I ddangos a chadarnhau ei ymrwymiad i'r egwyddorion hyn, mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag amrywiaeth o waith i ystyried opsiynau er mwyn diogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

Diben

Bydd y Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol yn rhoi cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru ar ddatblygu a chyflawni camau gweithredu i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

Egwyddorion

Bydd y Grŵp: 

  • yn ymgymryd â'i waith mewn modd democrataidd, tryloyw a theg, gan alluogi i bawb fynegi eu barn a'u syniadau
  • yn rhannu datblygiadau a chanlyniadau gyda chydweithwyr yn eu sefydliadau perthnasol
  • yn rhannu ei gwaith gyda fforymau perthnasol eraill a phartïon â diddordeb, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) fforymau cydraddoldeb Llywodraeth Cymru a grwpiau hawliau dynol cymdeithas ddinesig
  • yn darparu her a rhannu'r hyn a ddysgwyd
  • yn cyfrannu'n gadarnhaol ac yn adeiladol i herio datblygu, cyflawni a goruchwylio datblygiad polisi
  • yn darparu cyngor a chymorth i Weinidogion Cymru i gefnogi datblygu, dylunio, gweithredu a chyfathrebu polisi, deddfwriaeth a chamau gweithredu/ymyriadau Llywodraeth Cymru
  • yn mabwysiadu dull croestoriadol i gryfhau ansawdd y gwaith o ddatblygu polisi, dylunio, gweithredu a gweithredu/ymyriadau a allai ddeillio o argymhellion i gyflawni'r canlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol gorau i bobl Cymru

Swyddogaethau a chyfrifoldebau

  • ymgysylltu â chydweithwyr/aelodau a chyflwyno eu barn i drafodaethau
  • cyfathrebu gwaith y grŵp gyda chydweithwyr/aelodau neu randdeiliaid ehangach
  • codi ymwybyddiaeth o faterion a rhoi cyngor ac arweiniad i gefnogi gwaith polisi

Cadeirydd ac aelodaeth

Bydd y Grŵp yn cael ei gadeirio gan Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip.

Bydd aelodaeth o'r Grŵp yn cael ei adolygu i sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn adlewyrchu amrywiaeth y gwaith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a diogelu hawliau dynol yng Nghymru.

Mae'r rhestr o aelodau i'w gweld isod:

  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru
  • Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru
  • Plant yng Nghymru
  • Anabledd Cymru
  • Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
  • Cytun
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  • Prifysgol Caerdydd
  • Arweinydd Diogelu y Bwrdd Iechyd
  • Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  • Rhwydwaith Cydraddoldeb il Gogledd Cymru
  • Stonewall Cymru
  • TUC
  • Prifysgol Caerdydd
  • Women Connect First
  • BAWSO
  • Oxfam Cymru
  • Prifysgol Abertawe
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru/Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd
  • Tai Pawb
  • Aelod annibynnol
  • Aelod annibynnol

Efallai y bydd y Grŵp yn dymuno gwahodd cynrychiolwyr eraill i ymuno â nhw ar sail ad hoc neu am gyfnod cyfyngedig o amser mewn perthynas â maes arbenigedd a diddordeb penodol. Pan nad yw cynrychiolwyr enwebedig yn gallu bod yn bresennol, mae ganddyn nhw'r hawl i awgrymu eilyddion trwy roi gwybod i'r Ysgrifenyddiaeth. 

Mae'r Aelodau'n parhau i fod yn rhydd i fynegi barn sy'n wahanol i'r casgliadau y mae'r Grŵp yn eu cyrraedd ar y cyd, ac maen nhw'n cael eu hannog i gyfrannu'n weithredol at drafodaeth ehangach mewn perthynas â gwireddu hawliau dynol yng Nghymru, yn y DU ac ar lefel ryngwladol. Yn yr un modd, mae sefydliadau sy'n cael eu cynrychioli ar y Grŵp yn rhydd i fabwysiadu safbwynt sy'n wahanol i un y Grŵp ac i gyfrannu at ddadl ehangach. Er mwyn osgoi amheuaeth, nid yw cymryd rhan yng ngwaith y Grŵp yn rhagfarnu annibyniaeth statudol y Sefydliadau Hawliau Dynol Cenedlaethol a'u cydymffurfiaeth â gofynion Egwyddorion Paris.

Cymorth ysgrifenyddiaeth

Bydd cymorth ysgrifenyddiaeth yn cael ei ddarparu gan y Tîm Polisi Hawliau Dynol yn yr Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a fydd yn gyfrifol am y canlynol:

  • trefniadau'r cyfarfod gan sicrhau cynrychiolaeth briodol a darparu ar gyfer dewisiadau personol pan fo hynny'n bosibl (cynhadledd fideo, er enghraifft)
  • cynhyrchu a chylchredeg agenda ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill mewn digon o amser cyn pob cyfarfod
  • trefnu cyflwyniadau allanol yn ôl yr angen (prosiectau, rhaglenni a meysydd polisi eraill)
  • cymryd cofnodion o bob cyfarfod, cofnodi'r holl gytundebau y daethpwyd iddynt a chamau gweithredu gofynnol
  • chadw'r holl ddogfennau sy'n ymwneud â'r cyfarfodydd yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru

Pa mor aml y cynhelir y cyfarfodydd

Bydd y Grŵp yn cyfarfod o leiaf 4 gwaith y flwyddyn (bob chwarter fel arfer). Gall cyfarfodydd ad hoc ychwanegol gael eu trefnu gan yr Ysgrifenyddiaeth i fynd i'r afael â meysydd penodol o waith y Grŵp. Bydd y Gweinidogion yn mynychu ac yn cadeirio prif gyfarfodydd, gyda Swyddogion Llywodraeth Cymru yn arwain pob cyfarfod ad-hoc ar eu rhan.