Cylch gorchwyl
Crynodeb o ddiben y Grŵp Cynghori ar Gregyn Moch Cymru a sut y bydd yn gweithio.
Cynnwys
1. Diben
1.1. Diben Grŵp Cynghori ar Gregyn Moch Cymru (WWAG) yw helpu Llywodraeth Cymru i wella a datblygu pysgodfeydd cregyn moch drwy gyd-reoli. Mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol yn uniongyrchol o dan y ddeddfwriaeth berthnasol am reoli pysgodfeydd yng Nghymru. Mae’r rôl y mae rhanddeiliaid yn ei chwarae o ran cyd-reoli ein pysgodfeydd yn un gynghori yn hytrach nag un lle mae angen iddynt wneud penderfyniadau. Mae’r swyddogaeth gynghori yn hanfodol i sicrhau bod safbwyntiau rhanddeiliaid yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau.
1.2. Bydd y grŵp yn gwerthuso a darparu adborth ar effeithiolrwydd y polisïau a’r cynlluniau sy’n ymwneud â rheoli pysgodfeydd cregyn moch yng Nghymru, gan gynnwys y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn Moch unwaith y caiff ei lunio.
1.3. Bydd y grŵp yn dod ynghyd o leiaf ddwywaith y flwyddyn:
- Mehefin – adolygu perfformiad pysgodfeydd yn ystod y cyfnod trwydded blaenorol a chynnydd dros chwarter cyntaf y cyfnod trwydded presennol.
- Tachwedd – adolygu canfyddiadau arolygon gwyddonol yn ystod y cyfnod trwydded presennol, a chynigion ar gyfer y cyfnod trwydded canlynol: y Terfyn Dalfa Blynyddol (ACL), y Terfyn Dalfa Misol (MCL) cychwynnol, ffi’r drwydded ac unrhyw newidiadau i amodau’r drwydded.
1.4. Bydd WWAG a grwpiau pysgodfeydd penodol eraill yn bwydo’r Grŵp Cynghori Gweinidogol strategol ar gyfer Pysgodfeydd Cymru (MAGWF) ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am gynnydd er nad oes atebolrwydd uniongyrchol.
2. Trefniadau Llywodraethu
2.1. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn trefnu cyfarfodydd ac yn cadeirio’r grŵp, gan nodi cyfeiriad clir.
2.2. Bydd blaengynllun ar gyfer yr agenda yn nodi gwaith y grŵp ond bydd yn cadw elfen o hyblygrwydd i gynnwys materion sy’n codi.
2.3. Bydd aelodau a cylch gorchwyl WWAG yn cael eu hadolygu ym mis Tachwedd bob blwyddyn.
3. Aelodaeth
3.1. Ymhlith aelodau’r grŵp fydd:
- 6 physgotwr cregyn moch sy’n cynrychioli gweithrediadau ar raddfa fawr a bach ar draws Cymru
- 2 brynwr/prosesydd cregyn moch
- 1 gwyddonydd pysgodfeydd
- 3 swyddog pysgodfeydd Llywodraeth Cymru (Rheoli, Gorfodi a Gwyddoniaeth)
- 1 aelod o Gymdeithas Pysgotwyr Cymru
- 1 cynrychiolydd o Cyswllt Amgylchedd Cymru
- 1 cynrychiolydd o Cyfoeth Naturiol Cymru
3.2. Mae angen aelodau grŵp ar Lywodraeth Cymru i gynrychioli safbwyntiau eraill, nid yn unig barn bersonol.
3.3. Caiff cyfarfodydd eu cyfyngu i aelodau enwebedig ac ni fyddant yn agored i’r cyhoedd.
3.4. Drwy wahoddiad gan y Cadeirydd, gellir gwahodd unigolion o'r tu allan i'r grŵp i fynychu cyfarfodydd penodol i gynnal trafodaeth neu roi cyflwyniad ar bwnc sy'n berthnasol i'r diwydiant pysgota cregyn moch neu eitem benodol ar yr agenda.
4. Ffyrdd o weithio
4.1. Bydd aelodau WWAG yn cwrdd ym mis Mehefin a mis Tachwedd ar ddyddiadau wedi'u pennu ymlaen llaw, a rhoddir gwybod am y dyddiadau hyn ymlaen llaw. O bryd i'w gilydd mae'n bosib y bydd gofyn cynnal cyfarfodydd eithriadol o'r Grŵp lle bydd aelodau'n cael o leiaf pum diwrnod gwaith o rybudd.
4.2. Er mwyn arbed amser a chaniatáu hyblygrwydd, cynhelir cyfarfodydd yn rhithiol gan ddefnyddio Microsoft Teams neu debyg. Bydd Llywodraeth Cymru yn trefnu cyfarfodydd ac yn rhoi manylion i’r aelodau a chyfarwyddiadau ymuno.
4.3. Bydd agendâu fel arfer yn cael eu rhannu drwy e-bost deg diwrnod gwaith cyn y cyfarfodydd. Caiff unrhyw bapurau eu darparu ar y cyfle cyntaf i ganiatáu i'r aelodau eu hystyried yn briodol.
4.4. Disgwylir i'r aelodau ofyn am farn y rhai maen nhw'n eu cynrychioli. Ni ddylid anfon papurau i unrhyw un y tu allan i'w sefydliadau heb ganiatâd ymlaen llaw Llywodraeth Cymru. Os oes angen rhannu gwybodaeth, dylid gwneud hynny drwy gadw at ofynion diogelu data.
5. Ysgrifenyddiaeth
5.1. Is-adran y Môr a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru fydd yn darparu’r ysgrifenyddiaeth ac yn gweithredu fel pwynt canolog ar gyfer pob gohebiaeth.
5.2. Bydd cofnodion ar ffurf camau gweithredu yn cael eu nodi ym mhob cyfarfod ac yn cael eu rhannu gyda’r aelodau i’w cymeradwyo ganddynt. Dylid cyfeirio pob ymholiad at yr Ysgrifenyddiaeth.
5.3. Cyhoeddir pob papur ar wefannau pysgodfeydd cregyn moch Is-adran y Môr a Physgodfeydd ar ôl cymeradwyo’r cofnodion.