Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau Gweithredu

Cam gweithredu

Cyfrifol
Yr Ysgrifenyddiaeth i ofyn am gylch gorchwyl y CECs presennol Ysgrifenyddiaeth 
Enghreifftiau lle mae allgáu digidol wedi bod yn broblem i'w hanfon at yr Ysgrifenyddiaeth. Pawb
Papur ar Allgáu Digidol i'w gyhoeddi gyda’r cofnodion  Ysgrifenyddiaeth 
Gofynnwyd i bob aelod rannu enghreifftiau gyda Rhian Davies i ystyried marwolaethau sy'n gysylltiedig â Covid yn achos pobl anabl er mwyn helpu i gasglu tystiolaeth.  Pawb

Yn bresennol

Heather Payne ((Cadeirydd), Aled Roberts, Aled Edwards, Martyn Jones, Alison Mawhinney, Helena Herklots, Kevin Francis, Alison Parken, Ben Thomas, Rhian Davies, Viv Harpwood, Shavanah Taj, Carol Wardman 

Nodyn o’r cyfarfod 

  1.  Croeso, Ymddiheuriadau a Chyflwyniadau   
     
    Gwnaeth y Cadeirydd gyflwyniadau a nododd ymddiheuriada.

  2. Cofnodion blaenorol 
     
    Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau'r grŵp roi unrhyw sylwadau/diwygiadau ynghylch nodyn y cyfarfod diwethaf i'r Ysgrifenyddiaeth. 
     
    Camau gweithredu 
     
    Pob eitem ar yr agenda.  Darparwyd diweddariad byr ar waith yn ymwneud ag adroddiad economaiddgymdeithasol BAME, yn dweud bod llinell ffôn wedi cael ei lansio i helpu i ddarparu man cyswllt cyntaf hygyrch am wybodaeth am amrywiaeth o sefydliadau 
    arbenigol, prif ffrwd a chymunedol, gyda'r rhai sy'n delio â galwadau yn siarad amrywiaeth o ieithoedd cymunedol.
     
  3. Pwyllgorau Moeseg Glinigol (CECs) 
     
    Dywedodd y Cadeirydd fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu sefydlu dull gweithredu ar gyfer Cymru gyfan. Mae cyfarfod dwy awr wedi'i drefnu ar gyfer 23 Hydref ag ystod eang o gydweithwyr. Diben y cyfarfod yw ystyried cwestiynau moesegol sy’n gysylltiedig â COVID-19.  
     
    Bydd Ben Thomas yn siarad yn y cyfarfod i flaenoriaethu materion cyfredol a'r cynllun ar gyfer y dyfodol.  
      
    Cam gweithredu: Yr Ysgrifenyddiaeth i ofyn am gylch gorchwyl y CECs presennol 
     
    Holodd aelodau CMEAG am y rôl y gallent ei chwarae a sut y gallent gyfathrebu â'r CECs presennol. Gofynnwyd i'r Aelodau hefyd a oeddent yn gweld budd mewn grŵp cenedlaethol yn y tymor hwy. Un mater posibl yw cysoni gwahanol safbwyntiau o wahanol feysydd arbenigedd. Gallai'r gwrthdaro mewn dealltwriaeth dueddu i danseilio tegwch a chysondeb. 
     
    Un peth sy'n gyffredin ar lefel genedlaethol a lleol yw'r dull o ymgorffori'r defnydd o fframwaith moesegol mewn penderfyniadau mewn amgylchiadau lle nad yw'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn ymwybodol bod problem. Barnwyd bod gwahanol safbwyntiau'n hanfodol.  
     
    Mae cynsail hanesyddol i bwyllgorau drin pobl anabl fel rhai sy'n agored i niwed, yn hytrach na phartneriaid cyfartal a hoffai'r aelodau sicrhau bod hyn yn cael ei herio. 
     
    Y Cadeirydd a'r Ysgrifenyddiaeth i ddrafftio agenda a’i hanfon allan.  
     
  4. Allgáu Digidol 
     
    Rhoddodd Alison Mahwinney drosolwg o faterion yn ymwneud ag allgáu digidol a’r safbwynt hawliau dynol yn ymwneud â phobl hŷn a grwpiau eraill. Mae'r meysydd hyn sy'n peri pryder yn cynnwys cael gafael ar wybodaeth, diffyg dulliau o ymchwilio a bod yn ynysig. Mae'r anallu i gael gafael ar wasanaethau yn dod o dan Ryddid Mynegiant a'r hawl i gael gwybodaeth gan fod gan y cyhoedd yr hawl 
    i gael gwybod am faterion budd y cyhoedd. Nid gwybodaeth ar ei phen ei hun yw'r rhan bwysig, ond sut y mae’r wybodaeth yn cael ei chyfleu. 
     
    Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael i herio a yw gwybodaeth yn cael ei darparu i grwpiau perthnasol o’r boblogaeth, gan gynnwys adolygiad barnwrol. Mae pwyllgorau'r Cenhedloedd Unedig yn adolygu mecanweithiau o bryd i'w gilydd lle mae gwledydd yn darparu'r wybodaeth hon a disgwylir i'r DU gael ei hadolygu'r flwyddyn nesaf.  Gellir defnyddio unrhyw argymhellion neu ddulliau eiriolaeth o'r adolygiadau hyn fel sbardun i ddatblygu newid. 
     
    Dywedodd Martyn Jones y byddai'n falch o fynd â'r papur hwn i'r tîm Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cytuno ar bwysigrwydd sicrhau bod gwybodaeth gywir a hygyrch ar gael ac fe godwyd  cwestiynau ynghylch polisi ymgysylltu presennol Llywodraeth Cymru ynglŷn â hyn.  
     
     
    Amlinellwyd bod sgamiau a throseddau ar-lein hefyd yn bryder ac roedd  cwestiynau mawr ynghylch a yw asesiadau effaith wedi bod yn ystyried materion fel hyn.  
     
    Mater arall yw hygyrchedd cyfathrebu digidol. Nid yw llawer o'r negeseuon iechyd y cyhoedd dros y misoedd diwethaf wedi bod ar gael i bobl anabl e.e. BSL, Hawdd ei Ddarllen, Disgrifiadau delweddau, etc. 
     
    Mae angen gwaith i gysylltu'r gwahanol ddimensiynau anghydraddoldeb ag allgáu digidol. Er enghraifft, tebygrwydd enfawr o ran materion sy'n effeithio ar bobl BAME. Mae materion tebyg yn wynebu'r Gymraeg ar-lein, wrth i rwystrau ymarferol godi oherwydd amserlenni. Mae angen i Iechyd y Cyhoedd ddarparu gwybodaeth mewn modd amserol a gall diffyg gwybodaeth briodol achosi risg sylweddol.  
     
    Mae'r grŵp yn teimlo y dylid ystyried hyn yn faes hollbwysig wrth i bobl hŷn ddod i dderbyn eu bod wedi'u hallgáu. Cwestiynau ynghylch pwy sy'n gyfrifol mewn cyrff cyhoeddus a'r Wladwriaeth i sicrhau bod pobl yn cael yr wybodaeth y mae arnynt ei hangen.  
      
    Cam gweithredu – Anfonwch unrhyw enghreifftiau lle mae allgáu digidol wedi bod yn broblem at yr Ysgrifenyddiaeth. 
     
    Cam gweithredu - Papur cysylltiedig i'w gyhoeddi.  
     
  5. Marwolaethau ymhlith pobl anabl oherwydd COVID-19
     
    Dywedodd Rhian Davies fod grŵp llywio wedi'i sefydlu i ddarparu adroddiad ar nifer anghymesur o farwolaethau i bobl ag anableddau. Y nod presennol yw cyhoeddi erbyn y Nadolig. Mae ONS wedi adrodd ar nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â'r Covid ar gyfer pobl anabl rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2020. Diffiniad o bobl anabl yn seiliedig ar gyfrifiad 2011. Yn ôl ONS, po fwyaf difrifol roedd y cyflwr, mwyaf tebygol yn y byd ydoedd y gallai arwain at farwolaeth. 
     
    Mae'r canfyddiadau'n dangos bod pobl anabl yn cyfrif am 6 o bob 10 o farwolaethau yn ystod y cyfnod hwn yn y DU, ac yng Nghymru mae'r nifer hwn yn 68%. Cofnodwyd nifer uwch o farwolaethau ymhlith menywod anabl. Ym mis Medi 2020 cyhoeddodd Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol adroddiad ar effaith hawliau dynol a thorri'r Hawl i Fyw (Saesneg yn unig) gan feirniadu'r broses benderfynu ar gyfer derbyn pobl i'r ysbyty a gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl a phobl hŷn.   
     
    Yn ogystal, teimlwyd bod y sylw yn y cyfryngau wedi bod yn siomedig, gyda'r derminoleg yn cynnwys disgwyliad i bobl anabl fod yn fwy tebygol o farw.  
     
    Er mwyn codi'r rhain fel mater amlwg, mae angen metrigau a monitro mewn amser real er mwyn deall y materion a wynebir. 
      
    Ystyriwyd nifer yr achosion o dlodi a marwolaethau’n gysylltiedig â Covid. Er bod anabledd yn cael ei ystyried yn ffactor arwyddocaol, mae anabledd yn dal i fod yn ganlyniad uwch ar gyfer marwolaeth, ond mae'n bosibl bod ffactorau ehangach nag anabledd yn unig. Yn ôl y penawdau diweddar mae cymunedau difreintiedig ddwywaith yn fwy tebygol o gontractio Covid - angen newid y pwyslais - mae difreintiedig yn cynnwys yn anghymesur menywod, pobl anabl, BAME a phobl ifanc. 
     
    Awgrymwyd y gellid rhannu'r wybodaeth gryno hon â byrddau iechyd – yn enwedig gan fod angen rhoi sylw i dystiolaeth am bolisi derbyn yn awr. 
     
    Gweithredu – gofynnwyd i bob aelod rannu enghreifftiau gyda Rhian Davies i helpu i gasglu tystiolaeth. 
      
    Cam gweithredu – tynnu sylw’r  GIG  at hyn a sicrhau bod mesur anableddau yn eitem ddata sylfaenol ar gyfer unrhyw gyswllt.  

     
  6. Unrhyw fater arall 

    Dim   
     
    Cyfarfod nesaf Mewn pythefnos yn ôl y bwriad (22 Hydref).