Neidio i'r prif gynnwy

Camau

Cam gweithredu Cyfrifoldeb
1. Rhagor o sylwadau ynglŷn â phwyllgorau moeseg lleol i gael eu cyflwyno i’r Cadeirydd Pawb
2. Yr aelodau i dynnu sylw at ddimensiwn moesegol gofal iechyd. Yr Athro Harpwood i ddrafftio papur. Pawb / Yr Athro Harpwood
3. Y Comisiynydd Pobl Hŷn i weithio gydag eraill ar feysydd sy’n destun pryder ynglŷn â llacio’r cyfyngiadau symud. Comisiynydd Pobl Hŷn / pawb
4. Gwahodd y pwyllgorau moeseg lleol sy’n bodoli ar hyn o bryd i gyfarfod a thrafod materion perthnasol Ysgrifenyddiaeth
5. Cylch gorchwyl y Grŵp Cynghorol BAME i gael ei rannu. Rhestr o grwpiau eraill i gael ei rhannu hefyd. Ysgrifenyddiaeth

1. Croeso, ymddiheuriadau a chyflwyniadau

Gwnaeth y Cadeirydd y cyflwyniadau, gan nodi’r ymddiheuriadau

2. Camau gweithredu a chofnodion blaenorol

Cwblhawyd y camau gweithredu a chytunwyd ar y cofnodion.

Pwynt o drefn – Mae nifer o broblemau cyfieithu wedi codi gyda’r fersiwn hawdd ei darllen o’r DNACPR. Idris i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried y posibiliadau o ran aralleirio.

Tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith iddi godi’r mater y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod fformatau hawdd eu defnyddio ar gael i adrannau perthnasol eraill.

3. Pwyllgorau Moeseg Glinigol – cylch gorchwyl drafft

Yn sgil yr ymchwil a wnaed i wahanol ddulliau gweithredu pwyllgorau moeseg glinigol mewn gwahanol rannau o’r byd, cytunwyd mai Rhwydwaith Moeseg Glinigol y DU (UK Clinical Ethics Network (UKCEN)) sy’n darparu’r glasbrint mwyaf addas. Roedd y grŵp yn cytuno bod creu’r pwyllgorau hyn yn gyfle da i dynnu sylw at werthoedd Cymru, yn ogystal â’r dulliau gweithredu cyfreithiol a meddygol gofynnol.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwahodd byrddau iechyd i drefnu pwyllgorau moeseg glinigol lleol o fewn dau fis. Bydd y pwyllgorau hyn yn gweithio gydag adrannau perthnasol prifysgolion y mae ganddynt gysylltiadau â nhw yn ogystal â byrddau iechyd cyfagos.

Dylid enwebu unigolion lleyg, gan eu gweld fel partneriaid cyfartal sy’n rhoi safbwyntiau cymunedau ehangach. Codwyd pryderon ynglŷn â’r effeithiau sylweddol ar bobl anabl, nad ydynt o reidrwydd yn cael eu huwchgyfeirio at y lefelau priodol. Dywedodd y grŵp mai herio yw’r ffordd orau o drechu rhagdybiaethau a rhagfarn ddiarwybod. Mae’n hollbwysig bod pob bywyd yr un mor werthfawr â’i gilydd, a bod cyfraniad pawb hefyd yn cael ei werthfawrogi yn yr un modd. Mae pryderon bod pobl anabl yn cael eu gweld yn aml fel pobl sydd â llai i’w gyfrannu.

Cafwyd trafodaeth hefyd ynghylch disgwyliad yr aelodau y byddent yn cael hyfforddiant ar amrywiaeth, ac y byddai gallu’r aelodau i ystyried eu teimladau a’u rhesymau dros weithredu yn bwysig. Mae UKCEN a chanolfan Ethox yn cynnig hyfforddiant o safon mewn moeseg i aelodau Pwyllgorau Moeseg Glinigol.

Codwyd pryderon nad yw’r polisïau a grëwyd i gefnogi’r Gymraeg wedi cael eu mabwysiadu ac yn cael eu dilyn. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod gan ddiwylliannau a chymunedau lefelau uwch o barch, ac mae angen sicrhau bod y rhain yn cael eu hystyried.

Mae’r ddogfen yn cydnabod bod caplaniaeth a chred yn chwarae rôl allweddol. Awgrymwyd y byddai un unigolyn sydd wedi cael hyfforddiant llawn fel cynrychiolydd cydraddoldeb, gyda gwybodaeth drylwyr o ddeddfwriaeth Cymru a’r galw yng Nghymru, yn rhesymol. Oherwydd bod cynifer o gredoau, byddai cynrychioli dim ond un ohonynt yn arwain at broblemau.

Tynnodd y pwyllgor sylw at yr angen i wahaniaethu rhwng cynrychioli ac adlewyrchu, a’r angen i gyfansoddiad aelodaeth y pwyllgor adlewyrchu’r gymuned. Mae’n bwysig gallu deall anghenion unigolion yn gyflym iawn mewn sefyllfaoedd o straen.

Mae hyblygrwydd pwyllgorau’n bwysig iawn. Mae angen dull gweithredu ymarferol er mwyn osgoi gorlwytho gweithlu sydd eisoes yn brysur. Byddai sicrhau cysondeb dull gweithredu drwy ddefnyddio safonau cenedlaethol yn gymorth.

Cafodd y cysylltiadau rhwng Pwyllgorau Moeseg Ymchwil eu hystyried. Mae pwyllgorau ymchwil yn ystyried y rheolau o ran cymhwyso moeseg, yn hytrach na’r foeseg ei hunan, ond bydd y cysylltiadau’n bwysig beth bynnag.

Wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio, bydd angen gwneud penderfyniadau ar lawer o faterion wrth inni geisio dychwelyd at ryw fath o normal.  Dywedodd y grŵp mai’r dull gweithredu gorau fyddai helpu i greu pwyllgorau lleol lle nad ydynt yn bodoli, gan sicrhau eu bod yn parhau, a gellid ystyried sefydlu pwyllgor cenedlaethol wedyn.

Diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau am eu sylwadau gan ddweud y dylid anfon unrhyw sylwadau pellach i Grŵp Cynghori ar Faterion Moesol a Moesegol COVID-19.

4. Unrhyw fater arall a blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol

Cynhaliwyd trafodaeth ar y camau nesaf yn y broses o ddychwelyd yn raddol a’r pryderon y gallai penderfyniadau lleol arwain at amrywiadau. Cytunodd yr aelodau i weithio gyda’i gilydd i dynnu sylw at ddimensiwn moesegol y broses benderfynu. Cytunodd yr Athro Harpwood i ddrafftio papur ar faterion moesegol gyda chymorth aelodau’r grŵp. Byddai Rhwydwaith Moeseg Glinigol i Gymru yn gallu ystyried materion ymarferol megis materion felly. Dywedodd aelodau y byddai angen ystyried Ymddiriedolaethau’r GIG megis Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Felindre, gan y byddai ganddynt hwy hefyd ystyriaethau moesegol.

Dywedodd TUC Cymru y gallai’r adroddiad canlynol fod yn ddefnyddiol: Preparing for the return to work outside the home: a trade union approach ar tuc.org.uk

Dywedodd y Cadeirydd mai un posibilrwydd fyddai trefnu i’r tri phwyllgor moeseg lleol sy’n bodoli ar hyn o bryd gyfarfod i drafod materion perthnasol ac edrych ar yr hyn sy’n gyffredin a’r hyn sy’n wahanol. Ymhlith y materion y gallent eu hystyried yw grwpiau agored i niwed, pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, a sut y gallai’r boblogaeth ddod allan o’r cyfnod o gyfyngiadau symud llym.

Gallai gwaith Grŵp Cynghori ar Faterion Moesol a Moesegol COVID-19 Cymru yn y dyfodol gynnwys rhoi ystyriaeth i gyfathrebu, darparu treiddgarwch, a chynllunio gofal ymlaen llaw. Cytunodd y Comisiynydd Pobl Hŷn i weithio gydag eraill ar feysydd lle mae pryderon ynghylch llacio’r cyfyngiadau symud.

Mae Grŵp Cynghorol BAME wedi cael ei greu, a bydd ei gylch gorchwyl yn cael ei rannu ag aelodau’r grŵp.

Cytunwyd y byddai cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob pythefnos, oni bai bod yr angen yn codi i newid hynny.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 14 Mai 2020.