Neidio i'r prif gynnwy

Camau

Camau
Cam gweithredu Cyfrifol
1. Dyddiadau cyfarfodydd i'w hailystyried. HP/KF/LD
2. Cylch Gorchwyl SHAW i'w rannu â’r grŵp. CR
3. Sylwadau yn y bar ochr i'w rhannu â TRD a KH. Ysgrifenyddiaeth

Yn bresennol

Heather Payne (Cadeirydd), Aled Roberts, Kevin Francis, Alison Parken, Rhian Davies, Viv Harpwood, Carol Wardman, Kathy Riddick, Aled Edwards, Ben Thomas, Julian Raffay, Paula Hopes, Helena Herklots, Tirion Rees Davies, Katy Hossack, Idris Baker, Martyn Jones, Rhian Davies

Nodyn o’r cyfarfod

Croeso, ymddiheuriadau a chyflwyniadau

Esboniodd y Cadeirydd yr angen i newid y diwrnod y mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal, gyda dydd Gwener yn cynnig lle yn y dyddiadur. Ar ôl ystyried, sylweddolwyd bod hyn yn ymyrryd â diwrnodau Sanctaidd ac ymddiheurwyd. Bydd dyddiadau cyfarfodydd yn cael eu hailystyried ac ymgynghorir â chydweithwyr i sicrhau nad ydym yn eithrio neb.

Croesawyd Julian Raffay i'r grŵp. Mae Julian wedi cymryd yr awenau oddi wrth John Wilkes fel Cyfarwyddwr Astudiaeth Caplaniaeth yn Sant Padarn. Cyn hynny bu'n gweithio mewn plwyf fel Ficer, yn union cyn hynny fel Caplan Ymchwil. Treuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd yn gweithio mewn Caplaniaeth Iechyd Meddwl. Mae angerddol iawn am gaplaniaeth ond hefyd cyd-gynhyrchu, sef yr hyn yr oedd ei Ddoethuriaeth yn seiliedig arno.

Ynghyd â Kathy Riddick, Idris Baker a Heather Payne, mae Julian yn aelod o'r Grŵp Iechyd a Llesiant Ysbrydol (SHAW) sy'n cael ei gadeirio gan yr Athro Linda Ross ym Mhrifysgol De Cymru. Grŵp cynghori ar sefydliadau ledled Cymru yw hwn sy'n adrodd i'r Prif Swyddog Nyrsio. Oherwydd pwysigrwydd arddel dull ysbrydol o ymdrin â llesiant pobl mewn gofal iechyd, gall hyn fod yn seiliedig ar ffydd neu beidio. Mae'n bwysig deall y modd y darperir gwasanaethau Caplaniaeth ar draws y GIG yng Nghymru.

Mae Kathy yn aelod gwerthfawr a hirsefydlog o'r grŵp hwn ac mae wedi cynnig bod yn gyswllt ffurfiol rhwng CMEAG Cymru a SHAW. Mae SHAW yn cyfarfod unwaith bob tri mis ac felly bydd materion CMEAG y gellir eu rhannu â'r grŵp ehangach yn cael eu cyfleu bob chwarter.

Esboniodd Kathy fod SHAW wedi treulio llawer o amser ar sut i ddiffinio ysbrydolrwydd o ran gofal iechyd a'r hyn a olygir wrth ofal ysbrydol. Mae hyn wedi'i gynnwys yn y Cylch Gorchwyl, a fydd yn cael ei rannu â CMEAG er mwyn sicrhau dealltwriaeth gyffredin.

Cofnodion blaenorol

Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau'r grŵp roi unrhyw sylwadau/gwelliannau ynghylch nodyn y cyfarfod diwethaf i'r Ysgrifenyddiaeth.

Ymddiheurwyd wrth Viv Harpwood a gollwyd o'r rhestr mynychwyr a' rhoddwyd canmoliaeth iddi am y cyflwyniad ar faterion gwrth-frechu.

Camau gweithredu blaenorol

Cytunwyd i’w cario drosodd i'r cyfarfod nesaf.

Offer cyfrifo risg QCOVID

Ymunodd Katy Hossack a Tirion Rees-Davies â'r cyfarfod o Dîm Trefniadau Gwarchod Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am feddwl am anghenion y bobl sy'n agored iawn i niwed yn glinigol o fewn y boblogaeth. Nodir y bobl hyn ar y rhestr cleifion sy’n gwarchod eu hunain.

Ar ddechrau'r pandemig ymchwiliodd Prifysgol Rhydychen i ba ffactorau sy'n gwneud pobl yn fwy agored i ganlyniadau gwael tymor byr yn sgil Covid. Y defnydd cychwynnol o'r algorithm fyddai nodi unrhyw bobl sy'n agored iawn i niwed yn glinigol nad ydynt eisoes wedi'u cwmpasu gan broses y rhestr o bobl sy’n gwarchod eu hunainn. Mae'r algorithm yn caniatáu inni edrych ar gyfuniad o ffactorau, y mae ein cydweithwyr yn Lloegr o bosibl yn mynd i'w defnyddio i nodi pobl ychwanegol sy'n agored iawn i niwed yn glinigol a fydd wedyn yn cael mynediad blaenoriaeth grŵp 4 i'r brechlyn. Hwn yw’r man cychwyn ac rydym yn chwilio am arweiniad cyffredinol ac adborth gan y grŵp. Gwahoddwyd y grŵp i rannu eu barn.

Sylwadau:

  • Eglurwch fwy am deipoleg "gellid ei ddefnyddio mewn nifer o ffyrdd ar lefel y boblogaeth fel offeryn i gefnogi clinigwyr a'r rhai sy’n wynebu’r cyhoedd”
  • SPL - byddai'n ddefnyddiol ddarganfod y cysylltiad rhwng y rhestr gyfredol a'r defnydd arfaethedig o'r ap
  • A ydym yn edrych yn bennaf ar warchod neu frechlynnau
  • Gan gyfeirio at sgwrs gynharach cyn y Nadolig, bryd hynny, roedd gan 68% o'r rhai sydd wedi marw o COVID yng Nghymru anabledd. Ble mae'r rhai ag anabledd neu anabledd dysgu yn yr algorithm?
  • Sut yr ydych yn cyfrif am effaith ffactorau economaidd cymdeithasol? Mae’n ymddangos bod hyn yn rhan o fod yn agored i niwed o ran salwch difrifol a marwolaeth. Sut rydych chi'n cyfrif am y rhyngweithio rhwng ffactorau meddygol a chymdeithasol?
  • Mae'n amlwg bod pobl o rai cymunedau ffydd yn cael eu perswadio i beidio â cymryd rhan yn y rhaglen frechu
  • Mater ynghylch cydbwysedd o ran cadw addoldai ar agor a thrwy hynny gael mynediad at bobl y byddai angen cyngor a chymorth arnynt
  • Sut y gallwn ddechrau sefydlu algorithmau sydd wedi bod yn berthnasol ac yn gyfoes gyda chymunedau ac unigolion y mae gwir angen syniadau cytbwys arnynt?
  • Mae model meddygol yn cael ei gymhwyso i'r algorithm ond nid yw'r brif broblem bob amser yn feddygol; mae'n gymdeithasol ac yn amgylcheddol
  • Mae canlyniadau'n waeth yn glinigol i'r rhai sydd â gordewdra. Mae ar bobl angen gwybodaeth am sut y bydd eu BMI yn effeithio ar eu canlyniad fel y gallant fod yn fwy gofalus wrth atal y broblem
  • Mae pobl sy’n gwrthwynebu’r brechlyn yn creu cyfyng-gyngor moesol o safbwynt diogelwch cyhoeddus. Mae gweithwyr iechyd y cyhoedd yn wynebu ymddygiadau annerbyniol ac mae angen cymorth arnynt
  • Nid oes peiriannau glanhau aer da wedi'u gosod mewn addoldai. Mae angen rhybudd iechyd i helpu'r cyhoedd i wneud penderfyniad gwybodus.
  • Dylid gwisgo masgiau drwy'r amser y tu allan i'r cartref i roi neges glir.
  • Mae Cyfarwyddwyr Angladdau mewn perygl mawr iawn ond nid ydynt ar y rhestr flaenoriaeth. Maent yn weithlu medrus ac nid yw’n hawdd cael pobl i mewn yn eu lle.
  • A oes gennym adborth gan glinigwyr yng Nghymru ynghylch defnyddio'r offeryn? A yw'n hawdd ei ddefnyddio? A oes unrhyw fylchau pe baem yn ei fabwysiadu?
  • Coronafeirws: werthoedd ac egwyddorion moesegol ar gyfer darparu gofal iechyd Roedd y cyngor a'r papur cychwynnol hwn yn seiliedig ar foeseg glinigol ond erbyn hyn mae ffactorau clir o ran cyfiawnder cymdeithasol dan sylw. Mae’n ddoeth cynnwys damcaniaethau o gyfiawnder cymdeithasol ac yn hanfodol datblygu cyfres o egwyddorion llywodraethu clir
  • Gwrthwynebwyr y brechlyn - bydd blaenoriaethu amherffaith bob amser yn trech na blaenoriaeth perffaith sy'n digwydd yn araf
  • Dylid ystyried sut y mae’r egwyddorion yn cael eu mynegi yn y papur. Fel arfer, bydd triniaeth o fudd i unigolyn tra bo triniaeth ar ffurf brechlyn o fudd i bobl eraill. Rhaid inni feddwl am sut yr ydym yn cyflwyno'r cydbwysedd hwn yn erbyn yr egwyddorion
  • Mae meddygon teulu yn Lloegr wedi herio'r JCVI gyda'r gwahaniaeth amlwg mewn gwahanol ardaloedd daearyddol pan fydd pobl yn cyrraedd henaint. Os yw'r brechiad yn seiliedig ar oedran, fe welwch fod gan y cymunedau cyfoethog gyfradd frechu llawer uwch sy'n amddiffyn pawb yn y gymuned honno o’i gymharu â chymuned gyfagos lle mae llai o bobl yn cyrraedd oedran hŷn. Mae'r cymunedau hyn eisoes mewn perygl am y rhesymau yr ydym wedi edrych arnynt ac yn cael llai o amddiffyniad
  • Gall amhariadau a chyflyrau iechyd gael eu lluosi gan eu sefyllfa dai, rhyngweithio â darparwyr gofal a gwasanaethau a chyflogaeth. Mae canran uchel o'r rhai â chyflyrau iechyd mewn cyflogaeth â chyflog isel ac yn weithwyr allweddol. Mae'n bwysig bod yr holl ffactorau'n cael eu hystyried
  • Sut mae unigolion yn cael gwybod am lefel eu risg a sut y cânt eu cefnogi? A ellir defnyddio'r wybodaeth hon i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau ehangach mewn cymdeithas? A yw’n bosibl y gellid defnyddio'r wybodaeth hon i achosi niwed, mewn ffordd wahaniaethol gyda materion fel yswiriant neu gyflogaeth yn y dyfodol
  • Nid yw'r gymuned ehangach yn cael ei chynrychioli wrth fodelu risg. Mae anghydraddoldeb systematig i'r boblogaeth anweledig
  • A oes angen yr algorithm hwn arnom? Beth y mae'n mynd i'w wneud na allwn ei wneud ar hyn o bryd a pham y mae arnom ei angen?
  • Rhaid inni gwestiynu'r hyn a olygwn wrth ddefnydd gan y cyhoedd. Ni fyddai'r offeryn hwn yn cael ei ddefnyddio gan unrhyw un na all gael mynediad i'r rhyngrwyd na'r rhai nad ydynt yn hyderus i ddefnyddio'r offeryn. Os yw ar gael i'r cyhoedd, beth yw'r gefnogaeth ynghylch hynny? Ble rydych chi'n mynd am gymorth wrth ddysgu eich bod yn risg uchel?
  • Mae data'n rhy ddrud i lawer o bobl. Mae'n debyg na fydd gan y bobl yr ydym yn ceisio'u cyrraedd fynediad at offeryn y GIG
  • Pwy all aros? Gall pobl sy'n byw'n gyfforddus mewn tai braf aros. Rhaid i bobl ifanc fynd allan i'r gwaith, mae rhieni sengl yn marw ac yn gadael plant amddifad. Rydym yn creu problemau enfawr i gymdeithas yn y dyfodol
  • Mae'r adroddiadau yn y wasg ar broblemau wrth gyflwyno’r brechlyn yn sbardunoo’r rhai sy’n gwrthwynebu’r brechlyn. Mae angen trafodaethau gwell gyda'r cyfryngau prif ffrwd i gyflwyno negeseuon am bwy sydd mewn perygl ac y bydd y brechlyn yn eu diogelu
  • Data, mae angen inni herio'r cwmnïau ffôn nad ydynt wedi rhoi data am ddim i bawb. Mae angen mynd i'r afael â hyn ar lefel y llywodraeth ganolog
  • Ysgolion: mae angen inni gyflwyno cyfrifiaduron a chael gwared ar yr asiantaethau sy'n darparu prydau ysgol. Y rhai sy'n derbyn talebau bwyd yw'r rhai sy'n mynd allan i weithio ac sydd mewn perygl
  • Mae'n bwysig iawn ein bod yn cael hyn yn iawn yng Nghymru gan y bydd yn bwydo i mewn i bethau eraill megis blaenoriaethu brechu
  • Dylem fod yn brechu gofalwyr ar yr un pryd â'r person bregus y maent yn ei gefnogi
  • Rhaid inni gael set dda o feini prawf i seilio penderfyniadau arnynt. Mae'r papur yn cyfeirio at y risg unigol o ganlyniad difrifol tymor byr ond mae angen inni ystyried canlyniadau hirdymor Covid gan fod rhai wedi cael eu hanalluogi'n ddifrifol ganddo

Diolchodd Katy a Tirion i'r grŵp am y trafodaethau a'r pwyntiau allweddol a godwyd ac maent yn eu rhannu gyda chydweithwyr yn Lloegr a'r tîm brechu.

Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau'r grŵp roi unrhyw sylwadau manwl neu wybodaeth bellach i'r Ysgrifenyddiaeth. Bydd crynodeb o'r trafodaethau hyn yn cael ei baratoi a'i anfon allan fel papur.

Bwrdd brechu

Bellach mae gennym fwrdd brechu yng Nghymru dan gadeiryddiaeth Dr Richardson a Claire Rowlands. Mae'r is-grŵp brechu wedi gofyn i gynrychiolydd CMEAG eistedd ar ei grŵp ac ar ôl cael y manylion llawn byddwn yn gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb.

Brechu a galluedd meddyliol

Gofynnwyd i'r cylch ystyried y papur drafft cyn y cyfarfod a'i wahodd i rannu eu barn.

Cynhaliodd y Fforwm Galluedd Meddyliol Cenedlaethol weminar ymateb cyflym gyda'r nod o fynd i'r afael â'r cwestiynau hyn. Rhaid gwneud y penderfyniad budd gorau er budd y person hwnnw a rhaid gwneud pob ymdrech i'w gynnwys yn y penderfyniad. Mae eu gallu'n cael ei farnu ar gyfer y penderfyniad hwnnw bryd hynny, nid yw'n absoliwt.

Nid barn y teulu sy'n trechu ond y ffordd y mae'r teulu'n teimlo y byddai'r person wedi teimlo pe bai p?er atwrneiaeth barhaus neu beidio.

Atal – sut mae hyn yn cael ei ddiffinio?

Dylai'r papur gynnwys yr angen i roi gwybodaeth ymlaen llaw er mwyn lleihau'r risg o ymwrthedd. Mae llawer o offer ar gael i helpu i ddeall. Gellid defnyddio eli anaesthetig ar gyfer croen gorsensitif.

Mae'r cwestiwn ar ddiwedd y papur yn cosbi’r sawl nad yw wedi cael ei frechu oherwydd y prosesau sylfaenol cyn brechu.

Ni chydnabuwyd y gallech gael eich brechu ond eich bod yn dal i fod yn cludo’r feirws.

Ni ragwelwyd rhaglen sgrinio/brechu’r boblogaeth pan grëwyd y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Mae cyflymder yn hanfodol. Rydym yn poeni am wahaniaethu yn erbyn pobl lle na ellir gwneud penderfyniad lles gorau cyflym iawn. Mae angen cydnabod yr heriau hyn. Dryswch ynghylch deall y Ddeddf Galluedd Meddyliol a'i chymhwyso mewn gofal iechyd. Mae'n anodd datblygu system i gefnogi'r broses hon o wneud penderfyniadau a chyflwyno'r brechlyn ar y raddfa yr ydym yn ei wneud.

Mae gan Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar anabledd dysgu ddigonedd o arbenigedd a dealltwriaeth o'r Ddeddf Galluedd Meddyliol a gall helpu i lywio dogfen ganllawiau.

Hawliau Dynol ac o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, mae esgeulustod yn broblem, mae angen gallu amddiffyn ataliaeth ac mae angen iddo fod yn gymesur.

Bydd Paula yn rhannu dogfen y mae'n gweithio arni ar hyn o bryd gyda'r bwrdd iechyd ynghylch addasiadau rhesymol i baratoi pobl ar gyfer dull llai cyfyngus lle mae'r tîm amlddisgyblaethol wedi cytuno ei bod er budd gorau'r person i gael y brechlyn a'r mesurau i'w cymryd i osgoi eu dal yn gorfforol.

Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau'r grŵp roi unrhyw sylwadau manwl neu wybodaeth bellach i'r Ysgrifenyddiaeth.

Y cyfarfod nesaf

29 Ionawr 2021